Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRETH Y CYNGOR 2020/2021 A MATERION CYSYLLTIEDIG

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) i bennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2020/2021

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2020/2021.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at y canlynol yn benodol:

·         Prif nodweddion y gyllideb a gymeradwywyd ar 28 Ionawr 2020

·         Sylwadau’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn

·         Dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

·         Argymhellion ar gyfer lefelau Treth y Cyngor 2020/2021

·          Setliad cadarnhaol o +4.3% yn refeniw Llywodraeth Leol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd am ddata hanesyddol, gan gynnwys praeseptau Cynghorau Cymuned, Gwasanaethau Tân a’r Heddlu, er mwyn gallu cymharu.  Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r holl aelodau.

 

Cododd y Cynghorydd Mark Young y mater o lifogydd.  Adroddwyd y bydd cartrefi y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn Lloegr yn cael 100% o ostyngiad Treth y Cyngor.  Gofynnodd a fyddai hyn yn digwydd yng Nghymru.  Hefyd, bydd deiliaid tai yr oedd llifogydd wedi effeithio arnynt yn Lloegr yn cael £5,000, ond yng Nghymru, £500 fydd y ffigwr hwnnw.  Mynegodd y Cynghorydd Young ei anfodlonrwydd â’r gwahaniaeth yn y symiau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru.  Mae Sir Ddinbych yn cydweithio’n agos â’r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i helpu trigolion hawlio unrhyw gyllid sydd ar gael.  Bydd datganiad sy’n cynnwys yr holl rifau cyswllt perthnasol a dolen i’r we yn cael ei ddosbarthu i bob aelod er gwybodaeth.

 

O ran Gostyngiad i Dreth y Cyngor, byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hyn, gan mai o’u cyllideb nhw y byddai’r arian yn cael ei dynnu.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd ar Fformiwla Barnett, ac eglurwyd ei bod yn fformiwla gymhleth iawn; roedd un bloc yn llunio rhan o’r hyn y mae’r cyngor yn ei dderbyn fel grant cynnal refeniw.  Pe byddai arian ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn, byddai hynny'n cael effaith gynyddol ar gyllideb y flwyddyn ddilynol. 

 

Yn dilyn y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn:

(i)            Nodi bod rhaid i'r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned, a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.

(ii)          Cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A.

(iii)         Cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel Atodiad A adran 4.

(iv)         Sicrhau bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u cyflwynir yn Atodiad C.

(v)          Cymeradwyo bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B ac C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol.

 

Dogfennau ategol: