Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2020/21 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 20 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2020/21.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2020/21;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2020/21;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 4.3% yn Nhreth y Cyngor; 

 

(d)       argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500k os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

(e)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2020/21 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2020/21, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o +4.3% a disgwylir y setliad terfynol ar 25 Chwefror 2020.  Roedd pwysau o £12.418m wedi'i nodi, a fyddai ynghyd â £2m o arbedion heb eu nodi o 2019/21, yn arwain at ddiffyg o £14.418m.   Roedd y setliad o +4.3% yn cynhyrchu £6.219m gan adael bwlch cyllid o £8.199m gyda chynigion i gau’r bwlch wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.   Roedd cynnydd o 4.3% yn Nhreth y Cyngor wedi’i gynnig a fyddai’n cynhyrchu £2.298m o refeniw ychwanegol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500mil.   Roedd y cynigion yn cyflwyno cyllideb gytbwys heb fawr o effaith ar breswylwyr.

 

Cydnabu’r Arweinydd proses gadarn y gyllideb a'r cymhlethdodau pellach o ystyried bod y setliad drafft yn hwyr.   Roedd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'r lobïo dwys ar y pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu a gobeithir y byddai’r setliadau cadarnhaol yn parhau ac y byddai setliad tair blynedd yn cael ei ddarparu.   Cefnogodd yr argymhellion yn yr adroddiad hefyd.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at gynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid ychwanegol ar gyfer y GIG a’r effaith ar gyfer Cymru.   

Eglurwyd gan fod y GIG yn fater sydd wedi’i ddatganoli byddai’n rhaid i unrhyw gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU arwain at gyllid canlyniadol Fformiwla Barnett ar gyfer Cymru ac mai penderfyniad Llywodraeth Cymru fyddai sut i ddyrannu’n cyllid hwnnw.   Eu safbwynt hyd yma oedd blaenoriaethu cyllid ar gyfer y GIG, gyda llywodraeth leol i ddilyn.   Ond roedd meysydd yn gorgyffwrdd a fyddai yn destun trafodaethau yn y dyfodol gyda’r Bwrdd Iechyd ar adeg priodol.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Graham Timms at sawl elfen o broses y gyllideb a holi am fanteision defnyddio'r cyllid ychwanegol o'r setliad gwell nag a ddisgwyliwyd i leihau'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 4.8% i 4.3% yn hytrach nag yn uniongyrchol ar ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer preswylwyr.   

Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill y tu hwnt i’r Grant Cynnal Refeniw roedd nifer o grantiau penodol yn cael eu cyhoeddi ar adegau gwahanol sy’n cael effaith ar y gyllideb.   Cyn derbyn hysbysiad o’r setliad drafft roedd cynnydd o 4.8% yn Nhreth y Cyngor wedi’i nodi fel elfen hanfodol i sicrhau cyllideb gytbwys.   Roedd y cynnydd mewn cyllid yn golygu bod modd cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys lleihau'r effaith ar ysgolion o £700mil; mynd i'r afael â phwysau sydd heb eu hariannu; lleihau swm arian parod i gefnogi'r gyllideb; a gwneud gostyngiad bychan i'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor.   O ystyried y pwysau ar breswylwyr credwyd nad oedd yn briodol codi mwy o Dreth y Cyngor na’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol.   Ni fyddai’r newidiadau a gynigwyd yn cael effaith negyddol ar breswylwyr ac roedd yn cael ei ystyried yn becyn call a rhesymol o fesurau i fynd i'r afael â'r setliad sy'n well na'r hyn a ddisgwyliwyd.   Ychwanegodd yr Arweinydd bod preswylwyr sy’n cael trafferthion talu Treth y Cyngor ar draws y sir a’r nod oedd darparu cyllideb gytbwys i gefnogi gwasanaethau ond hefyd i ystyried yr effaith ar breswylwyr a gallai amddiffyn sefyllfa’r Cyngor rhag unrhyw her o ran hynny

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y gyfran uchel o gyllid yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei dyrannu i'r GIG ac roedd yn siomedig nad oedd trafodaethau maith am ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd wedi darparu rhagor o gyllid, yn enwedig gan y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael effaith gadarnhaol ar y GIG.

·         Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne rai pryderon o ran y cyfeiriad at beidio â llenwi swyddi gwag fel rhan o arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth a’r effaith o ran amseroedd ymateb a phwysau ar y gweithlu.   

Nodwyd yr effaith ar wydnwch a chapasiti o fewn timau a nododd yr Arweinydd bod pob Aelod Cabinet wedi gweithio gyda'r Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer eu meysydd portffolio ar gyllidebau gwasanaeth ac roeddent yn gwbl ymwybodol o effaith yr arbedion sy'n cael eu cyflwyno ar ddarpariaeth gwasanaethau.   Ychwanegodd y Prif Weithredwr o ystyried deng mlynedd o galedi ariannol nid oedd modd gwneud arbedion effeithlonrwydd o fewn gwasanaethau heb effaith mwyach ac roedd angen i’r Cyngor weithio o fewn ei adnoddau – gwnaed cryn dipyn o waith o ran strwythur, technoleg, a datblygu sgiliau staff i sicrhau'r canlyniad gorau posib’ i ddarparu gwasanaethau ac roedd swyddogion yn gweithio’n galed ar hynny.   Roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth hefyd yn gweithio gydag aelodau’r Cabinet o ran y ffyrdd gorau o wneud arbedion heb gael effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer preswylwyr.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2020/21;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2020/21;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 4.3% yn Nhreth y Cyngor; 

 

(d)       argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

(e)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

 

Dogfennau ategol: