Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH ARWYDDION TWRISTIAETH AR GYFER SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar ddatblygu Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y cynlluniau arwyddion twristiaeth presennol.

 

11.30am – 12pm

 

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd, Cynghorydd Hugh Evans, Rheolwr Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd, Mike Jones a’r Arweinydd Tîm – Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau a Peter McDermott yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â datblygu’r Strategaeth Arwyddion Twristiaeth, gan gynnwys adroddiad cynnydd ar gynlluniau parhaus arwyddion twristiaeth.    

 

Clywodd aelodau bod yr adroddiad yn amlygu’r angen i fynd i’r afael ag Arwyddion Twristiaeth yn Sir Ddinbych. Mae twristiaeth yn bwysig iawn i Sir Ddinbych ac mae swyddogion wedi buddsoddi llawer iawn o amser a gwaith ynddo. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi dyddio gan fod y gyllid a oedd yn weddill ar gyfer arwyddion Dyffryn Clwyd i’w gosod ar yr A55 wedi cael eu cytuno gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Croesawodd yr Arweinydd sefydlu gweithgor i ddatblygu Strategaeth Arwyddion Twristiaeth dilynol gyda’r bwriad o gyfeirio twristiaid at bob rhan o’r sir. Codwyd pryderon ynglŷn â chyllid ar gyfer y strategaeth, a fyddai disgwyliadau uchel yn gyraeddadwy gan y sector preifat ac a fyddai’r strategaeth yn gydnaws â Ffordd Cymru?       

 

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd esboniad i’r pwyllgor o gylch gorchwyl y Gweithgor. Roedd aelodau o bob un o’r grwpiau ardal wedi cael eu gwahodd i fynychu’r grŵp. Bwriad y grŵp oedd goruchwylio datblygiad y Strategaeth Arwyddion Twristiaeth. Byddai pump amcan arfaethedig y strategaeth, a amlinellir yn yr adroddiad, yn cael eu monitro gan y Gweithgor.     

 

Rhoddwyd trosolwg o Ffordd Cymru i Aelodau gan yr Arweinydd Tîm – Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau. Cadarnhawyd bod Sir Ddinbych yn gynwysedig yn Ffordd Gogledd Cymru ynghyd â phob Awdurdod arall yn y Gogledd. Rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau eraill. Roedd Cymru a’i hatyniadau yn cael eu hyrwyddo trwy wybodaeth Ffordd Cymru er mwyn annog twristiaid i ymweld â Chymru.

 

Cafwyd trafodaethau ynglŷn â’r arwyddion o’r A55 tuag at y Rhyl. Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd bod swyddogion wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau. Esboniwyd bod nifer o gwynion wedi’u derbyn gan drigolion Dyserth ynglŷn â thraffig. Cytunodd swyddogion y byddai arwyddion ar gyfer y Rhyl o Gyffordd 31 yn cynyddu traffig sy’n pasio trwy Dyserth gan arwain at gynnydd mewn cwynion. Esboniwyd bod swyddogion wedi edrych ar ddatrysiadau eraill. Bydd yr arwyddion newydd arfaethedig yn caniatáu i’r cyhoedd gyrraedd cyrchfan ac yna mynd ymlaen i atyniad twristiaid.

 

Nid oedd arwyddion ar gyfer pwyntiau gwefru mewn meysydd parcio wedi cael eu cynnwys yn nyluniad yr arwyddion twristiaid newydd, cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y gallai hynny fod yn bwnc trafod yn y dyfodol. Roedd gorsafoedd gwefru ar gyfer ‘Smart Cars’ yn cael eu cefnogi gan dechnoleg ‘Smart’ a oedd yn cynnwys mapiau gorsafoedd gwefru, teimlwyd bod hynny’n ddigonol ar gyfer y galw presennol.   

 

Cadarnhawyd mai dim ond newydd gymeradwyo'r cyllid oedd y Cyngor. Clywodd aelodau nad oedd yr hysbysiad o gymeradwyaeth wedi cael ei drafod gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned hyd yma. Byddai’r Cyngor yn cyfathrebu gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn ag amserlenni gwaith er mwyn cael amserlen mewn lle erbyn haf 2020.

 

Datganodd y Cadeirydd bod y gefnffordd yn mynd trwy nifer o wardiau lleol, awgrymwyd y dylai Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fod yn rhan o’r Gweithgor ynghyd â’r aelodau.  Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw bod y gweithgor yn archwilio pryderon aelodau gan gynnwys cyllid a chyllidebau.    

 

Cefnogodd yr Arweinydd y gallai’r gweithgor edrych ar yr awgrym o ddefnyddio symbolau ar arwyddion twristiaid o’r Gefnffordd. Gellid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn i’r polisi gael ei adolygu er mwyn hyrwyddo trefi sy’n bellach i ffwrdd o’r gefnffordd.

 

Roedd aelodau yn falch o weld lluniau o Sir Ddinbych yn cael eu cynnwys yn nogfen Ffordd Gogledd Cymru. Cadarnhawyd y byddai mwy o wybodaeth ac atyniadau twristiaid Sir Ddinbych yn cael eu hyrwyddo ar-lein ac mewn dogfennau pellach.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:

(i)           yn amodol ar yr arsylliadau uchod, cefnogi parhad y gwaith i ddatblygu'r Strategaeth Arwyddion Twristiaeth, gan gynnwys estyn gwahoddiad i gynrychiolwyr o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i gyfrannu at ddatblygu’r Strategaeth pan fyddai’r Gweithgor yn ystyried hynny’n briodol; a

(ii)          derbyn drafft terfynol o’r Strategaeth Dwristiaeth ar ddiwedd 2020 / dechrau 2021 i’w harchwilio cyn ei chymeradwyo

 

 

 

Dogfennau ategol: