Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD AR YR ARGYMHELLION SY’N DEILLIO O ADOLYGIAD TÂN MYNYDD LLANTYSILIO

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth sy'n amlinellu'r cynnydd a wnaed gan y Cyngor a'i asiantaethau/sefydliadau partner mewn perthynas â gweithredu argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei adolygiad o'r digwyddiad tân a'i effaith.

 

10.40am – 11.15am

 

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Emlyn Jones, Uwch Swyddog Cefn Gwlad, David Shiel a chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, Nick Thomas a Rhys Ellis, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau trwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan ddarparu diweddariad am y cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn argymhellion a wnaethwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ynglŷn â’r adolygiad o Dân Mynydd Llantysilio yn haf 2018.  Darparwyd yr adroddiad ar gais y Pwyllgor.

 

Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y gwaith yr oeddent wedi’i gwblhau ar y safle a’r opsiynau ar gyfer gwaith pellach. Roedd adolygiad o’r opsiynau i adfer yr ardal wedi’i gwblhau.  Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda pherchnogion tir. Roedd cyfarfod wedi’i drefnu gyda phorwyr cyn i’r gwaith ddechrau yn y gwanwyn.  Cytunwyd cyflogi swyddog rhostir a chymeradwywyd cyllid gan Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru. Byddai deiliad y swydd yn monitro gwaith ar y safle a gwaith gyda pherchnogion tir a phorwyr lleol.  Roedd aelodau am ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru am y bartneriaeth ariannu i recriwtio swyddog rhostir ar gyfer y safle. Mynegodd yr aelodau siom nad oedd yr Awdurdod Tân ac Achub wedi cytuno i gyfrannu’n ariannol at swydd y swyddog rhostir. Pwysleisiodd swyddogion bod y Gwasanaeth Tân wedi gofyn am gael cymryd rhan yn yr hyfforddiant a chefnogi deiliad y swydd newydd, ond na allai gyfrannu'n ariannol at y swydd. Cadarnhawyd na chysylltwyd yn uniongyrchol ag unrhyw awdurdodau lleol eraill am help i ariannu’r swydd.   

 

Cododd aelodau bryderon am ffensio ardaloedd ar y safle. Pwysleiswyd bod angen cyfathrebu gyda'r porwyr. Mae’r berthynas gyda’r porwyr yn hynod bwysig. Roedd cynnwys porwyr yn y gwaith o adfer y tir yn cael ei ystyried yn hanfodol. Amlygwyd bod y problemau a wynebwyd gan y porwyr ar y pryd ac yn dilyn y tân wedi bod yn eithriadol o heriol.  

Roedd y syniad o ffensio ardaloedd yn cael ei gynnig ar gyfer rhannau o’r tir, ond ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad. Esboniwyd yr anawsterau sy'n gysylltiedig â ffensio tiroedd comin gan y byddai angen cael cytundeb Adran 194 gan Lywodraeth Cymru. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y dylid osgoi ffensio ardaloedd o dir, yn ddibynnol ar drafodaethau â’r porwyr. Trafodwyd pryderon am lefelau llystyfiant mewn rhannau o’r mynydd. Cadarnhawyd bod rhai ardaloedd wedi gweld mwy o ddifrod nag eraill. Roedd nifer o wahanol dechnegau a dulliau o adennill a meithrin y llystyfiant yn cael eu cynllunio a byddent yn cael eu treialu. Byddai rhai ardaloedd yn cymryd llawer o amser i’w trwsio a’u datblygu.

 

Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd bwysigrwydd y gweithgor i fonitro ac adolygu gwaith a wnaethpwyd ar y safle i adfer a phori’r tir. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y gellid pori’r tir ymhellach ymhen amser. Byddai swydd newydd y Swyddog Rhostir yn helpu i feithrin perthynas dda gyda phorwyr a hwyluso gwaith gyda Sir Ddinbych ac asiantaethau eraill. Byddai’r swydd newydd yn darparu dolen allweddol i’r porwyr â Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cyfathrebu unrhyw bryderon neu arsylwadau.

 

Yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: 

(i)           yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cydnabod y cynnydd a wnaethpwyd hyd yma i weithredu argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i’r tân ar Fynydd Llantysilio a’i effaith;

(ii)          cadarnhau fel rhan o’u hystyriaeth eu bod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth yr Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer y Prosiect Rheoli Rhostir ac Atal Tanau Gwyllt (Atodiad 2 yr adroddiad); a

(iii)         y dylai sylwadau gael eu rhoi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, trwy gynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod Tân ac Achub, yn gofyn iddo ailystyried y penderfyniad i beidio â darparu cymorth ariannol i’r swydd Swyddog Rheoli Rhostir a fyddai’n cael ei sefydlu yn y dyfodol agos.

 

 

 

Dogfennau ategol: