Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CYFALAF 2019/2020 - 2022/23 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig) i ddarparu Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu’r Cynllun Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol. 

 

Rhoddwyd yr adroddiad diwethaf i’r Cyngor ar y Cynllun Cyfalaf llawn ym mis Chwefror 2019.  Mae’r Cabinet wedi cael diweddariadau misol.   Roedd y Cynllun Cyfalaf Amcangyfrifedig bellach yn £33.86 miliwn.  Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers adrodd arno i'r Cabinet ar 18 Chwefror 2020.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad.

 

 Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo i gwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau ar y Cynllun Cyfalaf.    Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:

·         Cais Cyfalaf Atal Traffig 2020-21 – arwyddion brown i ddangos y Gymraeg uwch ben y Saesneg.

Byddai cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd yn cynnwys arwyddion ar gyfer Castell Rhuthun, Castell Dinbych ac Eglwys Gadeiriol Llanelwy.  Byddai hefyd yn cynnwys teitl Dyffryn Clwyd ac felly’n codi ymwybyddiaeth o’r Dyffryn.  Holodd yr Aelodau am amserlen ar gyfer yr arwyddion a chadarnhawyd y bydd “Strategaeth Arwyddion Twristiaeth Sir Ddinbych” yn cael ei chyflwyno ger bron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 12 Mawrth 2020.

·         Holwyd a fyddai ysgolion nad oeddent yn yr adroddiad yn cael eu moderneiddio yn y dyfodol. 

 Eglurwyd bod band A Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cael ei gwblhau a bod y Cyngor bellach yn cychwyn ar fand B.  Roedd oedi gydag ysgolion nad oeddent ym Mand A na B oherwydd cyfyngiadau ariannol.  Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y byddai’n edrych ar yr amserlenni.

·         Nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei bod wedi cael adborth negyddol mewn perthynas ag adeilad newydd Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl, gan fod yna nifer o fân broblemau i'w datrys. 

Cadarnhaodd nifer o aelodau bod mân broblemau’n codi gyda phob adeilad newydd.  Bu iddynt sicrhau’r Cyngor bod yr adeilad o safon dda, gan annog yr aelodau i ymweld â’r ysgol i weld yr adeilad.

·         Croesawyd cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pontydd, ond roedd gwerth £11m o waith yn aros i'w wneud. 

Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a fyddai yna gyllid pellach ar gyfer atgyweirio pontydd, yn enwedig yn dilyn y tywydd garw a gafwyd dros y misoedd diwethaf. Cadarnhawyd y byddai rhywun yn cysylltu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ychwanegol.

·         Codwyd pryderon mewn perthynas â thyllau yn y ffyrdd. 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod gwaith ar y gweill i ganfod ateb mwy parhaol, ac yn ogystal â’r ymweliadau blynyddol sydd ar ddod i Grwpiau Ardal yr Aelodau i drafod cynnal a chadw ffyrdd, bydd gweithdy aelodau hefyd yn cael ei drefnu ar faterion priffyrdd.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones bod swyddogion yn edrych ar dechnoleg newydd ac atebion mwy cost effeithiol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y tywydd garw diweddar, gan ddiolch i’r staff am eu gwaith caled gyda hynny.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms y dylid dod â’r drafodaeth i ben a symud i’r bleidlais.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Felly cynhaliwyd pleidlais ar p’un ai y dylid symud i’r bleidlais ai peidio drwy godi dwylo.  Roedd yr holl aelodau o blaid dod â’r drafodaeth i ben a symud i’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Aelodau yn:

(i)            Nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2019/2020 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr.

(ii)          Cefnogi argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 ac y crynhoir yn Atodiad 6.

(iii)         Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2020/2021.

(iv)         Cymeradwyo’r Adroddiad Strategaeth Cyfalaf ar gyfer 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad 7.

(v)          Gofyn i swyddogion yn y Gwasanaeth Priffyrdd gynnal asesiad o’r difrod a achoswyd i’r rhwydwaith gan y stormydd diweddar, er mwyn canfod faint o wariant pellach sydd ei angen.

 

Dogfennau ategol: