Eitem ar yr agenda
ARGYFWNG YR HINSAWDD AC ECOLEG - ADRODDIAD AR GYNNYDD GYDA CHYNNIG Y CYNGOR
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth am y
cynnydd sy’n cael ei wneud gan y Gweithgor trawsbleidiol Argyfwng yr Hinsawdd
ac Ecolegol.
Cofnodion:
Cyflwynodd Brian Jones a Graham Timms Adroddiad ar Gynnydd gyda Chynnig y
Cyngor mewn perthynas ag Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg.
Ar y cam hwn diolchodd y Cadeirydd i aelodau Cyfeillion y Ddaear a oedd yn
bresennol i roi cefnogaeth i’r Cyngor.
Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg ei basio'n
unfrydol gan y Cyngor ar 2 Gorffennaf 2019 gan ymrwymo'r Cyngor i’r gyfres o
weithredoedd sydd wedi'u cynnwys ynddo.
Mae’r Cyngor wedi cyflawni amrywiaeth o weithredoedd i gyfrannu at yr
uchelgais newid hinsawdd a gwelliannau ecolegol. Roedd yn cynnwys gwaith a wnaed o dan ac ar
draws y Cynllun Corfforaethol presennol, a oedd yn cynnwys y flaenoriaeth 'Yr
Amgylchedd'.
Rhoddwyd yr enghreifftiau canlynol o sut y mae, a sut y bydd y Cyngor yn
lleihau carbon, yn cynyddu secwestriad ac yn gwella ecoleg.
·
Rhaglen lleihau ynni yn adeiladau’r Cyngor
·
Rhesymoli'r ystâd gorfforaethol yn barhaus
·
Gwaith i wneud tai cyngor yn fwy effeithlon a thai cyngor
newydd yn cael eu hadeiladu hyd safonau “A” a “Passivhaus”.
·
Plannu coed a rheolaeth llifogydd naturiol
·
Strategaeth y fflyd newydd (trydan yn gyntaf) yn cael ei
rhoi ar waith, ynghyd â phwyntiau gwefru trydanol.
·
Defnyddio tir a lleiniau ymyl ffordd y Cyngor fel mannau
gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth.
·
Polisïau ac arferion gweithio hyblyg, o gartref ac o bell
ar gyfer staff.
·
Adeiladau newydd yn cyrraedd safonau rhagoriaeth BREAM
·
Yr holl drydan sy’n cael ei ddefnyddio i’w brynu o
ffynonellau adnewyddadwy
·
Mae cynhyrchiad ynni adnewyddadwy yn neu ar ein
hadeiladau wedi dyblu ac yn tyfu.
·
Wedi buddsoddi yn, ac wedi agor dau waith cynhyrchu ynni
o wastraff.
Mae Gweithgor trawsbleidiol wedi’i sefydlu sy’n cael ei gadeirio gan y
Cynghorydd Timms.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer 25 Chwefror 2020 lle bydd
aelodau’r cyhoedd, cynrychiolwyr y gymuned gwelliannau amgylcheddol a grwpiau
ysgolion yn gallu rhoi eu syniadau i'w bwydo i mewn i gynlluniau datblygol y
Cyngor. Gellid gweddarlledu’r cyfarfod
er mwyn galluogi mwy o ymgysylltiad gan drigolion o sir.
Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mae consensws y dylai Llywodraeth Cymru roi cyllid i
Awdurdodau Lleol i'w galluogi i weithio tuag at fod yn garbon niwtral erbyn
2030
·
Codwyd materion yn ymwneud â cheir trydanol.
Er enghraifft pe bai ar bawb angen gwefru eu ceir tua'r
un pryd byddai’r effaith ar y grid cenedlaethol yn aruthrol. Yn ogystal mae batris
newydd ar gyfer cerbydau trydan yn hynod o ddrud, a beth fyddai'n digwydd i'r
hen fatris?
·
A oes unrhyw bosibilrwydd o gerbydau hydrogen?
·
Gofynnodd yr arweinydd a oedd y prosiect hwn yn un rhy
fawr i’r Gweithgor?
Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Graham Timms ei bod yn
gwneud synnwyr i’r Gweithgor weithio drwy’r materion perthnasol am o leiaf y
chwe mis nesaf.
·
Cadarnhawyd bod disgyblion ysgolion wedi ymweld â’r
datblygiad tai newydd yn Llanbedr, sydd â system wresogi ffynhonnell aer a bod
y datblygiad wedi gwneud argraff fawr ar y disgyblion.
·
Soniodd y Cynghorydd Brian Jones wrth y cyfarfod am
lagŵn llanw a fyddai o fantais i’r ardal arfordirol o Drwyn y Fuwch yn
Llandudno i’r ochr arall i Brestatyn gan y byddai’n lleihau llifogydd.
·
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod ‘presenoldeb o bell’
mewn cyfarfodydd wedi’i gynnwys yn y Mesur Llywodraeth Leol diweddar.
·
Cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai ymateb
swyddogol yn cael ei anfon at Gyfeillion y Ddaear, a oedd wedi dosbarthu
taflenni gwybodaeth yn ystod y cyfarfod.
·
Rhaid cynnal ymarferion cwmpasu.
Mae angen rhagor o waith i baratoi’r Cyngor i wneud cais
am gyllid gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD-
·
Bod y Cyngor yn
nodi’r cynnydd a wnaed gan y Gweithgor Trawsbleidiol Argyfwng yr Hinsawdd ac
Ecoleg a'r bwriad i weithredu strwythur rheoli rhaglen erbyn 31 Mawrth 2020 i
gyflawni ein huchelgeisiau fel y'u nodir yn y Cynnig.
·
Bod y Cyngor yn
nodi gofyniad Llywodraeth Cymru (i gychwyn yn fuan, ar 01.04.2020) i gwmpasu a
lleihau allyriadau carbon a fydd yn ffurfio sail ein cynlluniau gweithredu.
·
Bod y Cyngor yn nodi dyddiad cyfarfod cyhoeddus i
gasglu syniadau’r cyhoedd i'w bwydo i mewn i'n cynlluniau wrth iddynt ddatblygu
(25.02.2020).
Dogfennau ategol:
- Climate Ecological Emergency Report WELSH, Eitem 11. PDF 310 KB
- Appendices- Climate & Ecological Emergency, Eitem 11. PDF 306 KB