Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 02/2019/0895 - TIR YNG NGLASDIR, RHUTHUN

I ysteriad cais i codi 77 annedd fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 77 o dai fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig ar dir yn Glasdir, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Peter Lloyd (O blaid) – y cysyniad o Glasdir yw estyniad trefol cynaliadwy, gyda thai a chyflogaeth yn dod ynghyd gyda ffordd gyswllt oedd wedi’i gynllunio am 20 mlynedd ac yn y cynllun lleol mabwysiedig.  Ni fyddai’n dod fel newyddion i’r pwyllgor y byddai’r datblygiad arfaethedig ar y safle yn ddatblygiad tai fforddiadwy sydd mawr ei angen. Mae polisïau cynllunio yn cefnogi datblygu tai ar dir addas heb ei ddatblygu o fewn setliadau, byddai’r datblygiad hwn yn cwblhau jig-so Glasdir. Byddai dyluniad y tai yn rai carbon isel a defnydd ynni isel; dyma ddyfodol datblygiadau. Gyda pherygl llifogydd mae ymgyngoreion Clwyd Alyn wedi gweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion amddiffyn rhag llifogydd gyda’r data a modelu mwyaf diweddar i arddangos y peryglon sy’n berthnasol â'r safle a'r canlyniadau. Mae’n cynnwys caniatáu ar gyfer newid hinsawdd ar, ac oddi ar y safle a’r gallu i’w liniaru'n dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio TAN-15. Mae’r ymateb gan ymgyngoreion statudol a mewnol yno heb wrthwynebiad. Byddai buddion o’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Chlwyd Alyn wrth ddatblygu tir y mae’r cyhoedd yn berchen arno ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol. Byddai cyfraniadau ariannol sylweddol i fannau agored, systemau draenio cynaliadwy ac mae’r rhaglen SAB wedi’i gyflwyno’n barod. Mae diogelu’r iaith Gymraeg wedi cael ei asesu yn y cais. Byddai’r cais yn cynnwys tai a byngalos carbon isel o safon uchel, llwybrau troed, llwybrau beic a mannau agored gwyrdd a fyddai'n dangos hyder a buddsoddiad yn Rhuthun. Byddai hyn yn gynllun tai arloesol a fyddai’n sicrhau £9.1million o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a gofynnwyd i’r pwyllgor i gymeradwyo’r cais i ddatgloi'r buddsoddiad posib.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) yn falch bod yr eitem yn cael ei drafod yn y pwyllgor. Roedd llawer o bryder gan bobl leol i’r datblygiad arfaethedig ac roedd hi’n tawelu meddwl rhywun clywed llawer o'r pryderon hynny'n cael eu hateb yn yr adroddiad gan y swyddogion. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ar ôl deall bod ei frawd yn gwrthwynebu’r datblygiad.

 

Y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Lleol) – yn bryderus bod y cynnydd mewn nifer o dai a phobl yn rhoi straen ar isadeiledd presennol yr ardal. Pryderon wedi’u codi am yr ardal datblygu arfaethedig gan y byddai'n cael effaith ar lif traffig i'r ardal sydd yn ddigon drwg yn barod yn ystod adegau prysur. Roedd pryderon ynglŷn â’r effaith posib ar ecoleg yr ardal, a’r perygl uwch o lifogydd gan fod y tir mewn ardal perygl o lifogydd. Amlygwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn y broses o gryfhau polisïau yn berthnasol i lifogydd, a bod oes polisi cynllunio TAN 15 ar gyfer y datblygiad wedi dyddio.

 

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) – eglurodd ei fod yn deall bod yna angen corfforaethol am dai ac yn cydymdeimlo gyda swyddogion wrth lunio'r adroddiad a bod angen dull o gydbwysedd. Fodd bynnag mae’r cais yn bwriadu adeiladu tai dwy a tair llofft. Dydi'r dyluniadau ddim yn cyd-fynd  â chymeriad y dref. Byddai angen gwneud llawer iawn o waith hefyd o ran rheoli llifogydd. Byddai traffig yn yr ardal yn cael ei effeithio'n negyddol gan y datblygiad, ac awgrymwyd bod angen gofyn am wybodaeth yn lleol a'i ystyried yn arbennig gyda thraffig a'r effaith ar yr ardal leol.

 

Ymatebodd y swyddogion i'r pwyntiau a godwyd gan aelodau lleol. Roedd swyddogion yn deall pryderon yr aelodau o ran llifogydd a steil y tai ond roedden nhw’n teimlo bod y pryderon wedi derbyn sylw yn yr adroddiad ac yn yr ymgynghoriadau â'r cyrff perthnasol.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Lleol) fod TAN-15 yn yr adroddiad wedi dyddio a’i fod yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru a gofynnwyd pam ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio yn yr adroddiad. Dywedodd y swyddogion fod y polisi yn cael ei adolygu ond eu bod yn defnyddio’r wybodaeth ac arweiniad mwyaf diweddar sydd ar gael. Nodwyd fod swyddogion yn deall y pryderon ynghylch llifogydd yn yr ardal.

 

Cododd y pwyllgor bryderon eraill am liniaru llifddwr ar y safle a gofynnwyd os oedd yna fwy o risg i ddatblygiadau presennol yn yr ardal.

 

Cynghorodd swyddogion fod asesiadau o’r safle wedi’u cyflawni i asesu goblygiadau a fyddai gan y datblygiad o bosib, fodd bynnag teimlai’r swyddogion fod mesurau lliniaru priodol yn eu lle ac felly'n argymell cymeradwyo'r cais.

 

Cododd yr aelodau bryderon eraill gyda’r ysgolion newydd ger lleoliad y datblygiad arfaethedig a’r cynnydd mewn traffig yn sgil cymeradwyo'r datblygiad.

 

Dyma’r Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) yn diolch i’r pwyllgor am drafod y mater a dywedodd fod yna nifer o resymau dilys oedd yn deilwng i wrthod y cais, yn cynnwys pryderon difrifol yn ymwneud â llifogydd.  Fodd bynnag, byddai'n cynnig gwrthod fel a ganlyn:

 

Cynnig– Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne bod y cais yn cael ei wrthod oherwydd y cynllun, cymeriad a dyluniad arfaethedig o’r tai sy’n cael eu cynnig gan na fydden nhw’n cyd-fynd â datblygiadau presennol yn yr ardal.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 4

GWRTHOD – 9

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD y cais i’r gwrthwyneb i argymhellion y swyddog oherwydd cynllun, cymeriad a dyluniad arfaethedig y tai sy’n cael eu cynnig gan na fydden nhw’n cyd-fynd â datblygiadau presennol yn yr ardal. 

 

 

Dogfennau ategol: