Eitem ar yr agenda
ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 541292
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais
gan Ymgeisydd Rhif 541292.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 541292 i adnewyddu
trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol) yn dilyn -
(i)
cais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif
541292 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
swyddogion wedi cyfeirio'r
cais adnewyddu at y Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu o ystyried amgylchiadau
penodol yr achos;
(iii)
yr Ymgeisydd wedi cronni 3
phwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DLVA am oryrru ym mis Mai 2017 ac wedi cael
cosb ariannol yn ymwneud â dwy drosedd am yrru cerbyd dros bwysau ym mis Rhagfyr
2019, y ddau wedi eu datgan gan yr Ymgeisydd a'u cadarnhau yn dilyn gwiriad
arferol;
(iv)
gwybodaeth bellach ynghylch yr
achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o'r amgylchiadau yn ymwneud â'r
euogfarnau ynghyd â'i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirda cymeriad
(ynghlwm i’r adroddiad);
(v)
polisi'r Cyngor o ran
addasrwydd ymgeiswyr a'r rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i wyro oddi
wrth y polisi hwnnw a chaniatáu'r cais adnewyddu o ystyried yr amgylchiadau
eithriadol yn yr achos hwn, ac;
(vi)
estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i
adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Roedd yr Ymgeisydd yng nghwmni
ei fab a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau'r
pwyllgor a'i fod yn hapus i symud ymlaen.
Cyflwynodd
y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.
Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod
yn yrrwr tacsi hirsefydlog a phrofiadol heb unrhyw bryderon blaenorol a
rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad gyrru.
Esboniodd hefyd yr amgylchiadau o amgylch yr
euogfarn goryrru a oedd i gael ei dynnu oddi ar ei drwydded cyn bo hir a
chadarnhaodd nad oedd yn cario teithwyr ar y pryd. O ran yr ail
drosedd, eglurodd ei fab mai ei fai oedd am iddo gamgyfrifo'r terfyn pwysau gan
arwain at ei dad yn ddiarwybod yn gyrru cerbyd dros ei bwysau. Rhoddwyd
sicrwydd na wnaed unrhyw beth yn fwriadol yn hynny o beth a bod camau wedi'u
cymryd ers hynny i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto yn y dyfodol. Gan nad oedd
unrhyw gwestiynau pellach, crynhodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd y
rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais adnewyddu o
ystyried yr amgylchiadau penodol yn yr achos hwn. Yn ei ddatganiad
olaf mynegodd yr Ymgeisydd ei edifeirwch dros y troseddau ac ailadroddodd na
chawsant eu cyflawni'n fwriadol.
Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -
PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 541292 i adnewyddu
trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.
Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -
Ystyriodd yr aelodau’r cais a’r cyflwyniadau yn yr achos
yn ofalus. Derbyniwyd bod
yr Ymgeisydd yn yrrwr trwyddedig profiadol gyda record flaenorol lân ac wedi
bod yn agored ac yn onest wrth ddatgan ei droseddau moduro. Roedd y cyfeiriadau
niferus sy'n tystio i gymeriad da'r Ymgeisydd hefyd wedi'u hystyried. Roedd yr aelodau
wedi canfod bod yr Ymgeisydd yn gredadwy ac yn ddilys yn ei anerchiad i'r
Pwyllgor ac wedi derbyn yr esboniad a roddwyd ynghylch amgylchiadau'r troseddau
a'r edifeirwch a ddangoswyd. O ystyried yr amgylchiadau eithriadol hynny, roedd yr aelodau'n fodlon bod
yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. O ganlyniad,
penderfynwyd gwyro oddi wrth bolisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â
throseddau defnyddio cerbydau ar yr achlysur hwn a chaniatáu'r cais adnewyddu. Yng ngoleuni'r
euogfarnau a gafwyd, ystyriwyd ei bod yn briodol rhybuddio'r Ymgeisydd ynghylch
ei ymddygiad yn y dyfodol.
Fe wnaeth y
Cadeirydd gyfleu'r penderfyniad a'r rhesymau felly i'r Ymgeisydd a'i rybuddio i
fod yn ymwybodol o'r rheolau a'r rheoliadau ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./2 yn gyfyngedig