Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF. 01/2019/0959 - TIR RHWNG HEN FFORDD RHUTHUN A FFORDD NEWYDD RHUTHUN, DINBYCH
I ystyried cais i godi 64 annedd,
adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, a’r gwaith cysylltiedig (copi wedi’i
atodi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i
godi 64 o dai, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig rhwng
Hen Ffordd a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus –
Stuart Andrew (o blaid) yn siarad ar ran yr ymgeisydd,
McBride Homes. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i
siarad am y datblygiad i godi 64 o dai ar Ffordd Rhuthun, Dinbych. Mae gan y
safle ganiatâd cynllunio amlinellol ac mae briff datblygu safle wedi'i
ddatblygu yn y gorffennol gan y Cyngor ar gyfer datblygiad preswyl. Byddai gan
y safle ddarpariaeth tai fforddiadwy a mannau agored gwyrdd yn unol â
pholisïau’r Cyngor. Gyda’r 64 o dai arfaethedig byddai 10% yn dai fforddiadwy,
ynghyd â chyfraniad ariannol o 0.4 annedd i gyflawni’r dyraniad o 10%. Byddai
hanner erw o fan agored gwyrdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a rhaglen cynnal a
chadw ar gyfer y man agored yn cael ei gytuno arno gan y Cyngor. Byddai hefyd
taliad tuag at ysgolion lleol o £75,000. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion proffesiynol, ac nid oedd effaith andwyol ar
amwynderau’r adeiladau presennol.
Trafodaeth Gyffredinol –
Gofynnodd y
Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) pam bod y cyllid o’r mannau cyhoeddus yn y
cais wedi cael ei leihau a’r cyfraniad addysg wedi’i gynyddu. Tynnwyd sylw
hefyd bod ceisiadau ar gyfer yr ardal yn y gorffennol wedi tynnu sylw at yr
effaith y byddai’n ei gael ar fywyd gwyllt yn arbennig i ddraenogod a
gwrychoedd.
Ymatebodd y
swyddogion i’r ymholiad drwy fynegi bod y swm gwreiddiol ar gyfer mannau
cyhoeddus wedi’i leihau gan mai dim y Cyngor a fyddai'n cynnal y mannau agored
gwyrdd ac felly cafodd y cyfanswm ei leihau. Y rheswm dros gynyddu’r cyfraniad
addysg oedd bod yr asesiad o anghenion gwreiddiol mewn ysgolion wedi’i
ail-asesu ym mis Ionawr a bod y cyfanswm wedi cynyddu gan fod angen wedi’i
nodi. Mae asesiad ecolegol o’r safle yn dynodi na fyddai yna effaith andwyol ar
ecoleg yn yr ardal.
Wrth ymateb fe
ofynnodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) os oedd gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi ar gynnal mannau agored. Dywedodd y
swyddogion bod hynny’n dibynnu ar y safle ond ar
gyfer y rhan fwyaf o achosion ni fyddai'r Cyngor yn cynnal y mannau agored.
Roedd yna lawer o ddewisiadau eraill ar gael i gynnal mannau gwyrdd. Byddai’r
cyfraniad addysg yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r tîm addysg. Yn cyfeirio
nôl i'r cynllun cynnal ar gyfer y datblygiad arfaethedig roedd y pwyllgor yn
bryderus fel gyda cheisiadau blaenorol bod cynllun cynnal ddim wedi'i gadarnhau
a oedd yn achosi dryswch i breswylwyr. Gofynnodd aelodau ar gyfer unrhyw
geisiadau yn y dyfodol y dylid cytuno ar waith cynnal a chadw o fewn y broses
gynllunio. Ymateb swyddogion oedd bod cynlluniau cynnal a chadw ar gyfer mannau
agored gwyrdd mewn ceisiadau yn gallu cael eu trafod mewn cyfarfod Pwyllgor
Craffu yn y dyfodol.
Gofynnodd aelodau
a oedd asesiad effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gyflawni ar gyfer y cais.
Dywedodd y swyddogion wrth y pwyllgor bod y datblygiad arfaethedig o fewn y CDLl a bod asesiad iaith Gymraeg wedi cael ei wneud yn
ystod y broses CDLl.
Mynegodd aelodau
eu pryderon gyda llifogydd yn yr ardal gyda’r datblygiad arfaethedig, dywedwyd
wrth yr aelodau nad oedd yna wrthwynebiadau wedi bod gan gyrff proffesiynol i’r
datblygiad.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r
cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Alan James.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 10
GWRTHOD – 0
YMATAL - 2
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
Dogfennau ategol: