Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRWYDDEDU YCHWANEGOL I DAI AMLFEDDIANNAETH

I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd ac Amgylchedd Adeiladu ar Drwyddedu Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth ac i gael mewnbwn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau cyn ymgynghori gyhoeddus (copi ynghlwm).

 

11:15am – 12:00pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad yr adroddiad, Trwydded Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth, ochr yn ochr â swyddogion, Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Iechyd yr Amgylchedd).

 

Roedd Swyddogion wedi gofyn bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried cynnig i adnewyddu Cynllun Trwydded Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth y Cyngor, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu yn Y Rhyl, yn ogystal ag ymestyn y cynllun i gynnwys eiddo perthnasol ym Mhrestatyn, Dinbych a Llangollen.  Cynghorwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Arweiniol fod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o effeithiolrwydd y cynllun cyfredol sy'n gweithredu mewn ardaloedd o fewn y Rhyl ac yn awyddus i'r cynllun gael ei adnewyddu. Yng ngoleuni llwyddiant y cynllun presennol, roedd y Cyngor yn awyddus i'w ymestyn i dair tref arall yn y sir, Dinbych, Llangollen a Phrestatyn er mwyn sicrhau y byddai tai amlfeddiannaeth nad ydynt yn dod o dan y cynllun gorfodol bellach yn cael eu rheoleiddio'n fwy effeithiol. Pwrpas y cynllun oedd sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu cynnal i safon resymol, a'u bod yn darparu llety addas a diogel i'r bobl a oedd yn byw yno. Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu, y cam nesaf fyddai mynd â'r Cynllun i bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau perthnasol a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus 10 wythnos ar y Cynllun cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu.

 

Amlinellodd swyddogion y buddion o gael Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, gan ddweud bod y Cyngor wedi archwilio eiddo a gwmpesir gan y cynlluniau gorfodol ac ychwanegol i sicrhau cydymffurfiad. Roedd hefyd yn caniatáu i'r Cyngor weithio gyda landlordiaid preifat i sicrhau gwelliannau, a oedd yn ei dro yn helpu i leihau nifer y gwagleoedd yn y sir, cynyddu nifer yr unedau tai sydd ar gael yn Sir Ddinbych, yn ogystal â gwella perfformiad y Sir yn erbyn nifer yr eiddo gorlawn a gofnodwyd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

 

Yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, dyma a wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion:

·         cynghori bod ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Tai Amlfeddiannaeth yn y sector preifat yn gofyn am gymryd camau monitro a gorfodi mwy llym lle bo angen;

·         cadarnhau bod y Tîm Gorfodaeth Tai yn cynnwys chwe aelod o staff cyfwerth â llawn amser ac yn hyderus, yn seiliedig ar ddata hygyrch cyfredol, y byddai hyn yn ddigon i reoli’r cynllun trwyddedu ychwanegol estynedig arfaethedig.  Elwodd y Tîm hefyd ar incwm a dderbyniwyd gan ffioedd a roddodd ychydig o hyblygrwydd iddynt gyflogi staff ychwanegol os oedd angen;

·         dweud bod erlyn landlordiaid nad oeddent yn cydymffurfio yn broses hir a chymhleth, a dyna'r rheswm am y nifer isel o erlyniadau a gynhaliwyd yn ystod y deng mlynedd y bu'r Cynllun yn gweithredu mewn rhannau o'r Rhyl. Roedd deialog, a chamau gorfodi neu waharddiad os oedd angen, yn offer rheoli llawer mwy effeithiol oherwydd er mwyn sicrhau eu hincwm o'u heiddo byddai landlordiaid yn gweithio gyda'r Cyngor yn y pen draw, gyda'r bwriad o gydymffurfio â'r gofynion;

·         esbonio'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r Rheoliadau Cynllunio, Adeiladu a Thrwyddedu ond yn pwysleisio bod y tri gwasanaeth yn cydweithio'n agos ar faterion sy'n peri pryder;

·         dweud bod y Gwasanaeth yn dibynnu'n helaeth ar wybodaeth adweithiol gan denantiaid, y cyhoedd ac aelodau etholedig ynghylch digwyddiadau posibl o ddiffyg cydymffurfio.  Gweithiodd yn agos hefyd gyda Gwasanaeth Digartrefedd y Cyngor ac asiantaethau allanol mewn perthynas â mynediad at wasanaethau tai a digartrefedd;

·         cadarnhau bod y Gwasanaeth wedi defnyddio data Rhentu Doeth Cymru i gymharu data cofrestru a thrwyddedu â'r hyn a gedwir gan y Cyngor;

·         dweud yr eir i’r afael â phob cwyn a geid mewn perthynas â thramgwyddau gorfodi tai o fewn pum niwrnod; a

·         dweud nad oedd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn berthnasol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan eu bod yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r un rheoliadau tai â stoc dai'r Cyngor, roedd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn berthnasol i landlordiaid y sector preifat.  Fodd bynnag, pe bai gan aelodau bryderon am unrhyw eiddo neu denantiaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gallent eu hanfon ymlaen at Dîm Gorfodi Tai y Cyngor a byddent yn eu codi gyda'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan eu bod yn cwrdd â nhw yn rheolaidd 

 

Gan ymateb i bryderon aelodau ynghylch a allai cyflwyno'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol i drefi penodol yn y sir ac nid i bob tref a phentref gael effaith niweidiol drwy achosi i landlordiaid diegwyddor weithredu mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u cwmpasu gan y cynllun, dywedodd swyddogion y byddent yn monitro'r sefyllfa'n agos. Gellid gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Amgylcheddol drwy fonitro data gwastraff ac ailgylchu ar gyfer ardal rhag ofn eu bod yn gwagio cynwysyddion gwastraff lluosog ar gyfer eiddo sengl. Mynegodd yr aelodau eu pryderon hefyd am y cynnydd ymddangosiadol yn nifer y ceisiadau cynllunio ar gyfer trosi anheddau sengl yn anheddau aml-ddeiliadaeth a ystyriwyd gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor yn ystod y misoedd diwethaf, boed hynny am eu troi'n Dai Amlfeddiannaeth neu'n fflatiau annibynnol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael dolen i wefan a data ‘Rhentu Doeth Cymru’, a chael y gofrestr o eiddo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir Ddinbych.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)            a darparu 'Adroddiad Gwybodaeth' ar nifer y ceisiadau cynllunio a dderbyniodd y Cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn ceisio caniatâd i drosi anheddau sengl yn Dai Amlfeddiannaeth a/neu yn fflatiau hunangynhwysol, gan gynnwys nifer y ceisiadau a roddwyd ac a wrthodwyd gan swyddogion a gan y Pwyllgor Cynllunio;  

(ii)          ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad a rhoi ystyriaeth benodol i'r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol arfaethedig, y math o Dai Amlfeddiannaeth sydd i'w cynnwys yn y cynllun ychwanegol, y cyfiawnhad a'r dystiolaeth dros ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, yr Amodau sydd i'w gosod fel rhan o'r Cynllun, a'r ffioedd sydd i'w cymhwyso i'r Cynllun, i gefnogi'r ymgynghoriad sydd ar ddod ar ymestyn y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol;  

(iii)         fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 7); ac   

(iv)         ar ôl i’r broses ymgynghori gyhoeddus ddod i ben, dylid cyflwyno drafft terfynol Trwydded Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth i'r Pwyllgor i graffu ymhellach arno cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo

 

 

Dogfennau ategol: