Eitem ar yr agenda
POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH: ELFENNAU ANSTATUDOL
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Iau, 12 Mawrth 2020 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Addysg, Cynllunio ac Adnoddau sy'n
amlinellu'r broses a ddilynir gan y Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr o ran
adolygu’r elfennau anstatudol ym Mholisi Cludiant i Ddysgwyr y Cyngor, a
chanlyniadau’r adolygiad.
10.10am – 10.40am
Cofnodion:
Roedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a
Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, y Prif Swyddog Cyllid a
Sicrwydd, Martyn Dodd, Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau, Ian Land, Prif Rreolwr –
Moderneiddio Addysg, Geraint Davies a Rheolwr Adran Cludiant Teithwyr, Peter
Daniel i gyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â Pholisi Cludiant i Ddysgwyr Sir
Ddinbych: Elfennau Anstatudol. Dywedodd
bod yr adroddiad wedi ymddangos gyntaf fel testun dadlau ym Mhwyllgor Craffu
mis Mai 2019. Ers yr adroddiad dechreuol hwnnw roedd gwaith wedi cael ei
gwblhau gan Swyddogion a’r gweithgor i ddargadw cludiant ysgol i rai ôl-16.
Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth
bresennol, a allai arwain at orfod gwneud newidiadau ar ôl iddo gael ei
gwblhau.
Clywodd aelodau gan y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau
(RhCA) am y rheoliadau newydd ar gyfer cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a’u heffaith ar y cludiant ysgol sy’n daladwy
yn ôl disgresiwn.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Cadarnhad bod yr awdurdod yn
darparu cludiant i golegau.
O fewn y polisi roedd
yr awdurdod yn darparu cludiant addas i’r ddarpariaeth addysg agosaf. Os yw
unigolion yn dewis darparwyr amgen, esboniwyd
y byddai’r gost yn cael ei hadolygu gan yr awdurdod a’r darparwr, i ganfod
pwy fyddai'n ariannu’r costau cludiant.
·
Trafodwyd pryderon ynglŷn
â gorwariant ar y gyllideb cludiant i ddysgwyr.
Pwysleisiodd y RhCA bod
y ddeddfwriaeth yn datgan bod gofyniad statudol i ddarparu cludiant i ysgolion.
Gan hynny os yw plentyn yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol, mae’n rhaid i ni
fel awdurdod ddarparu’r gwasanaeth hyd yn oed os yw’n fwy na’r gyllideb.
Clywodd aelodau bod cynnydd wedi’i gymeradwyo yn y gyllideb cludiant i
ysgolion.
·
Pe bai polisi’r Cyngor yn
newid ac yn codi tâl ar fyfyrwyr ôl-16 byddai'n rhaid adolygu’r ddarpariaeth
fflyd cludiant ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio.
Mae’n bosibl y gallai
achosi problemau o ran argaeledd cerbydau addas.
·
Roedd cyfarfodydd a drefnwyd i
aelodau o’r Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr wedi darparu llawer o wybodaeth ac
wedi rhoi darlun o sefyllfa’r awdurdod i’r aelodau.
Rhoddodd eglurder a
gwybodaeth i aelodau am gyllideb a pholisi cludiant i’r ysgol.
·
O fewn y polisi dylid darparu
rhywfaint o hyblygrwydd a disgresiwn o ran ffiniau tir.
·
Roedd trafodaethau wedi cael
eu cynnal gyda’r adran dai.
Roedd cyfathrebiadau
â’r adran dai a’r tîm digartrefedd yn parhau. Roedd elfen disgresiwn y polisi
wedi caniatáu i blentyn barhau i dderbyn cludiant i’w hysgol hyd yn oed ar ôl
symud allan o’r ardal. Roedd pob achos unigol a'r holl opsiynau yn cael eu
harchwilio. Byddai penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y Pennaeth Gwasanaeth i
gynnig cludiant i ysgolion a byddai pob achos yn cael ei asesu ar ei rinweddau
ei hun.
Diolchodd y Cadeirydd i’r holl Swyddogion am yr
adroddiad manwl. Felly:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau
uchod -
(i)
ardystio argymhelliad y
Gweithgor na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r elfennau anstatudol yn y
Polisi Cludiant i Ddysgwyr;
(ii)
yn unol ag awgrym Cadeirydd y Gweithgor, na
ddylid chwalu'r Gweithgor ac y dylai'r Awdurdod gadw briff gwylio dros y 12 mis
nesaf ar effaith y Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Cyhoeddus (PSVAR) ac
adolygiad Llywodraeth Cymru o Deithio gan Ddysgwyr Ôl-16, gan y bydd y ddau yn
cael dylanwad sylweddol ar drafodaethau cludiant ôl-16; a
(iii)
darparu adroddiad i’r Pwyllgor faes o law ar effaith yr uchod ar bolisi
cludiant i ddysgwyr y Cyngor a’r gyllideb gysylltiedig.
|
Dogfennau ategol:
- Learner Transport Report 120320, Eitem 5. PDF 312 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 1, Eitem 5. PDF 359 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 2, Eitem 5. PDF 242 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 3, Eitem 5. PDF 169 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 4, Eitem 5. PDF 177 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 5E, Eitem 5. PDF 221 KB
- Learner Transport Report 120320 - App 6, Eitem 5. PDF 181 KB