Eitem ar yr agenda
Rhybudd o Gynnig
Y Cyngor i
ystyried Hysbysiad o Gynnig - "Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” gan y
Cynghorydd Joan Butterfield (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor Hysbysiad o Gynnig ar ran y Cynghorydd
Joan Butterfield, nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod, er ystyriaeth y Cyngor
Llawn.
Mae'r awdurdod
lleol hwn yn nodi, ers ei sefydlu yn 2006, bod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
(Cymru) wedi gweithio gyda dros 150,000 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae gweithwyr addysg Dangos y Cerdyn Coch i
Hiliaeth wedi gweld ers sawl blwyddyn erbyn hyn deimlad cynyddol o gasineb
gwrth—Fwslim a gwrth-fewnfudwyr yn ychwanegol at y mathau eraill mwy sefydledig
o hiliaeth. Maent wedi mynd yn fwy
pryderus am y ffordd mae cymunedau mewnfudwyr yn cael eu beio am broblemau cymdeithasol
sydd mewn gwirionedd ag achosion amrywiol a chymhleth.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
Ø
Bod trosedd casineb yn parhau i gynyddu ar draws y DU
gyda throsedd casineb ar sail hil a chrefydd yn cyfrif am dros 80% o bob
trosedd casineb yng Nghymru.
Ø
Bod mwyafrif yr atgyfeiriadau i Uned Eithafiaeth a
Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU) yn cynnwys unigolion rhwng 15 ac 20 oed.
Ø
Mae ymchwiliad y Gymdeithas Genedlaethol Er Atal
Creulondeb i Blant wedi canfod bod Heddluoedd Cymru wedi cofnodi bron i 600 o
droseddau casineb hil yn erbyn plant dros gyfnod o 3 blynedd (2015 i 2018),
gyda 240 o'r troseddau hyn wedi’u cofnodi'r llynedd (17/18), gyda phlant bach a
babanod ymhlith y dioddefwyr.
Ø
Roedd yr elusen wedi cynnal arolwg gyda 1,000 o athrawon
a staff cymorth mewn ysgolion yn ystod Tymor y Gwanwyn 2019 gyda’r canlyniadau
yn dangos bod 1 mewn 4 o ymatebwyr wedi gweld, wedi ymateb i neu wedi cael
gwybod gan blentyn ei fod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil yn y 12 mis
blaenorol.
Felly, mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu: -
Ø
Ystyried canlyniadau arolwg 2019 fel rhan o Gynllun
Cydraddoldeb Strategol y Cyngor
Ø
Ystyried comisiynu’r rhaglen ysgolion Dangos y Cerdyn
Coch i Hiliaeth a fydd yn addysgu pobl ifanc ac athrawon sut i fynd i’r afael â
materion lleol.
Ø
Ymrwymo i gadw at arfer gorau sef ‘y dylai ysgolion roi
gwybod am, a chofnodi pob digwyddiad o hiliaeth ac adrodd i gynghorau yn
flynyddol' - Estyn/LlCC.
Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mae ysgolion yn gwneud popeth bosib i ddileu hiliaeth ond
mae troseddau casineb yn digwydd ym mhob rhan o gymdeithas, nid dim ond yn yr
ysgolion.
·
Cytunwyd bod angen i rieni a neiniau a theidiau gymryd
cyfrifoldeb dros addysgu eu plant a'u hwyrion am faterion hiliaeth
·
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud darn o waith i leihau
troseddau casineb.
Fel awdurdod lleol, mae CSDd yn gwneud cymaint ag y gall
i leihau troseddau casineb ond mae angen
cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Richard Mainon ddiwygiad, a eiliwyd
gan y Cynghorydd Ann Davies. Y diwygiad
oedd newid rhan gyntaf y penderfyniad i ‘Ystyried canlyniadau ein harolwg yn
2019” yn hytrach nag “Ystyried canlyniadau ein harolwg yn 2019 fel rhan o Gynllun
Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod."
Pleidleisiwyd ar y diwygiad fel a ganlyn:
O blaid - 15
Ymatal - 4
Yn erbyn - 7
Felly cafodd y diwygiad ei gario a chafodd y prif gynnig ei newid.
Cafwyd wedyn bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio fel a ganlyn:
O blaid - 25
Ymatal - 1
Yn erbyn - 1
Felly:
PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn:
Ø
Ystyried
canlyniadau arolwg 2019 CSDd
Ø
Ystyried
comisiynu’r rhaglen ysgolion Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a fydd yn addysgu
pobl ifanc ac athrawon sut i fynd i’r afael â materion lleol.
Ø
Ymrwymo i gadw
at arfer gorau: ‘y dylai ysgolion roi gwybod am, a chofnodi pob digwyddiad o
hiliaeth ac adrodd i gynghorau yn flynyddol' Estyn/LlCC.
Dogfennau ategol: