Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF LLES CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) MEWN PERTHYNAS Â RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD YN SIR DDINBYCH

I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Perygl Llifogydd (copi ynghlwm), i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ddull y Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd a chydymffurfio ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a 5 nod lles.

10.15 a.m. – 10.45 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward, a Pheiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ymagwedd y Cyngor mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac a yw’r Cyngor yn cydymffurfio ag egwyddor datblygu cynaliadwy a 5 nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

 

Yn yr adroddiad roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod y Cyngor yn cymryd camau addawol i weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gymryd camau i leihau’r perygl o lifogydd ond mae angen iddo ystyried ei gamau nesaf er mwyn ymwreiddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ymhellach.

 

Roedd pryderon yn yr adroddiad nad oedd y Cyngor yn dangos ymagwedd o atal a oedd yn creu amodau lle gallai problemau godi yn y dyfodol.  

 

Roedd Strategaeth Genedlaethol Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol  (FCERM) ar gyfer Cymru yn cael ei diwygio ar hyn o bryd a disgwylir y byddai’n alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn hyrwyddo mwy o ddefnydd o ddulliau rheoli risg naturiol ar gyfer llifogydd.

 

Roedd cydweithio yn elfen allweddol o ymagwedd y Cyngor ac roedd wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid ar ddyluniad a darpariaeth amddiffynfeydd llifogydd ond gellir atgyfnerthu'r cysylltiadau gyda'r gymuned ffermio a pherchnogion tir eraill.    

 

Ar y cyfan ystyrir ei fod yn adroddiad cadarnhaol.

 

Roedd ymateb a chamau gweithredu’r Cyngor wedi’u nodi yn Rhan Dau yr adroddiad. 

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Roedd y Cyngor wedi derbyn grantiau ond roedd angen canolbwyntio ar ecoleg a phroses lleihau llifogydd y risg honno.  

Roedd gwaith i addysgu pobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth ar y gweill.

·         Roedd astudiaeth ar y gweill i ddatblygu gwaith gyda pherchnogion tir ac Undeb y Ffermwyr.  

Bu materion gyda pherchnogion tir a ffermwyr a oedd wedi rhoi gwybod i’r Cynghorwyr lleol bod disgwyl iddynt dalu am offer i osod cynlluniau lliniaru llifogydd.   Cadarnhawyd bod cymorthdaliadau i ffermwyr ar gael a fyddai’n cynorthwyo gyda’r costau.

·         Cadarnhawyd bod yr ardaloedd sy’n peri’r risg mwyaf wedi’u blaenoriaethu ond nid oedd hynny ar draul ardaloedd eraill. 

Nid ar gyfer y gwasanaeth yn unig yr oedd y casgliadau, ond roedd angen trafodaethau manylach ar newid hinsawdd.

·         Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru oedd Wardeniaid Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd o’r prif afonydd.  

Cadarnhawyd y byddai'r Cydlynydd Craffu yn derbyn rhestr o'r Wardeiniaid Llifogydd a’i dosbarthu i’r holl aelodau er gwybodaeth iddynt.

 

Yn ystod y trafodaethau ac yn sgil pryderon a godwyd mewn perthynas ag effaith bosibl newid hinsawdd ar beryglon llifogydd i’r sir, cytunwyd y byddai cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei gynnal ar 22 Hydref 2020 gan ganolbwyntio ar faterion llifogydd fel a ganlyn:

·         Cyfrifoldebau Rheoli Llifogydd yn Sir Ddinbych – gan gyflwyno casgliadau astudiaeth ar y cyd ar ymarferion rheoli Ffos y Rhyl a Chwter Prestatyn, draeniau a charthffosydd cyfagos a oedd eisoes wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod.

·         Rheoli Risg Llifogydd ar draws Sir Ddinbych – trafodaethau gyda swyddogion a sefydliadau partner eraill ar reoli llifogydd a materion lliniaru ar draws y sir gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat a pherchnogion tir.  

Byddai hyn yn cynnwys prosiectau peirianneg a mentrau rheoli tir i leihau perygl llifogydd a mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd.   Byddai gwybodaeth hefyd yn cael ei chyflwyno ar waith yr Adran Gynllunio mewn perthynas â lliniaru llifogydd fel rhan o'r broses gynllunio.

 

PENDERFYNWYD-

·         yn amodol ar yr arsylwadau uchod, derbyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn dilyn ei archwiliad, yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o waith y Cyngor i "leihau nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yn Sir Ddinbych" ac ymateb y Cyngor i'r cyfleoedd a awgrymwyd ar gyfer gwelliant gan WAO; a

·          bod cyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref 2020 yn cael ei drefnu i archwilio rheolaeth y cyngor o berygl llifogydd a gwaith lliniaru a mentrau ar draws y sir a'r rhai sy'n cael eu cyflawni mewn partneriaeth gyda phartneriaid cyhoeddus a'r sector preifat.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: