Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2020/21

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a

 

(b)       cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £92.35 i’w weithredu o ddydd Llun 6 Ebrill 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2020/21 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill ffigyrau’r gyllideb a’r tybiaethau o ran lefelau incwm i’r Aelodau gan nodi prynu 7 cyn-dŷ cyngor a 3 tŷ sector preifat a'r rhaglen ar gyfer 170 o gartrefi ychwanegol.   O ran y cynnydd rhent blynyddol mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi rhent pum mlynedd ar gyfer rhent tai cymdeithasol yn ddiweddar ac mae setliad y rhenti wedi'u cyfrifo gan ystyried y polisi a’r mecanwaith ar gyfer codi rhent.   Y cynnydd ar gyfer 2020/21 oedd 2.7% a byddai’n gadael 44% o gartrefi ar lefelau rhent targed gan arwain at gyfartaledd rhent wythnosol o £92.35 a oedd ar ben isaf y lefel rhent targed.   Nid oedd cynnig ddefnyddio’r tâl dewisol o hyd at £2.00 ar gyfer eiddo sy’n is na’r rhent targed.   Cyfeiriwyd hefyd at daliadau gwasanaeth dadelfenedig a fyddai’n gyfartaledd o £2.27 yr wythnos.

 

Nododd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol fuddion polisi rhent pum mlynedd i alluogi gwell cynllunio ar gyfer y dyfodol.   Fel rhan o’r polisi newydd roedd yn ofynnol bod y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw gynnydd mewn rhent yn ystyried fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid ac asesiadau o effeithiolrwydd costau a fyddai'n cael eu cyflwyno mewn adroddiadau i'r aelodau yn y dyfodol.   Roedd yr ystyriaethau eraill yn cynnwys cyhoeddiad sydd i ddod ar ddatgarboneiddio stoc dai'r Cyngor a'r disgwyliad nad yw landlordiaid cymdeithasol yn troi tenantiaid allan i fod yn ddigartref.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·         roedd y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion wedi cynyddu ond roeddent yn darparu ar gyfer y sefyllfa waethaf posib’ ac roedd cyfraddau casglu yn parhau i fod yn uchel ac ôl-ddyledion rhent yn isel.   

Roedd y tenantiaethau yn wythnosol a oedd yn peri problem o ran llif arian i rai ar Gredyd Cynhwysol sy'n cael ei dalu'n fisol ond roedd gwaith ar y gweill i nodi unrhyw anawsterau posibl ar gam cynnar gan ddarparu cefnogaeth i denantiaid.   Roedd y cynnydd posibl mewn drwgddyledion hefyd yn cydnabod yr ymrwymiad i gynyddu'r stoc o dai a chynnydd rhent blynyddol yn unol â'r polisi rhent.

·         nodwyd nad oedd garejis yn rhan o’r adroddiad gan nad oeddent yn destun y polisi rhent ac roedd Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid wedi cytuno i gynyddu rhent garejis o 2.7% yn unol â rhenti tai.   

Nododd y swyddogion yr adolygiad o safleoedd garejis a dim ond un safle yn Rhuthun sy'n addas ar gyfer tai fel defnydd amgen.   Y bwriad oedd ystyried safleoedd garejis fel rhan o adolygiad strategol y stoc o dai gan ystyried yr argyfwng newid hinsawdd ac effeithiau amgylcheddol i sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.

·         nodwyd effaith gadarnhaol gyffredinol ar y Gymraeg a nodwyd yn yr Asesiad o Effaith ar Les ond holodd y Cynghorydd Emrys Wynne am amwysedd y term ‘ardaloedd gwledig’ yn y ddogfen ac roedd yn teimlo ei fod yn gwahaniaethu’n ddiangen o ystyried nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y Sir gyfan.    

Ymhelaethodd y swyddogion ar y polisi gosodiadau lleol a oedd yn rhoi blaenoriaeth mewn ardaloedd gwledig i bobl o’r gymuned i gynorthwyo i amddiffyn y defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yn y dyfodol a chynghori bod y polisi yn benodol iawn o ran ym mha ardaloedd o’r sir yr oedd hyn yn berthnasol, gan gadarnhau mai’r pentrefi lleiaf oedd y lleoliadau lle roedd y Gymraeg yn un o’r ystyriaethau.   Derbynnir bod y Gymraeg yn iaith sy’n cael ei siarad ar draws y sir gyfan.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a

 

(b)       chynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £92.35 i’w weithredu o ddydd Llun 6 Ebrill 2020.

 

Ar yr adeg hon (11.10 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: