Eitem ar yr agenda
CYNLLUN ADSEFYDLU POBL DDIAMDDIFFYN O SYRIA
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i barhau i
gefnogi’r gwaith o ailgartrefu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r cynllun
diwygiedig newydd.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau a
(b) bod y Cabinet yn cytuno i barhau i gefnogi’r setliad ffoaduriaid yn Sir
Ddinbych drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-Eang yn ddibynnol ar delerau ac ariannu
cynllun o’r fath unwaith y mae wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cyng. Bobby Feeley adroddiad a oedd yn gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i
barhau i gefnogi’r gwaith o adsefydlu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r
cynllun newydd.
Cynghorwyd
y Cabinet ynglŷn â chynnydd Cynllun Adsefydlu Unigolion Diamddiffyn o
Syria yn Sir Ddinbych sydd yn cael ei ddisodli gan Gynllun Aidsefydlu Byd-eang
newydd ac ehangach o fis Ebrill 2020 i groesawu oddeutu 5000 o ffoaduriaid i'r
DU o'r Dwyrain Canol ac Affrica. Ers Ebrill 2016 roedd Sir
Ddinbych wedi llwyddo i adsefydlu 18 o deuluoedd ac ar y trywydd iawn i
ddiwallu’r targed o 20 teulu erbyn Mawrth 2020. Roedd manylion llawn
llwyddiannau, meysydd i’w gwella a gwersi a ddysgwyd o’r prosiect yn yr
adroddiad. Bydd
y cynllun newydd yn fwy syml i’w weithredu ac wedi anelu i ddarparu gwell
cysondeb yn y ffordd y mae ffoaduriaid yn cael eu hadsefydlu.
Cefnogodd
y Cabinet barhad y cynllun ac roeddent yn awyddus i sicrhau bod y meysydd a
nodwyd ar gyfer eu gwella a bod unrhyw rwystrau sy’n atal integreiddio yn cael
eu datrys. Ceisiodd
y Cynghorydd Mark Young sicrwydd ynglŷn â safonau tai a chyflwr eiddo
ynghyd â mynediad at ofal iechyd. Eglurodd y swyddogion bod
honiadau o leithder a chyddwysiad o ganlyniad i ddewisiadau ffyrdd o fyw
diwylliannol o ystyried y newidiadau o ran hinsawdd gyda'r gwres yn cael ei
danio a'r ffenestri ynghau a'u bod yn gweithio i addysgu'r teuluoedd hynny a
lle bo'r angen roedd echdynwyr ychwanegol wedi'u gosod i ddatrys y materion
hynny. Eglurwyd hefyd bod cryn dipyn
o waith yn cael ei gyflawni’n genedlaethol ac yn lleol i sicrhau gwell mynediad
at wasanaethau gofal deintyddol ac iechyd ar gyfer teuluoedd ac roedd yn parhau
i fod yn fater o flaenoriaeth i ystyried y dulliau o oresgyn y rhwystrau hynny.
Mewn
ymateb i gwestiynau pellach a sicrwydd cadarnhaodd y swyddogion bod y bwriad bod y teuluoedd yn cymryd cyfrifoldeb
llawn am denantiaeth ar ôl deuddeg mis yn uchelgeisiol ond roedd sicrhau fod
gan y teuluoedd fynediad at systemau cyfrifiadurol a dealltwriaeth o ran sut i
reoli cyfrifon rhent wedi cynorthwyo i symleiddio’r broses ynghyd â rhannu
gwybodaeth yn well a sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u
disgwyliadau. Roedd
meysydd i’w gwella wedi’u nodi a byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar y rhain yn
y dyfodol.
Adroddodd
y Cynghorydd Graham Timms am fuddion cadarnhaol o gael dau deulu wedi'u lleoli
yn Llangollen a oedd wedi arwain at well dealltwriaeth o sefyllfa ffoaduriaid. O ran anawsterau ieithyddol,
cadarnhaodd swyddogion bod camau wedi’u cymryd o ran hynny drwy gyflwyno
datrysiadau digidol a’r defnydd o apiau ar-lein ond cydnabuwyd y gellir gwneud
mwy ac roedd y Swyddfa Gartref a Phartneriaeth Ymfudo Cymru yn gweithio i fynd
i’r afael â’r mater. Cydnabuwyd
pwysigrwydd bod teuluoedd yn derbyn cyflogaeth a hyfforddiant hefyd a gwnaed
cryn dipyn o waith o ran hynny ac i atal camfanteisio.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac
(b) yn cytuno i barhau i gefnogi
adsefydlu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-Eang yn
ddibynnol ar delerau ac ariannu cynllun o’r fath unwaith y mae wedi ei gyhoeddi
gan y Swyddfa Gartref.
Dogfennau ategol: