Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIADAU ALLANOL A DDILYSWYD

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi ynghlwm) ar berfformiad asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau allanol yng Nghyfnod allweddol 4 ac ôl-16 yn ysgolion Sir Ddinbych. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu canlyniadau yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad cenedlaethol.

10:45 – 11:15

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) gan bwysleisio mai un o’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth ar hyn o bryd oedd eu bod yn darparu gwasanaethau mewn cyfnod lle roeddent yn aros i gwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn fuan.  Roedd hynny’n golygu eu bod yn darparu’r gwasanaeth ar hyn o bryd heb wybod pa ddangosyddion y byddent yn cael eu hasesu yn eu herbyn, gan nad oeddent wedi’u cytuno eto.  Er bod ymarferwyr addysg yn cydnabod bod y set gul o ddangosyddion a ddefnyddiwyd o’r blaen i fesur cyrhaeddiad addysgol disgyblion wedi cael effaith andwyol ar ddisgyblion ac ysgolion, nid oedd y data a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn cyflwyno darlun gwir a chyfannol o gyrhaeddiad pob disgybl unigol. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth, y Pen Reolwr Addysg a chynrychiolwyr GwE ddweud:

·         er bod elfen o gydberthyniad rhwng amddifadedd, tlodi a pherfformiad addysgol gwael, roedd ffactorau cyfrannol eraill fel iechyd meddwl a materion lles.  Iechyd Meddwl oedd yr her fwyaf a wynebir gan Addysg a Gwasanaethau Plant ar hyn o bryd;

·         Roedd Sir Ddinbych yn llwyr ymwybodol o lle roedd eu disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn cael eu haddysgu ac roedd ganddynt broffil addysg a lles ar bob un, felly roedd swyddogion yn gwybod yn union beth oedd eu hanghenion a’u galluoedd;

·         roedd llawer o waith yn ardaloedd o amddifadedd y sir yn canolbwyntio ar drawsnewid plant ifanc i mewn i addysg;

·         roedd staff addysg y Sir a GwE yn olrhain cynnydd ysgolion a disgyblion unigol yn rheolaidd ar bob Cyfnod Allweddol (CA) ac felly gallent deilwra eu rhaglen gymorth i anghenion penodol pob ysgol unigol;

·         oherwydd gwaith arbrofol sy’n cael ei wneud yng ngham CA3, ni ddylai’r gostyngiad mewn perfformiad ar y cam hwn beri pryder, oherwydd roedd lleihad o ran cyrhaeddiad ar sail genedlaethol yn 2019;

·         roedd yn anodd cymharu perfformiad yn CA4 yn 2019 gyda blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau sylweddol yn y rhaglen addysg yng Nghymru a’r ffaith fod y cipio data cenedlaethol ar gyfer ysgolion unigol yn seiliedig ar ganlyniadau mynediad cyntaf nawr.  Er hynny, bu gwelliant mewn canlyniadau Gwyddoniaeth;

·         roedd cyrhaeddiad disgyblion ar gyfer cymwysterau’r Gymraeg yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yn nhri o’r pedwar cyfnod allweddol.  Roedd hynny’n adlewyrchiad ar y buddsoddiad a wnaed yn y blynyddoedd diweddar mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir;

·         nod y Gwasanaeth Addysg oedd i bob disgybl ac ysgol gyflawni’r gorau a allent, a hynny’n gymesur â’u gallu, dyna pam mae pwyslais yn Sir Ddinbych ar ddarparu gwybodaeth ansoddol glir a thryloyw ar gyrhaeddiad;

·         roedd canlyniadau arholiadau yn dangos un agwedd benodol ar addysg ac roedd adroddiadau arolygu Estyn yn darparu darlun mwy cyfannol o lawer a dadansoddiad o ansawdd addysg, gofal ac arweinyddiaeth a ddarperir gan yr ysgolion a’r Awdurdod Addysg, oherwydd roeddent yn ystyried agweddau eraill ar y cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol a’u heffaith ar les cyffredinol disgybl;

·         Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych oedd Cadeirydd presennol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. Felly roedd yn gallu rhannu gyda Chyfarwyddwyr Addysg eraill profiad Sir Ddinbych o gyfuno Addysg a Gwasanaethau Plant dan un pennaeth gwasanaeth a’r manteision roedd hynny’n eu cyflwyno i ddyfeisio dull plentyn cyfan o ddarparu gwasanaethau;

·         nid oedd Ysgol Crist y Gair, sy’n ysgol pob oed, mewn sefyllfa i elwa o’r trefniadau ‘clwstwr’ effeithiol iawn sydd ar gael i ysgolion eraill yn y sir.  Fodd bynnag, roeddent yn gallu gweithio gyda phenaethiaid ac ysgolion eraill i rannu profiadau ac arferion.  Yn ddiweddar, roedd cynrychiolwyr o’r ysgol wedi mynychu cyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion ac er bod heriau i’w goresgyn o hyd, roeddent wedi rhoi cyflwyniad a gweledigaeth cadarnhaol ar gyfer y dyfodol i’r Grŵp, a

·         byddai data gwahardd o'r ysgol yr oedd y Pwyllgor wedi gofyn amdano, yn cael ei gyhoeddi yn genedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf a byddai’n cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor pan fyddai ar gael.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y Gwasanaeth Addysg, GwE, athrawon a disgyblion am eu perfformiad yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19.   Ar ôl adolygu’r data perfformiad oedd ar gael, roeddent yn teimlo sicrwydd bod gan staff addysg y Sir a GwE wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o allu pob disgybl, agweddau a oedd angen eu gwella a lle roedd angen canolbwyntio adnoddau er mwyn gwella cyrhaeddiad a chefnogi disgyblion i gyflawni hyd orau eu gallu.  Roedd hyn i’w ganmol o ystyried y pwysau a achoswyd gan gyflwyno cwricwlwm newydd yn fuan, a’r ffaith nad oedd data meincnodi cenedlaethol ar gael.

Felly;

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

      i.        derbyn y wybodaeth o ran perfformiad a wiriwyd disgyblion ysgol y sir yng Nghyfnod Allweddol 4 ac arholiadau ôl-16 yn ystod haf 2019, gan gydnabod y rhwystrau a oedd yn bodoli a oedd yn rhwystro’r Gwasanaeth Addysg rhag cynnal ymarferion cymharu gyda chanlyniadau’r blynyddoedd blaenorol a gyda chanlyniadau awdurdodau addysg lleol eraill; a

    ii.        eu bod yn fodlon bod staff Gwasanaeth Addysg y Cyngor a staff GwE wedi nodi’r tueddiadau a oedd yn dod i’r amlwg a’r meysydd a oedd angen gwelliant wrth symud ymlaen ar bob Cyfnod Allweddol.

 

 

Dogfennau ategol: