Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISÏAU'R CYNGOR A'R ASIANTAETH CEFNFFYRDD AR GYFER CYNNAL A CHADW YMYLON FFYRDD A PHERTHI A GWASGARU PLALADDWYR

I dderbyn adroddiad gan Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol ar bolisïau Cyngor Sir Dinbych ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) mewn perthynas â chynnal a chadw ymylon ffyrdd / perthi a gwasgaru plaladdwyr (copi ynghlwm).

 

10:05am – 11:00am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd, Effaith Amgylcheddol, Gwastraff a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ochr yn ochr â'r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, a'r Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol. Hefyd roedd David Evans, Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth a Mark Watson-Jones, Cydlynydd Amgylcheddol o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau ar gais y Pwyllgor ar ôl iddo ystyried Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth drafft y Cyngor yn ystod haf 2019. Yn ogystal, gofynnwyd am wybodaeth am ddefnydd y Cyngor o blaladdwyr.  Roedd yr aelodau’n ceisio sicrwydd bod polisïau cynnal a chadw ymylon/gwrychoedd priffyrdd Sir Ddinbych yn cael eu gweithredu’n gyson ledled y sir.  Wrth i dair cefnffordd, a oedd yn gyfrifoldeb Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru groesi’r sir, roedd cynrychiolwyr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru hefyd wedi'u gwahodd i'r cyfarfod i drafod gyda’r Pwyllgor ei bolisïau mewn perthynas â chynnal a chadw ymylon/gwrychoedd a’r defnydd o blaladdwyr. 

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor:

·         er y bu cryn sylw a si yn y cyfryngau ynghylch diogelwch Glyffosad a'r defnydd ohono, nid oes unrhyw chwynladdwr systemig effeithiol amgen wedi ei ddarganfod na'i ddatblygu.  Roedd nifer o awdurdodau yn archwilio dulliau amgen ac roedd gwyddonwyr yn ymchwilio i gynhyrchion amgen posibl, ond hyd yma Glyffosad oedd y cynnyrch mwyaf effeithiol o'i fath ar y farchnad.  Pe bai’r Cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn defnyddio dulliau neu gynnyrch amgen, bydden nhw naill ai’n lafurddwys neu’n ddrud i’w prynu.

·         Caiff Glyffosad ei drwyddedu a’i ddefnyddio gan holl lywodraethau’r DU.  Ar hyn o bryd, dyna’r unig ateb ymarferol ar gyfer delio gyda chwyn ar draws rhwydwaith y priffyrdd.  Roedd y math o chwynladdwr systematig a ddefnyddid gan y Cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru o safon diwydiannol a barnwyd ei fod yn gwbl ddiogel pe bai'n cael ei gymhwyso gan weithwyr hyfforddedig a chontractwyr a oedd yn cydymffurfio ag arferion gwaith diogel y cawsant hyfforddiant arnynt. Cafodd y plaladdwr ei chwistrellu ddwywaith y flwyddyn ar ffyrdd y sir.

·         Cafodd dulliau eraill, megis triniaeth ewyn poeth, eu defnyddio mewn meysydd penodol o’r sir, h.y. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Fodd bynnag, roedd y defnydd ohono yn gyfyngedig ac felly ni fyddai’n ymarferol i’w ddefnyddio ar draws rhwydwaith y briffordd;

·         Weithiau byddai trigolion yn dychryn wrth weld gweithwyr yn rhoi plaladdwyr mewn mannau cyhoeddus, yn gwisgo dillad amddiffynnol a masgiau wyneb pan oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol. Fodd bynnag, honnwyd bod y plaladdwyr yn ddiogel i'r cyhoedd.  Y rhesymau pam roedd gweithwyr yn gwisgo'r dillad amddiffynnol oedd i gydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch yn ymwneud â chysylltiad hirfaith i gemegau, gan eu bod yn delio â nhw o ddydd i ddydd.  Nid oedd cysylltiad byrdymor, fel yr oedd y cyhoedd yn ei brofi, yn peri risg i iechyd

·         Roedd Cyngor Sir Ddinbych ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhan o Rwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. Roedd hyn yn sicrhau bod pob asiantaeth a oedd yn gweithredu yn yr ardal yn defnyddio arferion bioamrywiaeth ac iechyd a diogelwch tebyg wrth dorri ymylon glaswellt a chwistrellu plaladdwyr.  Yn ogystal, gosodwyd pob contract cynnal a chadw priffyrdd yn dilyn proses dendro ffurfiol.  Lluniodd yr awdurdodau priffyrdd fanylebau'r contract a oedd yn nodi materion fel amlder toriadau, chwistrellu cemegol a'r mathau o gemegau i'w defnyddio, pob un ohonynt yn seiliedig ar ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.  Byddai’r holl gontractau yn cael eu monitro er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda manyleb y contract.  Ni fyddai contractau bob amser yn cael eu gosod ar sail pris yn unig, roedd ansawdd y gwaith hefyd yn ffactor.  Roedd yn bwysig felly i aelodau etholedig hysbysu'r asiantaethau am waith o ansawdd da yn ogystal â gwaith o ansawdd gwael;

·         Roedd y Cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyfathrebu gyda gweithredwyr a chontractwyr penodedig mewn perthynas â lleoliad gwarchodfeydd natur ar ochr y ffordd a sut i'w hamddiffyn yn ystod ymarferion torri ymylon a chwistrellu chwyn;

·         Roedd mwyafrif y gwrychoedd ledled y sir yn rhai perchnogaeth breifat, felly roedd y tirfeddianwyr yn gyfrifol am eu cynnal a’u cadw

 

Pwysleisiodd aelodau gwledig yr angen i drefnu toriadau ymylon yn effeithiol ar ffyrdd gwledig i gyd-fynd â'r amrywiannau yn y tymor tyfu o flwyddyn i flwyddyn, a hefyd i sicrhau bod yr ymylon yn cael eu torri cyn i rywfaint o'r llystyfiant galedu, h.y. gorthyfail.  Roedden nhw o’r farn felly bod angen elfen o hyblygrwydd ar gyfer polisïau torri ymylon.  Ar y sail hwn, penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol:  

 

Penderfynwyd: - ar ôl archwilio polisïau cyfredol y ddau sefydliad, ac yn amodol ar yr arsylwadau uchod -

 

(i)           derbyn yr adroddiad ac argymell y dylid cadw at amseriad toriadau ymylon glaswellt ar draws y sir, gyda lefel o hyblygrwydd yn rhan ohono er mwyn darparu ar gyfer yr amrywiannau mewn tymhorau tyfu o flwyddyn i flwyddyn; a

(ii)          cyflwyno Polisi Cynnal a Chadw Ymylon Glaswellt priffyrdd y Cyngor i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Mai 2020 ar gyfer ei adolygu

 

 

Dogfennau ategol: