Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 01/2019/1011 - PLOT 1, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH

I ystyried cais i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i gyflawni gwaith trefnu a bwndelu gwastraff wedi’i ailgylchu a’i gasglu ar wahân; gan gynnwys adeiladu prif adeilad ailgylchu, un adeilad depo a baeau storio; gosod man golchi cerbydau a phont bwyso, gosod generadur, creu mynedfa newydd a gwaith lledu ffordd cysylltiedig, adeiladu ffordd fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio, parcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i sortio a bwndelu gwastraff ailgylchu wedi’i gasglu ar wahân; i gynnwys codi prif adeilad ailgylchu, un adeilad depo a baeau storio, gosod cyfleuster golchi cerbydau a phont bwyso, lleoliad i osod generadur, creu mynediad newydd a lledu’r ffordd berthnasol, adeiladu ffordd fewnol, iard gwasanaethau, ardaloedd storio, parcio, system draenio as is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir cyfagos i Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Georgia Crawley (o blaid) – diolchodd y pwyllgor am y cyfle i siarad, eglurodd y byddai'n trafod manylion y cynigion yn drylwyr, y datblygiad arfaethedig o 5 plot a fyddai'n lledaenu dros 13,500m2 o ofod llawr diwydiannol a busnes newydd o wahanol feintiau, ynghyd â chyfleuster trosglwyddo gwastraff awdurdod lleol ar y tir cyflogaeth 8.5 hectar i'r gogledd o stad ddiwydiannol Colomendy. Mae’r ceisiadau wedi'u cyflwyno ar wahân ond yn rhannu nifer o agweddau. Mae’r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer cyflogaeth am 20 mlynedd ond dydi’r safle heb gael ei ddatblygu oherwydd y costau o brynu a gwasanaethu’r safle. Sefydlwyd consortiwm rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Yard Space Wales, Henllan Bakery, Lock Stock ac Emyr Evans. Mae pob parti perthnasol wedi cynllunio’r datblygiad a’r estyniadau sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r cydweithio wedi dod â datblygiad dinesig a phreifat ynghyd ac wedi creu ffordd arloesol ac effeithiol o gydlynu datblygiad. Dylid cyflawni’r prif waith fel y gwaith tir, ffordd a systemau draenio gyntaf. Ni fyddai’r cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn prosesu gwastraff ond yn ei gasglu a'i fwndelu. Byddai’r cais arfaethedig yn caniatáu i Sir Ddinbych i gydymffurfio â glasbrint Llywodraeth Cymru gyda chasgliadau ochr ffordd, a chasgliadau gwastraff wedi’i ailgylchu yn wythnosol. Byddai’r effaith yn economaidd o gael 5 plot yn sylweddol. O fewn 5 mlynedd amcangyfrifir bod 525 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu. Yr amcangyfrif o gyfanswm y buddsoddiad cyfalaf fyddai £20.3 miliwn i’r economi gydag amcangyfrif o £2.9 miliwn yn cael ei gyfrannu i economi Dinbych bob blwyddyn gan gynyddu i £9 miliwn erbyn 2024. Ystyriwyd y cynllun i fod yn unol â pholisi PSE2 y Cyngor. Mae’r datblygwyr wedi gweithio’n agos gyda chymdogion yn ystod y broses cyn gwneud cais i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ac nid oes unrhyw wrthwynebiadau wedi bod i'r datblygiad.  

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Hysbyswyd y pwyllgor y byddan nhw angen penderfynu ar bob un o’r ceisiadau o ran teilyngdod eu hunain. Fodd bynnag byddai’r gwaith tirlunio a phriffyrdd yn cael effaith ar yr holl geisiadau. Mae’r ardal wedi’i gynnig i’w ddatblygu wedi cael ei ddyrannu fel tir cyflogaeth yn y CDLl. Mae pob plot gyda defnyddiau arfaethedig ar wahân. Byddai Plot un yn Orsaf Trosglwyddo Gwastraff i ymgymryd â'r gwaith sortio a bwndelu gwastraff wedi'i gasglu ar wahân i'w ailgylchu, a byddai angen cydymffurfio â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddai Plot 2 ar gyfer Yard Space Wales fel cais hybrid ar gyfer y 31 uned (ar gyfer defnyddiau B1 B2 a B8). Byddai Plot 3 yn estyniad i Fara Henllan a fyddai’n eu galluogi nhw i gynyddu cynhyrchiant. Mae Plot 4 ar gyfer Lock Stock i gynyddu cyfanswm y cynwysyddion storio. Ac yn olaf, mae Plot 5 ar gyfer Emyr Evans oedd yn gais hybrid i godi 22 unedau ac i gynyddu cyfanswm y gofod llawr.

 

Dim gwrthwynebiad gan breswylwyr lleol, dim gwrthwynebiad chwaith gan gyrff proffesiynol. Fodd bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn i fesurau lliniaru a rheoli digonol fod yn eu lle ar y safle ar gyfer y fadfall ddŵr cribog.

 

Holodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) am yr estyniad diweddar wedi’i gymeradwyo i’r chwarel a p’un ai y gallai priffyrdd wasanaethu’r chwarel a'r datblygiad arfaethedig yn stad ddiwydiannol Colomendy.

 

Swyddogion yn ymateb trwy roi gwybod i aelodau y byddai mynedfa newydd yn cael ei wneud ar gyfer y datblygiad arfaethedig a fyddai’n lliniaru traffig ac estyniad hefyd ar yr ardal 30mya ar Ffordd Craig. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y diwygiad yn amod 28 ar y daflen las, byddai angen cytuno ar y system draenio cyn dechrau ar unrhyw waith. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai unrhyw ddatblygiadau yn cael eu trafod gydag aelodau lleol.

 

Trafodwyd y sylwadau a godwyd gan Gyngor Tref Dinbych ac os byddai drysau rholio awtomatig yn cael eu gosod i leihau unrhyw arogleuon o'r datblygiad.

 

O ran y drysau rholio awtomatig mae’r ymgeisydd wedi ystyried yr awgrym gan Gyngor Tref Dinbych ond maen nhw wedi penderfynu aros gyda’r cynigion gwreiddiol ar gyfer rhesymau ymarferol. Gyda’r arogleuon o’r gwastraff byddai modd eu storio mewn sgipiau dan gaead a’u symud o’r safle yn ddyddiol.

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: