Eitem ar yr agenda
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y
Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf
2020/21.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) bod y prosiectau
a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2020/21 yn
cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn, a
(b) bod y Cabinet yn
gofyn fod swyddogion yn y Gwasanaeth Priffyrdd yn cynnal asesiad o’r difrod
achoswyd i’r rhwydwaith gan y stormydd diweddar er mwyn penderfynu ar faint y
gwariant pellach.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i'w cynnwys yng
Nghynllun Cyfalaf 2020/21 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol (SIG) ac y manylir arno yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Arweiniodd y Cynghorydd
Thompson-Hill yr aelodau trwy'r adroddiad ac esboniodd y cyllid sydd ar gael ar
gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus. Cyfeiriwyd at waith y
SIG wrth adolygu'r bidiau ar gyfer dyraniadau a darparwyd crynodeb o'u
hargymhellion ynghyd ag ymhelaethiad pellach yn y cyfarfod a oedd yn cynnwys y
ffynhonnell ariannu a argymhellir ar gyfer pob prosiect ynghyd â'r rhesymeg
dros gefnogi'r prosiectau a dyraniadau penodol hynny.
Ystyriodd y Cabinet yr
argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at yr amodau
tywydd garw diweddar a diolchodd i'r staff am eu gwaith caled yn hynny o beth.
O ystyried y difrod storm i seilwaith y briffordd, holodd a oedd angen
ailedrych ar y buddsoddiad yn yr ardal honno i ystyried y gwaith adfer oedd ei
angen a sicrhau bod gwaith priffyrdd yn cael ei ariannu'n briodol a bod
diwydrwydd dyladwy yn cael ei arsylwi. Dywedodd yr Arweinydd fod y Prif
Weinidog wedi galw uwchgynhadledd llifogydd brys gydag awdurdodau lleol (i'w
mynychu gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Brian Jones) ac asiantaethau
eraill a disgwylid y byddai cyllid ar gael i helpu i ddelio â'r canlyniad.
Hefyd rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill sicrwydd y byddai gwaith adfer
brys yn cael ei ariannu fel y bo'n briodol ac esboniodd y ffrydiau cyllido sydd
ar gael, gan gynnwys y gronfa tywydd garw, ond cadarnhaodd ei bod yn debygol y
byddai cynllun grant cenedlaethol y gellid ei ddefnyddio pe bai trothwy penodol
yn cael ei gwrdd. O ran y dyraniad a argymhellir gan SIG ar gyfer priffyrdd,
dyrannwyd £1.750m o wariant cyfalaf i’w flaenoriaethu fel y bo'n briodol gan y
Gwasanaeth Priffyrdd ac efallai y bydd cyfleoedd pellach i gyflwyno cynigion am
waith adfer hyd nes y dyrennir cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
Ychwanegodd swyddogion, yn dilyn y gweithrediadau glanhau, y byddai asesiad o'r
difrod yn cael ei gynnal - er y cydnabuwyd y byddai difrod wedi'i achosi i
seilwaith y briffordd, roedd hi'n rhy gynnar i gadarnhau maint y difrod ac
addasu'r dyraniadau cyfalaf o ran hynny. Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y
byddai asesiad o'r difrod yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl a bod gwaith
yn mynd rhagddo o ran cynllunio a chyfeirio adnoddau. Yng ngoleuni'r difrod
storm diweddar i'r seilwaith priffyrdd a'r pwysau cyllido dilynol, cytunwyd i
gynnwys yn y penderfyniad gyfeiriad at asesu’r difrod a nodi'r arbedion sy'n
ofynnol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby
Feeley at Ddatblygu Marchnad y Frenhines a holodd gadarnhad cyllid allanol.
Esboniwyd bod yr adeiladau wedi'u prynu gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru
(£2.5m) ac arian Ewropeaidd (£2.5m). Er bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi dod i
law, cadarnhawyd y cyllid Ewropeaidd yn amodol ar i'r Cyngor gyflawni camau
datblygu allweddol ac roedd amserlenni wedi'u gosod at y diben hwnnw. Byddai
adroddiad manwl ar y datblygiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cabinet yn y
dyfodol.
Croesawodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y cyllid
ychwanegol a argymhellwyd ar gyfer cynnal a chadw cyfalaf ysgolion a oedd yn
gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.
Ymatebodd yr Aelodau Arweiniol i
faterion a godwyd gan gynghorwyr nad ydynt yn aelodau Cabinet fel a ganlyn –
·
Roedd y Cynghorydd Martyn Holland yn falch o nodi'r cyllid a ddyrannwyd ar
gyfer atgyweirio pontydd o ystyried eu pwysigrwydd, yn enwedig i gymunedau
gwledig, a gofynnodd i'r mater gael ei godi yn y cyfarfod sydd i ddod gyda
Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i’w bryderon ynghylch tyllau yn y ffordd,
dywedodd y Cynghorydd Brian Jones fod gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i
ateb mwy parhaol ac yn ychwanegol at yr ymweliadau blynyddol sydd ar ddod â’r
Grwpiau Ardaloedd Aelodau i drafod cynnal a chadw ffyrdd, roedd gweithdy
aelodau hefyd yn cael ei drefnu ar faterion priffyrdd.
·
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai Ysgol Llanfair DC
(ysgol newydd) yn agor yn fuan ac y byddai'n gallu derbyn mwy o ddisgyblion -
nid oedd yn llawn
·
Esboniodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill delerau benthyca darbodus y cyfeiriwyd atynt yn
yr adroddiad gan gynghori bod £100k ar gyfer priffyrdd wedi'i neilltuo fel rhan
o ddyraniad Cynllun Corfforaethol 2020/21 a fyddai'n caniatáu £1.750m o wariant
cyfalaf, a'r byddai’r rhaglen o ailosod llusernau LED yn golygu cymryd
benthyciad Salix am hyd at £200k dros chwe blynedd a fyddai’n hunangyllidol
gydag arbedion o’r costau ynni a gronnwyd dros y tymor.
PENDERFYNWYD –
(a) Cefnogi’r prosiectau y manylir arnynt yn Atodiad 1 i'r
adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2020/21 a'u hargymell i'r Cyngor
llawn, a
(b) Bod y Cabinet yn gofyn i swyddogion
yn y Gwasanaeth Priffyrdd gynnal asesiad o'r difrod a achoswyd i'r rhwydwaith
gan y stormydd diweddar er mwyn nodi maint y cyllid pellach sydd ei angen.
Dogfennau ategol:
- SIG RECOMMENDATIONS, Eitem 6. PDF 232 KB
- SIG RECOMMENDATIONS - APP 1, Eitem 6. PDF 83 KB
- SIG RECOMMENDATIONS - APP 2, Eitem 6. PDF 278 KB