Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2020/21 – CYNIGION TERFYNOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i ddarparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am broses y gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a
chymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2020/21, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, adroddiad ar Gyllideb 2020-21 – adroddiad Cynigion Terfynol
(eisoes wedi’i ddosbarthu).
Mae’n ofyniad
cyfreithiol i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir ei chyflawni cyn
dechrau pob blwyddyn ariannol ac yn sgil hynny benderfynu ar lefel Treth y
Cyngor er mwyn galluogi anfon biliau at breswylwyr.
Derbyniodd y
cyngor y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2020/21 ar 16 Rhagfyr ac
arweiniodd at setliad cadarnhaol o +4.3%, sef y setliad cyfartalog ar gyfer
Cymru. Disgwylir y Setliad Terfynol ar
25 Chwefror ond mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi na fydd llawer o
newidiadau.
Fel rhan o’r setliad roedd ‘trosglwyddiadau i mewn’ o £1.794 miliwn, yn bennaf yn ymwneud â throsglwyddo grant am
ran o’r flwyddyn ar gyfer Tâl Athrawon a Grant Pensiwn Athrawon. Mae angen ariannu effaith blwyddyn lawn y
grantiau hyn o’r setliad cyffredinol.
Roedd y cynigion
terfynol i fantoli cyllideb 2020/21 i’w gweld yn y detholiad o Gynllun Ariannol
Tymor Canolig y Cyngor yn Atodiad 1 o'r adroddiad. Roedd y prif bwyntiau fel a ganlyn:
·
Pwysau
tâl o £1.124 miliwn
·
Chwyddiant
prisiau ac ynni £250k
·
Ardoll
y Gwasanaeth Tân £93k
·
Lwfans
ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor - £350k.
·
Pwysau
chwyddiant ysgolion yn cael ei gydnabod yn swm o £2.852miliwn
·
Pwysau
demograffeg ysgolion £716k
·
£2.6miliwn
i gydnabod pwysau’r galw a rhagolygon mewn Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fel
rhan o strategaeth tymor hir y cyngor i reoli cyllidebau gofal
·
£1.546miliwn
i gydnabod y pwysau presennol mewn Addysg a Gwasanaethau Plant sy’n ymwneud â Lleoliadau
y Tu Allan i’r Sir ac Adennill.
·
£1.4miliwn
o bwysau mewn Gwasanaethau Gwastraff wedi’u cydnabod yn seiliedig ar bwysau yn
ystod y flwyddyn
·
£600k
o bwysau pellach wedi’i gydnabod yn ymwneud â chludiant i’r ysgol
·
£529k
o bwysau wedi’i gynnwys i ariannu Blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol
·
Oherwydd
graddau’r pwysau, mae arian wrth gefn gwerth £358miliwn wedi’i gynnwys
Oherwydd y
defnyddiwyd £2 miliwn o arian yn 2019/20 (a gafodd yr effaith o ohirio’r angen
i ddod o hyd i arbedion) roedd cyfanswm y diffyg yn £14.418 miliwn.
Mae’r setliad o
4.3% wedi cynhyrchu £6.219 miliwn o refeniw ychwanegol gan adael bwlch cyllido
o £8.199 miliwn. I gau’r bwlch,
cynhwyswyd yr eitemau canlynol yn y cynigion:
·
£2 miliwn o arbedion wedi’u cynnwys o ganlyniad i'r
adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd a gynhelir bob tair blynedd.
·
Cafodd
cynigion i wneud arbedion ar wasanaethau eu craffu arnynt yn fanwl gan y Bwrdd
Cyllideb a'u rhannu gyda’r aelodau etholedig ym mis Rhagfyr 2019. Byddai'r holl
gynigion yn gofyn am benderfyniadau dirprwyedig, naill ai gan benaethiaid
gwasanaeth neu aelodau arweiniol, felly nid oes angen unrhyw benderfyniadau
Cabinet neu Gyngor penodol.
Mae’r cynigion yn cyfrannu cyfanswm o £1.756 miliwn.
·
Gofynnwyd
i’r ysgolion ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o 1% - £692k
·
Argymhellir
bod £685k mil o’r arian parod, sydd eisoes wedi’i glustnodi i helpu i leddfu’r
gostyngiadau yn y gyllideb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 2020/21. Y ffigwr gwreiddiol oedd £1.085 milwn.
·
Cynnydd o 4.3% yn Nhreth y Cyngor a fyddai’n cynhyrchu
£2.298m o refeniw ychwanegol.
·
Mae
Sylfaen Treth y Cyngor wedi cynyddu fwy na’r disgwyl eleni sy’n golygu y
rhagwelir Treth y Cyngor ychwanegol o £486 mil.
Mae’r
Sylfaen hefyd yn effeithio ar y Grant Cynnal Refeniw gan olygu bod y Cyngor
wedi elwa o £282 mil.
Yn ogystal,
byddai’r gostyngiad yn y gofyniad am arian parod yn golygu bod £400k ar ôl yn y Gronfa Lliniaru’r Gyllideb
yr argymhellir ei ryddhau i helpu i ariannu camau cychwynnol y prosiect Targed
Di-garbon a’r pwysau sy’n ymwneud â Chlefyd Coed Ynn (cynnig i ddyrannu £200
mil i bob prosiect). Bydd y cyllid hwn
yn caniatáu i’r prosiectau gynhyrchu cynlluniau gwario manwl y gellir eu
hystyried a’u cynnwys yn ystyriaethau cyllidol y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y
Cynghorydd Graham Timms ei fod yn anghytuno â'r bwriad i ostwng treth y cyngor
o 4.8% i 4.3% a chynigiodd ddiwygiad i argymhelliad 3.3 fel a ganlyn:
3.3 Bod
y Cyngor yn cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 4.8%
a bod yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith y cyngor ar
newid hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.
Eglurodd y
Cynghorydd Timms y byddai'r cynnig diwygiedig yn golygu cynnydd o £6.64 y
flwyddyn i dŷ Band D cyffredin.
Eiliodd y Cynghorydd Brian Blakeley’r diwygiad.
Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Byddai’r
diwygiad yn effeithio ar deuluoedd sy'n gweithio sydd eisoes yn cael
trafferthion ymdopi'n ariannol.
Mae 25% o breswylwyr yn cael gostyngiad yn nhreth y cyngor.
·
Mae'n
rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid tuag at y Cynllun Newid Hinsawdd.
Roedd LlC wedi dyfarnu £21m i Gaerdydd ar gyfer aer glân a’r farn gyffredin
oedd mai Gogledd Cymru ddylai fod wedi derbyn yr arian.
·
Cafwyd
cadarnhad y byddai LlC a Llywodraeth y DU yn darparu cyllid, ond nid yw'n glir
ar hyn o bryd faint.
·
Dywedwyd
mai blaenoriaeth LlC yw GIG.
·
Roedd
angen gwneud cynlluniau ar gyfer 5-10 mlynedd i'r dyfodol er mwyn caniatáu i
arferion newid.
Mae
addysg yn bwysig er mwyn gwneud pobl ifanc yn fwy ymwybodol o oblygiadau newid
hinsawdd.
Eglurodd y Prif
Weithredwr y disgwylir Fframwaith Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2020
ond y byddai costau ychwanegol yn dod yn ei sgil. Bydd cynllun cwmpasu’n cael ei gytuno, ac mae gwaith yn digwydd yn rhanbarthol
drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae
disgwyl felly i LlC fod â chynllun gweithredu wedi’i gostio’n llawn er mwyn
darparu arbedion arwyddocaol.
Dywedodd y
Cynghorydd Graham Timms bod angen gwneud y newidiadau ar unwaith gan mai dim
ond 10 mlynedd sydd tan y dyddiad terfyn - 2030.
Roedd pleidlais
ar y diwygiad arfaethedig i gael ei chynnal a gwnaeth y Cynghorydd Timms gais
am bleidlais wedi’i chofnodi. Cefnogodd dros
un rhan o chwech o'r rhai oedd yn bresennol y cynnig am bleidlais wedi’i
chofnodi.
Roedd y bleidlais
a gofnodwyd fel a ganlyn:
O blaid y diwygiad arfaethedig:
Y Cynghorwyr
Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Ellie Chard, Meirick Lloyd Davies, Rachel Flynn,
Alan James, Gwyneth Kensler, Barry Mellor, Paul Penlington, Peter Prendergast,
Arwel Roberts, Graham Timms, Cheryl Williams ac Emrys Wynne.
Yn erbyn y diwygiad arfaethedig:
Y Cynghorwyr Ann Davies, Gareth Davies, Hugh
Evans, Peter Evans, Bobby Feeley, Tony Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Hugh
Irving, Brian Jones, Tina Jones, Geraint Lloyd-Williams, Richard Mainon,
Christine Marston, Melvyn Mile, Anton Sampson, Peter Scott, Glenn Swingler,
Tony Thomas, Andrew Thomas, Rhys Thomas, Julian Thompson-Hill, Joe Welch, David
G. Williams a Mark Young.
Felly, methodd y
diwygiad arfaethedig.
Cafwyd pleidlais
wedyn ar yr argymhelliad gwreiddiol, fel a ganlyn:
O blaid - 24
Ymatal - 0
Yn erbyn – 12
PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn:
(i)
Nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth
Leol 2020/21;
(ii)
Cymeradwyo’r cynigion a amlinellwyd yn
Atodiad 1, ac y rhoddwyd manylion yn eu cylch yn Adran 4, er mwyn cwblhau’r
gyllideb ar gyfer 2020/21.
(iii)
Cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o 4.3%
arfaethedig yn Nhreth y Cyngor.
(iv)
Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac
Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian parod a gynhwyswyd
yn y cynigion cyllidol o hyd at £500k os oes
symudiad rhwng ffigyrau’r setliad
drafft a therfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol.
(v)
Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les
Dogfennau ategol:
- Budget Report Council January 2020 WELSH, Eitem 6. PDF 237 KB
- Appendix 1 MTFP Budget Proposals, Eitem 6. PDF 196 KB
- Appendix 2 Council Tax Sensitivity, Eitem 6. PDF 345 KB
- Appendix 3 WIA for Council Tax, Eitem 6. PDF 101 KB
- App 4 Engagement Report for Budget Board, Eitem 6. PDF 465 KB