Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COD YMARFER PRIFFYRDD

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno Cod Ymarfer newydd Priffyrdd i’w gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       derbyn yr adroddiad ac yn cadarnhau'r Cod Ymarfer newydd fel y gellir ei weithredu'n ffurfiol yn Sir Ddinbych, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad a Chod Ymarfer newydd Priffyrdd i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir o ran cyfrifoldebau deddfwriaethol a roddir ar awdurdodau priffyrdd i gynnal y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd gyda’r meini prawf arfaethedig yn cael eu defnyddio i gynnal y rhwydwaith priffyrdd yn ddiogel ac i sicrhau y gellir darparu amddiffyniad cadarn yn erbyn hawliadau yswiriant trydydd parti.   I’r perwyl hwn, ac i alluogi dull cyson ar draws Cymru, mae dogfen Cod Ymarfer ar y cyd wedi'i gynhyrchu gan awdurdodau priffyrdd Cymru.   Adroddodd y swyddogion ar agweddau technegol y ddogfen a thynnu sylw at y prif newidiadau i’r cynllun presennol o ran arolygu a chynnal a chadw ynghyd â’r rhesymau dros y rhain ac i sicrhau cysondeb ar draws y sir.   Er bod y ddogfen ar y cyd yn nodi’r isafswm o ran gofynion ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, roedd Sir Ddinbych wedi rhagori ar y gofynion hynny ar gyfer elfennau penodol o’r cynllun.   Nodwyd bod swyddogion yn mynychu Grwpiau Ardal yr Aelodau i drafod materion priffyrdd yn rheolaidd, gan gynnwys strategaeth y briffordd ehangach, a byddai ymgysylltiad yn parhau.

 

Cymerodd y Cabinet y cyfle i drafod y Cod Ymarfer newydd gyda’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion, a ymatebodd i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn-

 

·         roedd diffiniad  o dwll mewn ffordd wedi’i ddiffinio’n glir yn y ddogfen newydd o ran ei ddimensiynau yn unol â safon y diwydiant a byddai unrhyw ostyngiad yn y maint hwnnw yn effeithio ar adnoddau

·         ymhelaethodd ar ddiffiniadau categorïau diffygion ar gyfer diffygion critigol a diogelwch a nodi’r diffyg o ran cyfeiriad rhwng y ddau gategori yn y tabl ar dudalen 10 y ddogfen ac fe gytunwyd y gellid eu diffinio’n well ar y pwynt hwnnw, ond roedd mathau o ddiffygion a lefelau ymyrraeth wedi’u nodi mewn man arall yn y ddogfen.  

·         eglurodd bod Cod Ymarfer newydd wedi’i gynhyrchu yn 2016 gan Bwyllgor Cyswllt Ffyrdd y DU i ‘rhyddhau’ awdurdodau lleol a rhoi mwy o hyblygrwydd cyllidebol ond roedd swyddogion priffyrdd awdurdodau Cymru wedi penderfynu po fwyaf y nifer, y mwyaf diogel ydynt o ran ymgyfreitha posibl ac felly cytunwyd ar ddull cyson a dogfen ar y cyd yn nodi’r isafswm o ran safonau.

·         cydnabuwyd pryderon o ran effeithiolrwydd ac ymarfer atgyweirio tyllau mewn ffyrdd dros dro cyn darparu atgyweiriad parhaol ond eglurodd pe na ellir gwneud atgyweiriad parhaol o fewn y terfyn amser sy'n ofynnol i sicrhau diogelwch yna byddai atgyweiriad dros dro yn ofynnol.   

Gobeithiwyd y gallai maint diffiniol twll mewn ffordd yn y Cod Ymarfer gynorthwyo i ryddhau rhywfaint o adnoddau i’r diben hwnnw ac fe gynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng priffyrdd a strydwedd i adolygu gwaith cynnal a chadw adweithiol a sicrhau y defnyddir y dull mwyaf effeithlon ac effeithiol o fewn yr adnoddau sydd ar gael.   Cadarnhaodd y swyddogion y byddent yn fodlon mynychu unrhyw fforwm aelodau i drafod yr ymagwedd a gymerwyd i sicrhau bod aelodau yn derbyn yr holl wybodaeth i ymateb i gwestiynau preswylwyr amdanynt.   Cytunwyd y byddai'n fuddiol pe bai swyddogion yn egluro’r dull, gan gynnwys goblygiadau’r Cod Ymarfer newydd, mewn sesiwn Friffio’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       derbyn yr adroddiad ac yn cadarnhau'r Cod Ymarfer newydd fel y gellir ei weithredu'n ffurfiol yn Sir Ddinbych, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: