Eitem ar yr agenda
BWLCH DU, NANTGLYN, DINBYCH – AMODAU CYNLLUNIO I’W ATODI I GANIATÂD CYNLLUNIO 25/2018/1216
Ystyried amodau cynllunio ynghlwm â chaniatâd cynllunio 25/2018/1216 a ganiatawyd ar 15 Ionawr 2020 mewn cysylltiad â Bwlch Du, Nantglyn, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn am benderfyniad ar
yr amodau cynllunio i’w hychwanegu i’r caniatâd cynllunio 25/2018/1216 a
gymeradwywyd ar 15 Ionawr 2020 mewn perthynas â Bwlch Du, Nantglyn, Dinbych.
Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried cais
Bwlch Du yn wreiddiol ym Medi 2019 a phenderfynwyd cymeradwyo’r cais. Yn dilyn rhybudd o her cyfreithiol posib i
gyfreithlondeb y penderfyniad fe gafodd y cais ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym
mis Ionawr 2020 pan benderfynwyd rhoi caniatâd a'r swyddogion i adrodd yn ôl
i'r Pwyllgor gyda rhestr drafft o'r amodau i'w cynnwys ar y Dystysgrif o
Benderfyniad i'w ystyried a'i gadarnhau.
Roedd yr adroddiad wedi gosod amserlen o amodau
cynllunio yr oedd swyddogion yn credu a fyddai'n rhesymol ac yn hanfodol i'w
hatodi i ganiatâd cynllunio. Ers cyhoeddi’r amodau arfaethedig roedd y swyddogion wedi bod mewn
trafodaethau cadarnhaol gyda chynrychiolwyr yr ymgeisydd dros y geiriad ar
gyfer rhai o'r amodau cynllunio drafft. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny roedd
swyddogion wedi cyflwyno awgrymiadau ar gyfer y geiriad diwygiedig o’r amodau
hynny a oedd wedi’i manylu yn y wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas) mewn teip
italig gyda sylwebaeth gryno pan yn briodol. Roedd cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cadarnhau
nad oedd ganddynt broblemau gyda’r diwygiadau. I fod yn eglur, ac i sicrhau fod aelodau yn fodlon
gyda geiriad yr amodau, fe gytunwyd i ystyried pob amod yn unigol gan dynnu
sylw at y diwygiadau arfaethedig ar y cyd gyda'r rhesymeg y tu ôl iddyn nhw. Crynodeb -
·
Amodau 1 a 2 – heb gynnig unrhyw newidiadau
·
Amod 3 – ail-eirio i gadarnhau geiriad drafft yr amod ac
amseriad cwblhau yr ardal parcio a throi.
·
Amodau 4 a 5 – heb gynnig unrhyw newidiadau
·
Amod 6 – ail eirio a rhannu yn ddau amod ecoleg ar wahân.
Mae’r ail eirio yn Amod 6 yn egluro’r cynigion
mewn perthynas â diogelu ystlumod yn ystod y cam adeiladu. Mae’r amod ar wahân (bellach wedi'i rifo
yn Amod 7) yn nodi'r gofyniad ar wahân ar gyfer cyflwyno manylion y mesurau
osgoi ymlusgiaid, a darpariaeth nodweddion sy’n gyfeillgar i ystlumod yn y
datblygiad.
·
Amod 7 – amod newydd yn dilyn rhannu Amod 6 (uchod) yn
ddau amod ecoleg ar wahân.
Mae’r amod hwn yn ymdrin â mesurau osgoi
ymlusgiaid a nodweddion sy'n gyfeillgar i ystlumod.
·
Amod 8 – ail-ddrafftio Amod 7 wedi’i gynnwys yn adroddiad
y swyddog i sicrhau ‘dyddiad terfynu’ lle byddai'r caban coed yn cael ei dynnu
ynghyd ag adolygu'r cymal olaf i ganiatáu cyfnod hirach i adfer y tir o’r
gyflwr blaenorol.
·
Amod 9 – ail-ddrafftio Amod 8 wedi’i gynnwys yn adroddiad
y swyddog i ganiatáu cyfnod hirach i wneud y gwaith i strwythur y sgubor ar ôl
cwblhau’r gwaith ar yr annedd.
·
Amod 10 – ail-ddrafftio Amod 9 i adnabod y coed sy’n tyfu o
fewn ôl troed yr hen sgubor a fu'n rhaid ei dynnu i lawr.
·
Amod 11 – amod newydd i sicrhau nad oedd perygl i strwythur
adeilad rhestredig yn ystod y gwaith o adeiladu estyniad.
Ar ôl ystyried y rhestr ddrafft o amodau cynllunio
a diwygiadau wedi'u awgrymu fel y nodir gan y swyddogion fe ddarllenodd y Cadeirydd
yr argymhelliad ar y taflenni gwybodaeth atodol hwyr oedd yn rhoi sylw i hynny.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James
argymhelliad y swyddog i roi caniatâd cynllunio yn amodol ar yr amodau cynllunio
a gyflwynwyd, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Melvyn Mile.
PENDERFYNWYD bod y diwygiadau awgrymedig i’r amodau
a’r amod ychwanegol (rhif 11) fel y manylir yn y wybodaeth atodol hwyr
(taflenni glas) i gael eu derbyn a’u hatodi i Dystysgrif Penderfynu ar gais
25/2018/1216, ynghyd ag amodau 1,2,4 a 5 fel wedi’u drafftio yn adroddiad y
swyddog i’r Pwyllgor.
Materion eraill
Ar y pwynt yma, a gyda chaniatâd y Cadeirydd fe
dynnodd y Cynghorydd Tony Thomas sylw at y costau cuddiedig sy’n cael eu cyflwyno
gan ddatblygwyr ar rydd-ddeiliaid, fel costau cynnal a chadw ar gyfer tir
agored/parciau chwarae a chymeradwyo gwaith adeiladu dilynol. Swyddogion yn derbyn y byddai'n fuddiol i
fod yn eglur ar faterion o'r fath a chytunwyd i symud y mater ymlaen, fodd
bynnag roedd rhai achosion yn ddarostyngedig i drefniadau preifat rhwng y
datblygwr a'r perchennog tŷ ac felly y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Cyn cau’r cyfarfod fe gynghorodd y Cadeirydd fod
Susan Cordiner, Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd yn mynychu ei chyfarfod diwethaf
cyn ei hymddeoliad ac fe gyflwynodd hi gyda thusw o flodau i ddangos ein
gwerthfawrogiad iddi am eich cyngor doeth a'i chyfraniad gwerthfawr i waith y
Pwyllgor. Dyma’r Prif Swyddog Cynllunio (IW) yn dangos ei werthfawrogiad ar ran y swyddogion
am ei chefnogaeth anferthol a dymunodd yn dda iawn iddi. Wrth ddiolch am y geiriau caredig a’r
blodau fe ddywedodd Mrs Cordiner ei bod wedi bod yn falch o gael gweithio i’r
Cyngor ac yn dymuno'n dda i bawb ar gyfer y dyfodol.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.15am.
Dogfennau ategol:
- BWLCH DU CONDITIONS REPORT, Eitem 7. PDF 287 KB
- BWLCH DU CONDITIONS - APPENDIX 1, Eitem 7. PDF 91 KB
- BWLCH DU CONDITIONS - APPENDIX 2, Eitem 7. PDF 3 MB