Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) LLANGOLLEN

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cyng. Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â datblygu Ardal Gwella Busnes Llangollen ac yn ceisio cymeradwyaeth i’w sefydlu.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

(b)       nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2 i’r adroddiad) ac argymhelliad y swyddog nad oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3 i’r adroddiad) gan nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal;

 

(c)        cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB, a

 

(d)       cytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad ar ddatblygiad Ardal Gwella Busnes (AGB) Llangollen a cheisio cefnogaeth i’w sefydlu.

 

Roedd AGBau yn rhoi pŵer i fusnesau lleol i ddod ynghyd, penderfynu ar y gwelliannau yr oeddent eisiau eu cyflawni o fewn ardal benodol, a chodi arian i’w cyflawni.   Darparwyd rhywfaint o gefndir o ran y gwaith a wnaed gyda’r gymuned fusnes leol i benderfynu ar hyfywedd AGB Llangollen ynghyd â phroses ddatblygu a deddfwriaethau o ran hynny.  Roedd y cam nesaf yn cynnwys papur pleidleisio drwy’r post ar gyfer busnesau cymwys i bleidleisio ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ cynnig AGB a oedd yn nodi sut y byddai AGB yn gweithredu (incwm a gwariant arfaethedig, ardal yr AGB a mesuryddion perfformiad) a sut y byddai'r AGB yn cael ei wario.   Yr amod yw bod yn rhaid i weithgareddau fod yn ychwaneg at y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.   Argymhellwyd bod y Cabinet yn cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

Wrth gefnogi’r argymhellion nododd y Cynghorydd Evans bod Llangollen wedi bod yn dref uchelgeisiol a phrysur erioed a phe bai AGB yn cael ei sefydlu byddai’n gymorth i fusnesau fuddsoddi yn eu blaenoriaethau a chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.   Nododd y Cynghorydd Tony Thomas ei gefnogaeth gan nodi ei fod yn credu bod busnesau yn Llangollen yn hynod ymatebol i sefydlu AGB ac roedd yn credu y byddai o fudd mawr i'r dref.

 

Eglurodd y Cynghorydd Graham Timms ei fod ef a’i gyd-gynghorydd lleol Melvyn Mile yn gefnogwyr brwd sefydlu AGB ond holodd gwestiynau am (1) cyfeiriad yn yr adroddiad y byddai ysgolion yn cael eu heithrio o'r ardoll gan eu bod y tu allan i ardal yr AGB, (2) yr effaith pan fo'r Cyngor yn arfer ei bleidlais ar ran Pafiliwn Llangollen o ystyried ei fod wedyn yn cael ei drosglwyddo i Hamdden Sir Ddinbych Cyf, a (3) holi am nifer y pleidleiswyr, safleoedd y cyngor a chyfanswm gwerth ardrethol safleoedd y cyngor yn ardal yr AGB.   Mewn ymateb -

 

·         cadarnhaodd swyddogion bod ardoll yr AGB yn daladwy ar gyfer eiddo o fewn ardal benodol yr AGB yn unig ond nododd y cyfeiriad yn yr adroddiad bod ysgolion cael eu heithrio o'r ardoll - byddai eglurder pellach o ran lleoliad y ddwy ysgol yn cael ei geisio.

·          cyfeiriodd y swyddogion at y sefyllfa o ran y bleidlais a fyddai’n cau ar 19 Mawrth 2020 ac eglurodd mai’r busnesau sy’n gymwys i bleidleisio fyddai'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio ar yr adeg honno - gallai unrhyw fusnes newid perchnogaeth ar unrhyw bwynt ond roedd yn rhaid cynnal a chau'r bleidlais ar gyfnod penodol a byddai'r ardoll yn berthnasol er gwaethaf y newid mewn perchnogaeth.   

Ychwanegodd y Cynghorydd Tony Thomas, er y byddai Pafiliwn Llangollen yn cael ei drosglwyddo i’r Model Darparu Amgen, byddai ardoll yr AGB ar gyfer y Pafiliwn yn parhau i fod yn daladwy.

·         Eglurodd y swyddogion bod oddeutu 200 o fusnesau yn gymwys i bleidleisio yn y bleidlais a oedd yn cynnwys oddeutu 10 sy'n eiddo i’r cyngor – nid oedd y ffigyrau o ran cyfanswm gwerth ardrethol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn terfynol gan y Cynghorydd Mark Young cadarnhaodd y swyddogion bod mwyafrif amser ac adnoddau’r Tîm Datblygu Economaidd ar y prosiect wedi canolbwyntio ar waith dichonoldeb cychwynnol a datblygu'r cynnig - nid oedd symud ymlaen o'r cam hwn yn golygu llawer o ddefnydd o adnoddau.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet bleidleisio ar bob argymhelliad yn unigol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

(b)       nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2 i’r adroddiad) ac argymhelliad y swyddog nad oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3 i’r adroddiad) gan nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal;

 

(c)        cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB, a

 

(d)       chytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

 

Dogfennau ategol: