Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 46/2019/0792 - TIR ODDI AR LÔN CWTTIR, OEDD YN RHAN O FFERM GREEN GATES,LLANELWY

Ystyried cais ar gyfer yr newid defnydd y tir i safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr gan gynnwys 3 bloc amwynder pâr gyda thirlunio a ffordd fynediad llawr caled cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir yn safle Sipsiwn a Theithwyr i gynnwys 3 adeilad bloc pâr gydag amwynderau a thirlunio a ffordd mynediad â lloriau caled.

 

Cyn i’r cais gael ei drafod fe eglurodd y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd wedi mynychu'r ymweliad safle, a gadawodd y siambr am weddill y drafodaeth gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnllyd yn yr eitem.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Leanne Groves (yn erbyn) – diolchodd i’r gymuned am y cyfle i siarad ar ran ei theulu a'r gymuned amgylchynol. Nodwyd fod pob rhiant eisiau’r gorau i’w plant, a dychmygwch pe bai popeth yn cael ei gymryd ganddyn nhw, dyma'r sefyllfa i blentyn y siaradwraig gyhoeddus, Izzy oedd yn dioddef o Syndrom Pitt Hopkins. Oherwydd y syndrom mae’r teulu wedi dewis tŷ wedi'i leoli i ffwrdd o’r dref a llygredd sŵn. Wrth brynu'r eiddo y cyngor cyfreithiol a gafwyd oedd bod dim bwriad datblygu o fewn y CDLl gan fod y safle yn dir cefn gwlad agored gyda rhagdybiaeth gadarn yn erbyn unrhyw ddatblygiad. Gyda’r sicrwydd hynny fe brynodd y teulu’r eiddo. Ar hyn o bryd mae 7 o bobl yn byw ar Lôn Cwttir. Byddai datblygiad yn effeithio cymeriad gwledig y gymuned gan nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â chymeriad yr adeiladau presennol. Byddai hefyd yn cael effaith andwyol ar natur, byddai’r datblygiad yn effeithio lles y preswylwyr presennol. Byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar Izzy gan y byddai’r synau yn ei chynhyrfu yn ôl barn gweithwyr meddygol proffesiynol. Byddai’r cais yn golygu bod yn rhaid i Izzy fyw yn rhywle arall. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi llwybr sydd eisoes yn beryglus i fod yn fwy peryglus gyda'r cynnydd mewn traffig.

 

Marc Sorrentino (yn erbyn) – mae’r cais ar gyfer datblygiad preswyl y tu allan i ffin y setliad a byddai angen trafod y cais a’r polisïau cynllunio. Dydi’r cais ddim yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol Cymru a pholisïau cynllunio lleol RD-1 a BSC-10. Dydi’r cais ddim yn cwrdd â pholisi RD-1, a ddim yn cydymffurfio â BSC-10 gan nad oes diffiniad am y cyrion, nid yw’r pellter cerdded trwy’r fferm yn fynediad digonol. Dydi’r cais ddim ar y cyrion. Mae’r ffaith bod y cais ddim yn cydymffurfio â’r polisïau yn rheswm digon cadarn i wrthod y cais. Mae llawer o sylw wedi bod i ddarpariaeth Sipsiwn a Theithwyr a'r safleoedd. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru wedi amlygu y dylai'r amwynderau gael eu datblygu mewn lleoliad addas, fodd bynnag cafodd y cyhoedd eu gwneud yn ymwybodol fod safleoedd eraill mwy addas ar sail polisi ac o fewn setliadau wedi eu trafod cyn y broses o ddyrannu safle.

 

Trudy Aspinwall (O blaid) – reolwr tîm y prosiect ‘Teithio Ymlaen’ sy’n gweithio gyda theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i siarad ar ran y teulu a fyddai’n byw yn y datblygiad arfaethedig yn Lôn Cwttir.   Fel cefnogwyr o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr roedd hi’n newyddion da bod Sir Ddinbych yn cynnig datblygiad, roedd pawb yn gwerthfawrogi’r newyddion, yn enwedig a hithau wedi bod yn amser anodd i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr gan fod lleihad wedi bod yn y nifer o safleoedd stopio traddodiadol. Tydi Cynghorau heb frysio i ddatblygu safleoedd newydd.  Mae hynny’n achosi’r Sipsiwn, Roma a Theithiwr i gael eu symud, troi allan a’u symud eto neu symud i dai brics a morter a fyddai’n golygu colli eu cysylltiadau teuluol a’u diwylliant, dyma effeithiau negyddol ar y teuluoedd. Yn 2014 dyma Lywodraeth Cymru yn cydnabod yn gyfreithiol anghenion a hawliau teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar gyfer llety priodol a rhoi’r ddyletswydd ar gynghorau lleol i gwrdd â’r angen. Byddai hyn y galluogi teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr i fyw gyda’u teuluoedd estynedig, byddai hefyd yn rhoi mynediad i gyfleusterau boddhaol, byddai’r teulu fel unrhyw denantiaid eraill yn Sir Ddinbych, ac mi fydda nhw’n talu rhent, treth y cyngor a biliau cyfleustodau. Byddai hyn yn galluogi teuluoedd i gynnal addysg, gofal iechyd a chyflogaeth gyson a gyda lleoliad parhaol yn eu cymuned, mae'n rhywbeth yr hoffem i bob teulu yng Nghymru ei gael. Amlygwyd fod gwahaniaethu tuag at Sipsiwn, Roma a Theithwyr oedd yn ei gwneud yn anodd i Gynghorwyr lleol gan y byddai yna gyfanswm mawr o bobl leol yn gwrthod. Bychan yw’r datblygiad arfaethedig ac ychydig iawn o effaith a fyddai'n ei gael ar y gymuned leol. Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn hollol amlwg, ni ddylai teulu orfod profi ei hunain er mwyn cael penderfyniad, fodd bynnag roedden nhw'n credu ei bod yn bwysig fod y gymuned yn gwybod mai teulu o Sir Ddinbych ydyn nhw ac wedi bod yn y gymuned am 46 mlynedd. Mae’r plant yn mynychu ysgolion Sir Ddinbych ac yn gweithio a chyfrannu at y gymuned, maen nhw’n siarad Cymraeg. Mae’n ddelwedd hollol i’r gwrthwyneb o’r hyn sy’n cael ei bortreadu o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r teulu wedi penderfynu aros yn breifat ac i ymddwyn ag urddas yn ystod yr holl broses.

 

Paul Luckok (O blaid) – dyma Paul yn diolch i’r pwyllgor am adael iddo siarad, roedd yna nifer o bobl ar draws Gogledd Cymru oedd yn gefnogol o’r diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan ganmol Cynghorwyr Sir Ddinbych am ganiatáu i'r cais gyrraedd y cam hwn, ac i'r swyddogion am eu holl waith caled gyda'r adroddiad. Credai’r siaradwr cyhoeddus nad oedd unrhyw achosion cynllunio a fyddai’n arwain at wrthod y cais. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn asesu anghenion teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ofyniad cyfreithiol. Deallai fod rhai pryderon a gwrthwynebiad gan bobl leol, ond roedd nifer o’r gwrthwynebiadau ddim yn seiliedig ar achosion cynllunio ac yn annog preswylwyr lleol i siarad gyda theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn sylweddoli nad oedd bygythiadau i’w ffordd o fyw gan y diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r cais yn berthnasol i deulu sy'n dod o Sir Ddinbych ac wedi byw yn yr ardal ers cenedlaethau ac yn rhan o’r gymuned. Deallai’r ofn sydd gan y preswylwyr yn arbennig y teulu gyda'r plentyn â'i chyflwr, mae gan y teulu a fyddai'n symud i'r datblygiad arfaethedig aelodau o’u teulu hwythau â chyflyrau ac yn deall anghenion  y preswylwyr presennol. Pwysodd y siaradwr ar Gyngor Sir Ddinbych i gymeradwyo’r cais.

 

Dadl Gyffredinol -  dyma’r cadeirydd yn gofyn a oedd unrhyw aelodau wedi ymweld â’r safle gydag unrhyw sylwadau cyn gadael i’r aelod lleol drafod yr eitem. Amlinellodd y Cynghorydd Christine Marston wrth ymweld â’r safle ei bod yn amlwg bod yr ardal arfaethedig ar gyfer datblygu yn wledig, a bod y ffyrdd mynediad i'r safle yn andros o gul.

 

Y Cynghorydd Peter Scott (Aelod Lleol) - dyma'r cadeirydd yn diolch am y cyfle i siarad. Dywedodd bod angen safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych, ond bod y lleoliad arfaethedig ddim yn addas ar gyfer y cais oedd yn cael ei drafod. Yn hanesyddol mae datblygiadau wedi’u cynnig ar gyfer y safle hwn, fodd bynnag nid oedd unrhyw un wedi eu cymeradwyo am ganiatâd cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Scott pe bai’r cais yn cael ei gymeradwy byddai'n achosi cynsail a fyddai’n mynd yn groes i bolisi cynllunio BSC10, 'Dylid osgoi’n gryf neu ei reoli’n llym y defnydd o safleoedd maes glas i ddatblygu a ffafrio defnyddio tir llwyd neu safleoedd wedi’u datblygu yn y gorffennol’. Byddai’r safle yn cael ei ddatblygu ar gae agored y tu allan i'r ffin â Llanelwy, a byddai'n golygu colli llawer o wrychoedd oherwydd y gwaith tirlunio. Byddai’r datblygiad yn gwrthddweud Polisi DR 1 Cynllun Datblygu Lleol o’r 'angen datblygu i warchod a lle'n bosib i wella amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol'. Codwyd pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd i safle'r datblygiad arfaethedig, nid yw'r ffordd yn addas gan ei bod yn gul, dim goleuadau stryd a'r cyfyngiad cyflymder yn 60 m.y.a. Yn olaf amlygwyd y cyfanswm aruthrol o wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan bobl leol yn yr ardal, roedd sawl gwrthwynebiad hefyd gan fusnesau lleol a’r parc busnes.

 

Trafododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies (Ward Trefnant) yr adroddiad gan dynnu sylw at ardaloedd, a gofynnwyd pam nad oedd gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad yn tynnu sylw at y drafodaeth ar ddatblygiadau blaenorol ar y safle. Mewn perthynas â’r ffordd yn cysylltu â'r safle datblygu arfaethedig nodwyd yn yr adroddiad bod digon o lefydd pasio. Anghytunai’r aelod lleol â'r casgliad hwn. Amlygodd yr aelod lleol ei fod yn ymwybodol o breswylydd lleol oedd wedi cyflawni ymchwil sylweddol ar yr ardal o ran y datblygiad, a'r casgliad oedd mai bychan iawn oedd y cyfle i ddatblygu'r tir.

 

Dyma'r Cynghorydd Richard Mainon (Ward Bodelwyddan) yn diolch i'r cadeirydd am y cyfle i siarad gan fynegi cysylltiad personol â'r mater am ei fod yn aelod cabinet. Nodwyd bod yr achos yn cael ei drafod fel un o'r eitemau cyntaf yr oedd y Cyngor newydd angen penderfynu arno, ac fe amlinellodd fod yna angen gwirioneddol am safleoedd Teithwyr a Sipsiwn yn Sir Ddinbych. Fodd bynnag roedd y broses wedi bod yn araf, ac nid oedd y safle arfaethedig yn briodol. Dywedodd ei fod yn credu y byddai o fudd i'r achos gael ei ailgyflwyno yn y Cynllun Datblygu Lleol a fyddai'n cynnwys yr holl aelodau a byddai ateb yn cael ei ganfod.

 

Ar y dechrau dyma’r swyddogion yn ymateb i'r aelodau lleol yn cynghori bod y safle yn cael ei asesu'n drylwyr trwy'r cynllun datblygu mabwysiedig, a'r polisi cynllunio mwyaf priodol ar gyfer yr achos oedd BSC 10.

 

Trafododd yr aelodau bod ganddyn nhw gyfrifoldebau i wrando ar y pryderon a godwyd gan y gymuned leol a busnesau lleol. Y ddealltwriaeth oedd bod angen safle teithwyr a sipsiwn yn Sir Ddinbych ond fe awgrymodd mai nad y safle yma fyddai orau ar gyfer hynny. Cwestiynodd yr aelodau y diffiniad o gyrion fel y nodir yn yr adroddiad. Anghytunodd yr Aelodau gyda’r diffiniad gan eu bod yn teimlo bod y datblygiad arfaethedig y tu allan i’r ffin ar gyfer Llanelwy ac mewn tir cefn gwlad agored. Ailadroddwyd y pryderon gyda’r ffordd i’r safle, mae’n gul ac yn beryglus i unrhyw un a fyddai’n ei defnyddio, yn arbennig gyda'r cynnydd mewn traffig a fyddai'n cael ei achosi yn sgil y datblygiad. Roedd mwy o bryder hefyd yn dilyn y tywydd diweddar.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Andrew Thomas bod y cais yn cael ei wrthod gan fod y cais ar gyfer datblygiad ar faes tir glas mewn cefn gwlad agored. Eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Gofynnodd yr aelodau faint o bobl a fyddai’n byw ar y safle a beth fyddai cymhwysedd y datblygiad arfaethedig, gofynnwyd hefyd sut y byddai'r safle yn cael ei fonitro.

 

Dywedodd y swyddogion byddai’r safle arfaethedig yn cael ei reoli’r un fath â chytundeb tenantiaeth tai arall ac y byddai’n cael ei fonitro gan y tîm tai yn y Cyngor. Y tîm tai fyddai’n delio gyda'r agwedd gymhwysedd ar gyfer y datblygiad gan nad oedd hynny’n fater cynllunio. Mae'r cais ar gyfer teulu lleol, sef 11 o bobl a fyddai'n byw ar y safle, gyda 6 llain i osod carafanau. Eglurwyd bod rhai gwrthwynebiadau wedi’u derbyn ddim yn ystyriaethau cynllunio o ran defnydd.

 

Holodd yr aelodau os oedd yna unrhyw ohebiaeth gyda'r teulu o deithwyr i sicrhau fod y safle yr orau ar eu cyfer nhw. Holwyd hefyd os oedd digon o waith wedi’i wneud gyda TAN 20 a bod ystyriaeth wedi'i roi i'r iaith Gymraeg.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor bod trafodaethau sylweddol wedi bod â’r teulu, a bod y teulu yn lleol ac yn siarad Cymraeg. Roedd yr asesiad traffig o’r ffordd yn nodi bod ffyrdd i’r safle yn dderbyniol, byddai'r cynnydd mewn traffig yn dod i oddeutu wyth car yn defnyddio'r ffordd bob awr. Byddai mwy o lefydd i basio yn cael eu hychwanegu i’r llwybr fel rhan o’r cynnig. Roedd yr ystadegau damwain ar gyfer y ffordd ar gyfer y pum mlynedd diwethaf hefyd yn dynodi nad oedd yna unrhyw ddamweiniau wedi’u cofnodi.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd fod o leiaf un rhan o chwech o’r Aelodau yn bresennol yn cytuno i gynnal pleidlais wedi’i chofnodi.  A mwy na un rhan o chwech o’r rheiny yn bresennol yn cytuno i’r bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid argymhelliad y swyddog i gymeradwyo – y Cynghorydd Mabon Ap Gwynfor a’r Cynghorydd Alan James.

 

Yn erbyn argymhelliad y swyddog i gymeradwyo – y Cynghorwyr Ann Davies, Peter Evans, Brian Jones, Tina Jones, Christine Marston, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Pete Prendergast, Andrew Thomas, Tony Thomas, a Joe Welch.

 

Ymatal - y Cynghorydd Mark Young.

 

O blaid – 2

Ymatal - 1

Yn erbyn - 12

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD rhoi caniatâd er gwaethaf argymhelliad y swyddog ar y sail y byddai’r datblygiad yn mynd yn erbyn polisi cynllunio BS 10.2 gan y byddai’r datblygiad ar safle maes glas mewn cefn gwlad agored.

 

Ar y pwynt hwn (11.10 a.m.) roedd 20 munud o egwyl.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: