Eitem ar yr agenda
BAND EANG A RHWYDWEITHIAU SYMUDOL MEWN ARDALOEDD GWLEDIG
I dderbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Digidol (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau presennol mewn perthynas â band eang a rhwydweithiau symudol mewn ardaloedd gwledig.
11.25 a.m. – 12.00 p.m.
Cofnodion:
Roedd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans a'r Prif Swyddog Digidol, Barry Eaton yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol),
yn manylu ar waith y Cyngor o ran sicrhau gwell cysylltedd mewn ardaloedd
gwledig, yn unol ag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru fis Tachwedd 2018 yn
adroddiad Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig, yn enwedig o ran band
eang a rhwydweithiau ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig.
Roedd gan Gyngor Sir Ddinbych bryderon ers peth amser ynglŷn ag
argaeledd band eang cyflym iawn ym mhob ardal o’r sir, felly, roedd Craffu wedi
gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd a wnaed hyd yma i sicrhau
mynediad at fand eang cyflym iawn i bawb oedd ei eisiau. Trwy ddarparu cyflwyniad
gweledol, cynghorwyd y Pwyllgor er bod 90% o’r eiddo yn Sir Ddinbych yn derbyn
mynediad at fand eang cyflym iawn, roedd 10% yn methu cael mynediad ato. Roedd mwyafrif yr eiddo hyn wedi’u lleoli yn ardaloedd gwledig y sir. Hyd yn oed ar ôl cyflwyno Cam 2 Cyflymu Cymru, a fyddai’n dod i ben yn
ystod 2021, byddai oddeutu 5% o eiddo'r sir yn parhau i fethu â chael mynediad
at fand eang cyflym iawn.
Roedd y Cyngor yn gweithio’n weithredol gyda sefydliadau eraill y sector
cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru mewn ymgais ar gyfer cyllid Rhwydwaith Ffibr
Lleol Llawn (LFFN).
Pe bai’n llwyddiannus, byddai’r arian yn cael ei
ddefnyddio i gysylltu 39 eiddo sector cyhoeddus yn y sir gyda band eang cyflym
iawn (ymysg y rhai a fyddai'n elwa mae llefydd cyfarfod yr holl gynghorau
cymuned yn Sir Ddinbych). Er y byddai'r fenter hon o
fudd i nifer o gymunedau gwledig, ni fyddai'r holl ardaloedd gwledig yn elwa.
Cam cadarnhaol arall oedd recriwtio Swyddog Busnes Digidol yn ddiweddar am
gyfnod o 12 mis.
Byddai’r swyddog ar gael i gynorthwyo busnesau bach a
chymunedau i nodi datrysiadau i gael mynediad at fand eang. Byddai’r swyddog hefyd yn gweithio gyda chynghorau cymuned a grwpiau
cymunedol gyda’r nod o nodi cyfleoedd i wella mynediad at fand eang, ac i
gynorthwyo i ddatblygu ceisiadau am gyllid dan arweiniad cymunedau i gynorthwyo
i dderbyn mynediad at fand eang.
Cyfeiriodd yr Aelodau at sawl menter sydd ar y gweill yng Nghymru a
gwledydd Ewropeaidd eraill a oedd yn ceisio gwneud y mwyaf o fynediad at Fand
Eang ac yn gofyn i'r Cyngor gyflwyno gwybodaeth i Gynghorau Cymuned ar y gwaith
a fyddai'n cael ei gyflawni yn Sir Ddinbych i gynorthwyo cymunedau i gael
mynediad at wasanaethau Band Eang. Awgrymwyd hefyd y gallai aelodau lleol annog Cynghorau Cymuned o fewn eu
wardiau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwell mynediad at Fand Eang. Byddai penodiad diweddar Swyddog Busnes Digidol yn gymorth, gan y byddai’r
swyddog ar gael i gynorthwyo cymunedau i ganfod datrysiadau band eang a
datblygu cynigion ar gyfer cynlluniau talebau cymunedol i hwyluso darpariaeth
gwasanaethau band eang yn eu hardal.
Wrth ganmol y mentrau sydd eisoes ar y gweill gyda’r nod o sicrhau mynediad
band eang cyflym iawn ar gyfer mwyafrif yr eiddo yn Sir Ddinbych, roedd y
Pwyllgor yn bendant y dylai llywodraeth ganolog wneud mwy i sicrhau bod pob
eiddo, beth bynnag fo'u lleoliad, yn cael mynediad cyfartal at fand eang cyflym
iawn. Roeddent yn teimlo y dylid
ystyried mynediad at fand eang yng Nghymru yn yr 21ain Ganrif yn hanfodol ar
gyfer bywyd pob dydd, yn yr un modd â dŵr glân a thrydan. Ar sail hyn cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ysgrifennu at Weinidogion
perthnasol Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr gan bwysleisio'r pwynt hwn a thynnu
eu sylw at bryderon y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD-
(i)
yn amodol ar yr
arsylwadau uchod i gefnogi'r gweithgareddau a nodwyd yn yr adroddiad a’r
cyflwyniad a gafwyd a'r gwaith sydd ar y gweill yn Sir Ddinbych i wella
mynediad at Fand Eang a Rhwydweithiau Symudol yn ardaloedd gwledig Sir
Ddinbych; ac
(ii)
ysgrifennu
at Weinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr yn ceisio eu cymorth
i sicrhau bod pob eiddo yng Nghymru yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau
Band Eang ar y sail bod Band Eang yn wasanaeth hanfodol ar gyfer bywyd dyddiol
pob unigolyn yn yr 21ain ganrif.
Dogfennau ategol: