Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 543310

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  543310.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 543310 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan roi rhybudd ffurfiol iddo ynghylch ei ymddygiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn -

 

(i)            cais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

543310 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          roedd swyddogion wedi cyfeirio'r cais adnewyddu at y Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu o ystyried amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         yr Ymgeisydd wedi cronni 6 phwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA ym mis Awst 2019 am ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais llaw wrth yrru cerbyd modur a oedd wedi'i ddatgan gan yr Ymgeisydd a'i gadarnhau yn dilyn gwiriad arferol fel rhan o'r cais adnewyddu;

 

(iv)         gwybodaeth bellach ynghylch yr achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o'r amgylchiadau yn ymwneud â'r euogfarnau gyrru ynghyd â'i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig;

 

(v)          polisi'r Cyngor o ran addasrwydd ymgeiswyr a'r rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i wyro oddi wrth y polisi hwnnw a chaniatáu'r cais adnewyddu o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn, a;

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol ac nid oedd wedi dynodi a oedd yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio.  Cadarnhaodd swyddogion fod y papurau perthnasol a hysbysiad o'r gwrandawiad wedi cael eu cyflwyno.  Ystyriodd y Pwyllgor bod digon o wybodaeth wedi ei ddarparu er mwyn iddynt benderfynu ar y cais a chytunwyd mynd ymlaen â’r achos yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Ymatebodd i gwestiynau aelodau ac ymhelaethodd ymhellach ar y manylion yn ymwneud â’r drosedd a chadarnhaodd fod cyfrif yr Ymgeisydd wedi’i gadarnhau gan yr Heddlu.  Tynnwyd sylw'r aelodau at adrannau perthnasol polisi'r Cyngor mewn perthynas â defnyddio ffôn symudol wrth yrru ac amgylchiadau unigryw'r achos ynghyd ag ystyried cymeriad cyffredinol yr Ymgeisydd a arweiniodd at argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r adnewyddu’r cais.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 543310 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan roi rhybudd ffurfiol iddo ynghylch ei ymddygiad.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus fel y nodir yn yr adroddiad ynghyd ag ymateb swyddogion i gwestiynau arno.  Nododd yr aelodau record lân yr Ymgeisydd yn flaenorol a'i gymeriad da fel gyrrwr trwyddedig a'i onestrwydd wrth ddatgan yr euogfarn ar yr adeg briodol.  Derbyniodd yr aelodau hefyd gyfrif yr Ymgeisydd o'r digwyddiadau a gadarnhawyd gan yr Heddlu a chanfuwyd ei fod, ar adeg y drosedd, wedi bod yn mynd trwy amgylchiadau unigryw heb unrhyw fai arno'i hun.  O ganlyniad, canfu'r aelodau fod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded ac o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn cytunwyd i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor o ran defnyddio ffôn symudol wrth yrru a chaniatáu'r cais adnewyddu.  Roedd yr aelodau hefyd o'r farn ei bod yn briodol cyhoeddi rhybudd ffurfiol ynghylch y drosedd ac ymddygiad yn y dyfodol.  Er yr ystyriwyd bod digon o wybodaeth wedi'i darparu i alluogi penderfyniad i gael ei wneud y tro hwn, gofynnodd y Pwyllgor i'w siom gael ei chyfleu'n uniongyrchol i'r Ymgeisydd ynghylch ei ddiffyg presenoldeb yn y gwrandawiad o'i gais.

 

Ar y pwynt hwn (10.25am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: