Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF HEN BARC CARAFANAU PLAS DEVA, FFORDD TALARGOCH, GALLT MELYD, PRESTATYN

Ystyried cais ar gyfer adeiladu 41 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiol yn hen Barc Carafanau Plas Deva, Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 41 o dai fforddiadwy a gwaith cysylltiedig ar hen safle Parc Carafanau Plas Deva, Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Stuart Andrews (McBryde Homes) (O blaid) – eglurodd manylion y datblygiad arfaethedig i adeiladu tai fforddiadwy ar y safle yn cynnwys cymysgedd o dai gwahanol a fyddai'n mynd i'r afael â'r angen am dai cymdeithasol yn yr ardal; roedd y datblygiad yn cwrdd â holl ofynion Llywodraeth Cymru (yn cael ei ariannu yn bennaf gan Gronfa Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru) ac yn bodloni’r holl gyfyngiadau cynllunio ar y safle.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) yn tynnu sylw at agweddau cadarnhaol y datblygiad a oedd yn gwneud defnydd da o safle tir llwyd ac wedi helpu i dynnu’r pwysau oddi ar ddatblygiadau maes glas.  Byddai’n cynnig cymysgedd dda o gartrefi i gwrdd a'r anghenion tai lleol, yn cynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd ond yn gallu fforddio rhentu, ac hefyd yn helpu i gynnal busnesau lleol.  Roedd y cynnig yn cadw at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r Cynllun Corfforaethol.  Roedd y Cynghorydd Evans yn gofidio nad oedd modd cadw Fila Talargoch ond byddai cadw’r wal derfyn gerrig a’r plac yn helpu i gadw naws y pentref.  Ei brif bryder oedd y traffig ar yr A541, ac wrth ystyried y tagfeydd sydd eisoes yn bodoli yn ystod yr amseroedd prysuraf oherwydd y llif traffig i mewn ac allan o Brestatyn, dim ond gwaethygu fyddai’r sefyllfa.   Fe awgrymodd y byddai’n fuddiol edrych ar ddewisiadau eraill fel gwella'r A548 tuag at y Rhyl ac yna drosodd i Bryn Cwnin yn Rhuddlan.

 

Siaradodd y Cynghorydd Tony Thomas o blaid y cais yn cynghori y byddai’r datblygiad yn helpu i gwrdd â'r angen wedi’i gydnabod yn yr ardal am dai yn lleol ac yn cyfrannu at bron i 10% o ymrwymiad Cynllun Corfforaethol y Cyngor i ddarparu 430 o dai fforddiadwy.

 

Eglurodd yr Uwch Beiriannydd – Rheoli Datblygu fod y safle wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol yn dyddio nol i 2007 a 2011 (a oedd wedi bellach dod i ben) ar gyfer datblygiad preswyl ac hefyd ar gyfer darparu tai yn y CDLl.  Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â’r effaith ar draffig a chymhwysedd y rhwydwaith priffyrdd fe gynghorodd bod yr ymgeisydd wedi comisiynu asesiad effaith cynyddol o'r holl ddatblygiadau posib a fyddai’n cael effaith ar yr A547. Roedd yr adroddiad wedi dod i’r casgliad y dylai’r rhwydwaith priffyrdd weithredu o fewn y gymhwysedd gyda’r holl safleoedd datblygu arfaethedig, yn geisiadau presennol ac ymrwymedig. Roedd y standiau gwelededd wrth y fynedfa yn cwrdd â'r safonau yn TAN18 a'r safonau parcio yn cwrdd â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor.    Drwy gymryd yr holl achosion perthnasol i ystyriaeth fe awgrymwyd nad oedd rheswm i wrthod y cais ar sail priffyrdd.

 

Dyma'r Prif Swyddog Cynllunio (SS) hefyd yn ymateb i gwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn -

 

·         mewn perthynas â Fila Talargoch doedd yr adeilad ddim yn rhestredig nac mewn ardal gadwraeth a chan nad oedd yr adeilad wedi'i warchod mewn unrhyw ffordd nid oedd gofyniad i gyflwyno datganiad o effaith ar dreftadaeth fel rhan o'r broses cais cynllunio [cynghorodd y Cynghorydd Mark Young fod ceisiadau yn y gorffennol heb statws adeilad rhestredig wedi cyflwyno asesiadau treftadaeth gan dynnu sylw bod angen cysondeb o ran hynny]

·         o ran tai fforddiadwy roedd y meini prawf yn seiliedig ar incwm lleol a byddai polisi gosod i bobl leol yn cael ei baratoi ar y cyd â’r aelod lleol

·         o ran manylion y cynllun tai fforddiadwy sicrhawyd  y byddai’n rhaid i’r anheddau barhau i fod yn fforddiadwy am byth - sef cyfyngiad oedd yn rhan o'r amodau yn gysylltiedig â'r cyllid grant a ddarparwyd ar gyfer y cynllun.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: