Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAFFAEL GOFAL A CHEFNOGAETH MEWN CYNLLUN TAI GOFAL YCHWANEGOL I BOBL HŶN AC ANABLEDD CYMHLETH

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynnal proses gaffael ar gyfer tendro gofal a chefnogaeth i’r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol, Awel y Dyffryn, Dinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn cymeradwyo’r broses gaffael ar gyfer gofal a chefnogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad gyda chanlyniad ar gyfer pob tendr yn dod gerbron y Cabinet i gael cymeradwyaeth derfynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgymryd â'r broses gaffael ar gyfer tendro gofal a chefnogaeth i'r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol, Awel y Dyffryn, Dinbych.

Roedd Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn wedi'i ddatblygu gan y Cyngor mewn partneriaeth â Grŵp Tai Cynefin a rhagwelwyd y byddai'r cynllun yn barod ar gyfer 1 Medi 2020. Cynigiwyd cynnal dau ymarfer tendro ar gyfer caffael gwasanaethau gofal a chefnogaeth ar gyfer 66 o unedau pobl hŷn ac 8 uned anabledd cymhleth sydd wedi'u lleoli ar y safle i ddarparu darpariaeth gofal 24 awr y dydd, 365 diwrnod o'r flwyddyn yn unol â Chontract Gofal Cartref Rhanbarthol Sir Ddinbych a gofynion llywodraethu eraill. Byddai dau dendr ar wahân yn cael eu rhedeg trwy'r fframweithiau priodol ar gyfer y ddwy elfen o gefnogaeth yn y cynllun gyda chanlyniad pob tendr yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet i'w gymeradwyo'n derfynol. Roedd cyfeiriad at amcangyfrif o'r costau tendro a manylion pellach y contract wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Cefnogodd y Cabinet y cynllun i ddarparu darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ardal ac ystyriwyd manylion y broses gaffael arfaethedig.

Ymatebodd swyddogion i gwestiynau a sylwadau gan aelodau fel a ganlyn

 

·         o ystyried y gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â meddygon lleol, gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am sicrwydd ynghylch ymgynghori priodol a chadarnhawyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynychu Grŵp Cyflenwi Gwasanaethau'r prosiect a bod meddygfeydd hefyd yn rhan o'r broses honno.

·         rhagwelwyd y byddai'r darparwr gofal Pobl Hŷn yn cael ei benodi erbyn Mai / Mehefin a bod y darparwr Anabledd Cymhleth yn cael ei benodi erbyn Gorffennaf / Awst

·         roedd marchnad ddarpariaeth gymysg yn Nhinbych a byddai'r cynllun yn ceisio gwasanaethu Dinbych a'r ardaloedd cyfagos yn gyntaf gyda gwaith pellach yn parhau o ran y cynnig iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol yn yr ardal.

·         rhoddwyd sicrwydd bod y gallu i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yn fater blaenoriaeth ac yn rhan o'r gofynion contract a fyddai'n cael eu gwerthuso trwy'r broses dendro. Fodd bynnag, roedd heriau o ran recriwtio ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r uned datblygu gweithlu gofal cymdeithasol i gefnogi darpariaeth gwasanaeth Cymraeg.

·         mewn perthynas â chyfleoedd staff, cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod holl staff y cyngor yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg ac i wella a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a darparwyd cyllid at y diben hwnnw. Nid oedd problemau gyda recriwtio wedi'u cyfyngu i Sir Ddinbych gydag awdurdodau cyfagos hefyd yn cael anawsterau yn hynny o beth

·         o ran digonolrwydd lefelau staffio gyda'r nos, byddai Grŵp Cynefin yn darparu gwasanaeth o fath ‘concierge’ gyda pherson ar y safle i ddarparu cymorth rheoli tai 24/7 yn ychwanegol at y tîm gofal ar y safle. Cynlluniwyd a darparwyd gofal yn unol â'r angen a nodwyd ar y pryd ac o ganlyniad byddai nifer y staff sydd eu hangen yn amrywio i ddarparu ar gyfer yr anghenion newidiol hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ymgymryd â'r broses gaffael ar gyfer gofal a chefnogaeth fel y manylir yn yr adroddiad gyda chanlyniad pob tendr yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet i'w gymeradwyo'n derfynol.

Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) gohiriwyd y cyfarfod am egwyl.

 

 

Dogfennau ategol: