Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O WASANAETHAU CYFLE GWAITH A DYDD

Ystyried adroddiad diweddaru (copi ynghlwm) ar gasgliadau a chanlyniadau'r adolygiad i wasanaethau Cyfle Gwaith a Dydd mewnol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer oedolion gydag Anableddau Cymhleth.

10:05 – 10:45

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Mewnol Gofal Cymdeithasol i Oedolion (oherwydd rhesymau personol), cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes). Roedd yr adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad o’r Gwasanaethau Gweithgareddau Cyfleoedd Gwaith a Chyfleoedd Dydd i oedolion ag anableddau cymhleth. Dywedodd fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi rhoi ystyriaeth yn ddiweddar i ganfyddiadau’r adolygiad ac roeddent yn cytuno â’r casgliadau a luniwyd a’r argymhellion a gyflwynwyd.

 

Yn ystod yr adolygiad, daeth yn amlwg fod defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn rhoi gwerth ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl ag anableddau dysgu cymhleth, a bod nifer ohonynt am weld y gwasanaethau yn gwella a datblygu.  Daeth yr Adolygiad i’r casgliad:

  • Byddai Meifod Wood a Garden Control Services yn elwa o gael eu gweithredu fel mentrau cymdeithasol oherwydd byddai hyn yn eu galluogi i dyfu a datblygu’n fusnesau yn eu rhinwedd eu hunain, a fyddai’n ehangu’r profiadau sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth;
  • Dylai Gwasanaethau Arlwyo Popty aros fel rhan o’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol ond elwa ar gyfle sydd ar gael i adleoli i le sydd ar gael ym mhencadlys newydd Denbighshire Leisure Limited yn Ninbych, lle gellir gosod cegin bwrpasol ar gyfer y Gwasanaeth.  Byddai ad-leoli yn galluogi Popty i ddatblygu’n wasanaeth lleoliad profiad gwaith a hefyd cynorthwyo’r Gwasanaeth i archwilio hyfywedd cadw’r gwasanaeth darparu rhyngosod ymhellach yn Denbighshire Leisure Limited.
  • Byddai’n fanteisiol i’r gwasanaeth Canfod Swyddi drosglwyddo i’r Gwasanaeth ‘Sir Ddinbych yn Gweithio’.  Wrth wneud hynny, byddai’n gallu manteisio ar gysylltiadau a phrofiad gwasanaeth cefnogi cyflogaeth pwrpasol, a
  • Byddai Y Bont a Golden Group yn elwa o gyfuno fel un gwasanaeth, gan adleoli o Ganol y Dre i ardal wedi’i hailwampio’n bwrpasol yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth:

·         roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn cefnogi’r cynigion ar ôl cael sicrwydd y byddai’r unigolion hynny sy’n gweithio yng nghwmni Popty yn parhau i allu cwrdd a chymdeithasu gyda chydweithwyr eraill sy’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd yng Nghanol y Dre, gan fod nifer ohonynt yn cymryd rhan mewn gwasanaethau cyfleoedd gwaith eraill ar ddiwrnodau eraill;

·         amcangyfrifwyd y byddai gwaith ailwampio i ddarparu ar gyfer ad-leoli gwasanaethau i Neuadd y Sir ac i Ddinbych yn costio tua £120K - £150K.  Rhagwelwyd y gellid ariannu’r gost hon yn rhannol trwy gais llwyddiannus i’r Gronfa Gofal Canolraddol ac i Grŵp Buddsoddi Strategol y Cyngor ei hun.  Dylai fod digon o gyllid ar gael i osod yn erbyn y gost trwy’r derbyniad cyfalaf a fyddai ar gael wrth werthu adeilad Canol y Dre hefyd;

·         ni fyddai bwlch o ran darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth presennol yn ystod y cyfnod pontio, mae’n bosibl y bydd gorgyffwrdd oherwydd byddai’r pontio’n raddol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cyflwyno i’w hamgylchedd newydd gan ddefnyddio dull ymgyfarwyddo fesul cam;

·         byddai penseiri ac arbenigwyr eraill yn cael eu hymgysylltu i ddylunio cyfleusterau ystafell ymolchi a gorffwys priodol yn Neuadd y Sir i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth, a

·         byddai datblygu Meifod Wood a Garden Control yn fentrau cymdeithasol yn agor cyfleoedd i’r ddau wasanaeth a helpu i sicrhau y byddai digon o staff ar gael dros gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch ac ati.

 

Roedd aelodau’r pwyllgor yn awyddus i ymweld â’r gwasanaethau presennol a ddarperir o Ganol y Dre, Meifod Wood a Garden Control a chytunodd y Pennaeth Gwasanaeth i hwyluso’r ymweliadau. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor adrodd i’r Cabinet

 

      I.        ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1) yn rhan o’i ystyriaethau;

    II.        yn amodol ar y sylwadau uchod, ei fod yn cefnogi’r bwriad i adleoli pedwar gwasanaeth (Popty Catering Services, Y Bont, Jobfinding a The Golden Group) ac uno'r Bont a The Golden Group i un gwasanaeth wedi’i gyd-leoli; ac

argymell cymeradwyo’r cynnig i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu cwmnïau cymdeithasol mewn perthynas â dau weithgaredd sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal gan y gwasanaeth, sef Meifod Wood a Garden Control.

Dogfennau ategol: