Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y BROSES AR GYFER SEFYDLU ARDAL GWELLA BUSNES (AGB)

I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Arweiniol, Cymorth i Fusnesau a Thwf Lleol a’r Tim Datblygu Economaidd a Busnes a Rheolwr Rhaglen (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth ynglŷn â’r broses o ffurfio Ardaloedd Gwella Busnes i alluogi’r Pwyllgor i archwilio'r broses yn fanwl.

10.45 a.m. – 11.15 a.m.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Graham Timms gysylltiad personol gan ei fod yn Gadeirydd AGB Llangollen 2020.

 

Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Emlyn Jones, a'r Swyddog Arweiniol, Cefnogi Busnes a Thwf Lleol, Carolyn Brindle, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r broses o ffurfio Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) i alluogi’r Pwyllgor i archwilio’r broses yn fanwl.

 

Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi gofyn i Bwyllgor Craffu Cymunedau ystyried y testun penodol hwn mewn ymateb i gais gan unigolyn busnes yn y Rhyl, Lynnette Jones, oedd â phryderon am dryloywder y broses o sefydlu AGB.  

 

Roedd Lynnette Jones, yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno rhai o’i phryderon:

·         Hyd eithaf ei gwybodaeth, nid oedd nifer o fusnesau wedi derbyn gwybodaeth am AGB y Rhyl.

·         Ni fu lansiad ffurfiol ar gyfer yr AGB.

·         Ni wahoddwyd perchnogion busnes i gyflwyno awgrymiadau o ran beth y gellir gwario arian yr AGB arno.

·         Yn ei safbwynt hi, roedd busnesau o dan yr argraff na fyddent yn gorfod talu unrhyw gyfraniad ychwanegol ond nid dyma'r achos.  

Roedd hyn yn broblem fawr ar gyfer busnesau sy’n wynebu trafferthion.

·         Y ffaith fod 66 busnes allan o 99 wedi pleidleisio o blaid yr AGB ac o’r 66 hynny, roedd 41 pleidlais gan eiddo sy'n berchen i Gyngor Sir Ddinbych.

·         Ni chafwyd unrhyw gymorth busnes.

·         Yn ei safbwynt hi a busnesau eraill, ni chynhaliwyd ymgynghoriad addas.

 

Yn ystod y trafodaethau, pwysleisiwyd bod:

·         y broses i sefydlu AGB wedi’i nodi mewn deddfwriaeth 

·         er na chaniateir i awdurdodau lleol, drwy gyfraith, arwain y broses o sefydlu AGB, roedd ganddynt rôl bwysig i hwyluso pleidlais AGB, gan roi gwybod am ganlyniad unrhyw bleidlais a chasglu ardoll yr AGB;

·         Roedd AGB yn fenter a arweinir gan fusnesau;

·         hyd yma yn Sir Ddinbych, roedd pleidlais AGB wedi'i chynnal yn y Rhyl gan arwain at sefydlu AGB yn y dref, roedd busnesau ym Mhrestatyn wedi penderfynu peidio â pharhau â'r cynlluniau ar gyfer pleidlais i sefydlu AGB, a byddai pleidlais yn cael ei chynnal yn Llangollen yn y gwanwyn 2020;

·         cyfrifoldeb Grŵp yr AGB, a sefydlwyd yn yr ardal dan sylw, oedd cyfathrebu ynglŷn â chynigion i gynnal pleidlais gyda'r nod o sefydlu AGB, ac amcanion a nodau’r AGB arfaethedig.

·          roedd cyfradd yr ardoll yn ardal yr AGB yn cael ei gosod gan Fwrdd yr AGB.  

Er bod yr awdurdod lleol yn casglu’r ardoll roedd yn cael ei thalu i Fwrdd yr AGB i'w defnyddio i ddarparu ei amcanion a blaenoriaethau;

·         ni chaniateir i’r awdurdodau lleol dynnu unrhyw wasanaeth o ardal yr AGB ar y sail y gellir defnyddio incwm yr AGB i ddarparu’r gwasanaethau hynny.  

Roedd holl benderfyniadau’r awdurdod lleol o ran torri gwasanaethau yn gorfod cael eu gwneud ar sail y sir gyfan ac yn gyfartal ar gyfer yr holl breswylwyr.  Ond, gellir defnyddio arian yr AGB i ategu at wasanaethau’r awdurdod lleol pe baent yn cefnogi darpariaeth blaenoriaethau’r AGB.

·         Roedd gan y Cyngor bleidlais ar gyfer pob un eiddo busnes yr oedd yn berchen arno o fewn rhanbarth yr AGB arfaethedig a oedd yn diwallu trothwy gwerth ardrethol y bleidlais.  

Byddai Cabinet Sir Ddinbych yn penderfynu a fyddai’n bwrw’r pleidleisiau mewn pleidlais AGB a sut y dylid bwrw'r pleidleisiau hynny.   Ym mhleidlais AGB y Rhyl a phleidlais AGB Llangollen sydd i ddod roedd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ei bleidleisiau o blaid sefydlu AGB ac wedi dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:   yr Economi a'r Parth Cyhoeddus i lenwi’r holl bapurau pleidlais ar ran yr Awdurdod:

·         Roedd ardaloedd AGBau yn ardaloedd penodol iawn o dref, nid y dref gyfan, ac yn cael eu nodi ar fap sy’n cyd-fynd â gwybodaeth yr AGB gyda llinell goch yn nodi ffin yr ardal yn glir.  

Yn y mwyafrif o achosion, ar ôl ei sefydlu, roedd AGBau yn gwmnïau cyfyngedig trwy warant ac felly’n gorfod cyhoeddi cyfrifon blynyddol ac ati.

·         ar ôl ei sefydlu, er y byddai gan y Cyngor sedd ar Fwrdd yr AGB nid oedd ganddo fwy o ddylanwad ar benderfyniadau'r Bwrdd nag unrhyw aelod arall o'r Bwrdd. 

Ond, trwy gael sedd ar y Bwrdd gallai'r Cyngor weld sut y gellir defnyddio ei wasanaethau i ategu at waith Bwrdd yr AGB.   Gallai Byrddau AGB wneud unrhyw benderfyniad cyn belled â’u bod yn benderfyniadau cyfreithlon.   Nod Byrddau AGB yw uno busnesau a gwasanaethau gyda diddordeb ar y cyd mewn sicrhau bod ardal yn ffynnu.  Roedd yn ddull o ddatblygu ymddiriedaeth cydfuddiannol rhwng gwahanol fudd-ddeiliaid gyda’r nod o gynyddu ffyniant yn yr ardal.

 

Cydnabuwyd bod gwersi y gellir eu dysgu o bleidlais AGB y Rhyl, yn enwedig o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â busnesau sy’n gymwys i bleidleisio, a allai fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n cyfrannu at drefniadau pleidlais AGB Llangollen.   Gofynnwyd i swyddogion dynnu sylw’r unigolion perthnasol sy’n ymwneud â’r AGB at y materion hyn a'u hannog i gysylltu â'i gilydd.   Hefyd cydnabuwyd bod nifer yr eiddo busnes sy’n eiddo i’r Cyngor yn ardal AGB y Rhyl, a phenderfyniad y Cyngor i fwrw pob pleidlais o blaid sefydlu AGB ynghyd â nifer o fusnesau cymwys sydd heb arfer eu hawl i bleidleisio, wedi cyfrannu at y canlyniad i sefydlu'r AGB.   Ond, dilynwyd pob broses gyfreithiol ac roedd AGB wedi’i sefydlu gyda phleidlais y mwyafrif a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol.   Mewn ymateb i bryderon yr aelodau ynglŷn â hyn, cytunodd y swyddogion y byddent yn ei godi gyda Llywodraeth y DU, drwy'r ymgynghorwyr sy'n hwyluso gwaith i sefydlu AGB ar draws y DU, ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno trothwy canran a fyddai'n rhaid ei ddiwallu o fusnesau cymwys sydd o blaid sefydlu AGB h.y.  40%.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:   yn amodol ar y sylwadau uchod,

(i)           y dylid cysylltu â Chadeirydd Bwrdd Ardal Gwella Busnes y Rhyl a Chadeirydd Grŵp Gwella Busnes Llangollen gyda'r nod o rannu profiadau a gwersi a ddysgwyd o ran sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r gymuned fusnes leol ac ymgysylltu â nhw yn y broses o sefydlu Ardal Gwella Busnes a phwysigrwydd bwrw eu pleidlais;

(ii)          y dylid cysylltu â’r ymgynghorwyr, MOSAIC, gan ofyn iddynt adrodd yn ôl i lywodraeth ganolog ynglŷn â'r buddion o gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer trothwy canran o'r rhai sydd o blaid sefydlu AGB, gyda'r nod o gefnogi dylanwad yr AGB; a

(iii)        pharhau i gefnogi sefydlu Ardaloedd Gwella Busnes eraill yn  sir pe bai unrhyw dref, ardal wledig neu grŵp busnes yn dymuno datblygu un.

 

 

Dogfennau ategol: