Eitem ar yr agenda
LLES CENEDLAETHAU'R DYFODOL: ARCHWILIAD O GYMRYD CAMAU I ADOLYGU CASGLIADAU GWASTRAFF Y CARTREF, CEFNOGI’R AMCAN LLES O DDARPARU AMGYLCHEDD DENIADOL A GWARCHODEDIG
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol sy’n cyflwyno canfyddiadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC)
o ddull y Cyngor mewn perthynas â gweithredu egwyddorion Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth
casglu gwastraff, ynghyd ag ymateb y Cyngor i ganfyddiadau Swyddfa Archwilio
Cymru.
12pm – 12.30pm
Cofnodion:
Roedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff,
Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward a chynrychiolydd o Swyddfa Archwilio
Cymru, Jeremy Evans, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd y
Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yr adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r adroddiad gan
Swyddfa Archwilio Cymru am y camau yr oedd y Cyngor yn eu cymryd i adolygu
casgliadau gwastraff y cartref a sut oedd y camau hynny yn cefnogi’r
flaenoriaeth gorfforaethol o ddarparu amgylchedd deniadol a ddiogelir sy’n
cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Amlinellodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru rai
meysydd gwella, datganodd y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol mai ei rôl oedd ymateb i’r meysydd hynny a amlygwyd. Roedd y
gwelliannau arfaethedig wedi cael eu hystyried ac roedd rhai elfennau eisoes ar
waith. Un pryder oedd y gyllideb bresennol, byddai’n anodd cael cyllid i wneud
y gwelliannau. Byddai gwaith yn cael ei gwblhau o fewn adnoddau a chyllideb
bresennol y gwasanaeth gwastraff.
Esboniodd Jeremy Evans (Swyddfa Archwilio Cymru)
wrth yr aelodau pam yr oedd yr adroddiad wedi’i greu. Dywedodd eu bod wedi
sylwi ar nifer o bethau cadarnhaol yn ystod yr adroddiad gan gynnwys; buddion
ehangach posibl, cydweithio sefydledig a chynnwys trigolion lleol. Roedd y
meysydd gwella a awgrymwyd wedi cynnwys strategaeth mwy hirdymor.
Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau
canlynol:
·
Roedd cyfathrebu yn hanfodol i
ddarparu newidiadau i’r gwasanaeth.
Byddai cynnwys
preswylwyr a sefydliadau eraill yn bwysig er mwyn pontio yn esmwyth.
·
Cytunwyd bod addysgu plant o
oedran ifanc yn hanfodol er mwyn deall pwysigrwydd ailgylchu a defnyddio llai o
blastig ac ôl-troed carbon y Cyngor.
Byddai angen gwneud
gwaith allweddol gydag ysgolion.
·
Roedd angen adolygu gwastraff
o ysgolion er mwyn gweithio’n fwy effeithiol gyda gwell lefelau ailgylchu.
Cadarnhawyd bod gwefan
ar gael sy’n rhoi gwybod i ble mae gwastraff Sir Ddinbych yn mynd. Byddai’r
Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yn holi a yw’r
ddolen i’r wefan ar gael trwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.
- Roedd yn rhaid i gynaliadwyedd strategaeth wastraff
mwy hirdymor ymgorffori’r strategaethau newydd a gyflwynir gan Lywodraeth
Cymru.
Nid oedd y strategaethau newydd wedi cael eu gwneud yn
glir hyd yma. Ar ôl cael eglurhad
byddent yn cael eu cynnwys yn y strategaeth. Roedd y model newydd wedi’i lunio
i fod yn fwy cynaliadwy gyda’r gallu i ymateb i strategaethau newydd. Roedd
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi annog y Cyngor i edrych ar gynaliadwyedd
y strategaeth yn y dyfodol a’i hadolygu fel rhan o’r adroddiad. Cafwyd
cadarnhad y byddai’r strategaeth newydd yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor
craffu yn y dyfodol.
Diolchodd y
pwyllgor i swyddog Swyddfa Archwilio Cymru ac i’r Pennaeth Priffyrdd,
Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol am yr adroddiad positif a byddai’n
croesawu’r adroddiad am y strategaeth pan fyddai wedi’i gwblhau.
Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:
Penderfynwyd: - Ar ôl ystyried
canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac yn amodol ar yr arsylwadau uchod,
cadarnhau ei fod yn fodlon ag ymateb y Cyngor i'r cyfleoedd i wella a awgrymir
yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
Dogfennau ategol: