Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
fater brys.
Cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd, Sue Lewis, Bodfari -
“Bu i Gronfa
Bensiynau Clwyd, a gynhelir gan Sir y Fflint, ymgynghori’n ddiweddar ag
aelodau’r Gronfa, gan gynnwys Sir Ddinbych, ar ddatblygu ei Pholisi Buddsoddi
Cyfrifol. Ymysg pethau eraill, mae hwn
yn edrych ar ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Wnaeth Sir Ddinbych ymateb i’r ymgynghoriad
hwn, ac os felly, fyddech chi cystal â rhannu eich ymateb â ni?
Dyma ymateb y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:
Mae Sir Ddinbych
yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir y
Fflint. Y diweddar Gynghorydd Huw Jones
oedd yr aelod etholedig ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd (“y Pwyllgor”), a
gwasanaethodd arno am nifer o flynyddoedd.
Mae’r Pwyllgor hwn yn goruchwylio’r Gronfa Bensiynau. Yn
ogystal, mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn rhyngweithio’n rheolaidd gyda
swyddogion Cronfa Bensiynau Clwyd.
Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd
strategaeth fuddsoddi, a’i phrif amcan, yn amlwg, yw sicrhau y gellir diwallu’r
rhwymedigaethau pensiwn presennol a rhai’r dyfodol yn llawn.
Mae’r Gronfa’n diweddaru’r polisïau hyn yn rheolaidd ac mae eu
strategaeth fuddsoddi yn nodi y byddant yn gwneud buddsoddiadau dethol mewn
meysydd amgylcheddol fel ynni glân, seilwaith amgylcheddol a phrosiectau coedwigaeth.
Ar hyn o bryd,
mae tua 1.2% o asedau’r Gronfa wedi’u buddsoddi mewn meysydd tanwyddau
ffosil. Mynychodd Pennaeth Cyllid ac
Eiddo Cyngor Sir Ddinbych gyfarfodydd y Grŵp Llywio yn yr hydref a dechrau
gaeaf 2019, gan roi adborth i'r Grŵp hwnnw ar y trafodaethau yr oeddem ni
wedi bod yn cael yn fewnol am ddatblygu ein polisïau i ddod yn garbon
niwtral. Cafodd y trafodaethau hynny i
gyd eu bwydo i fersiwn ddrafft Polisi Buddsoddi Cyfrifol Cronfa Bensiynau
Clwyd. Roedd y Polisi drafft yn
adlewyrchu trafodaethau mewnol Sir Ddinbych i raddau helaeth, mewn perthynas â
blaenoriaethu pwysigrwydd newid hinsawdd a rhoi ystyriaeth i hynny yn eu
penderfyniadau wrth symud ymlaen.
Felly rydym yn
cefnogi mabwysiadu’r Polisi drafft fel yr oedd yn unol â thrafodaethau mewnol
Sir Ddinbych.
Tynnwyd sylw’r
aelodau at y darn canlynol o’r Polisi:
Nid dyletswydd ar y Gronfa yn unig yw ystyried newid hinsawdd, mae hefyd yn
gyson â natur hirdymor y Gronfa. Mae
angen i fuddsoddiadau’r Gronfa fod yn gynaliadwy er mwyn bod o’r budd gorau i’w
holl fudd-ddeiliaid. Ymgysylltiad yw’r
dull gorau o alluogi’r newid y mae ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng
gyda'r hinsawdd. Fodd bynnag, mae
dadfuddsoddi ar sail risg dethol yn briodol i hwyluso’r newid i economi
rhad-ar-garbon.
Mae gan y Gronfa dri phrif faes
blaenoriaeth, ac mae un o’r rheiny yn y blaenoriaethau buddsoddwr cyfrifol yn
nodi eu bod yn bwriadu mesur a deall yr agwedd garbon o fewn y portffolio
buddsoddi, ac ar ôl ei asesu, byddant yn cytuno ar darged lleihau carbon o fewn
deuddeng mis, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y pum mlynedd nesaf.
Cwestiwn atodol gan Sue Lewis -
Fyddai Cyngor Sir
Ddinbych yn dilyn Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill fel Cyngor Caerdydd a
Sir Caerfyrddin, ac yn pasio cynnig yn nodi eu bod yn dymuno i’w Cronfa
Bensiynau ddadfuddsoddi’n llwyr o danwyddau ffosil o fewn cyfnod penodol.
Deallir na all y
cyngor ond cynghori rheolwyr y Gronfa, ond serch hynny, byddai’n cyfleu neges
rymus iawn i'r cyhoedd, i'w buddiolwyr, eich bod o ddifrif, a byddai'n cyd-fynd
â’ch polisi lleihau carbon.
Dyma ymateb pellach y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill -
Mae’n bosib y
gallai Cyngor Sir Ddinbych wneud cynnig o’r fath. O ran y strwythur llywodraethu, un bleidlais
ydym ni ymysg pump ar y Pwyllgor, felly byddai’n dibynnu ar safbwynt tebyg gan
yr awdurdodau lleol eraill. Nid yw o
fewn ein gallu i fynnu bod hyn yn cael ei wneud, ond ni welaf unrhyw reswm pam
na allem ni wneud cynnig o’r fath. Nid
yw’n bosib i ni ei wneud heddiw – byddai’n rhaid i ni fynd â’r cynnig drwy’r
broses ffurfiol.