Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWEITHREDU MODEL DARPARU AMGEN AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: PRYDLESU EIDDO

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ganiatáu 16 prydles, un ar yfer cyfnod o 10 mlynedd ar rent pitw, i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar delerau a nodir o fewn yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      rhoi cymeradwyaeth i ganiatáu prydlesi 10 mlynedd i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar gyfer pob un o’r safleoedd am rent rhad. Bydd y prydlesi wedi’u seilio ar brydlesi safonol (Atodiad 3 yr adroddiad).  Bydd addasiadau penodol i’r safle yn cael eu cynnwys ym mhob un o'r prydlesi hyn er mwyn ymgorffori: cytundebau rhannu defnyddwyr blynyddol, rhwymedigaethau cyllidwyr grant, gofynion y Comisiwn Elusennau, cyngor gan gynghorwyr treth CSDd, meddiannaeth trydydd parti, yn ogystal ag unrhyw drefniadau safle lleoledig; gan roi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo gytuno, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, ac

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi un ar bymtheg o brydlesi, a phob un am gyfnod o ddeng mlynedd ar rent rhad, i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar delerau fel maent wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Ym mis Mai 2019, cytunodd y Cabinet i sefydlu Hamdden Sir Ddinbych Cyf, sy’n Gwmni Masnachol Awdurdod Lleol, cyfyngedig drwy warant, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r Cyngor.  Roedd y adroddiad yn cynrychioli cam arall yn y broses honno yn ymwneud â phrydlesu un ar bymtheg eiddo i Hamdden Sir Ddinbych fel roedd yr adroddiad yn nodi, ynghyd â’r telerau nodedig.  O ystyried yr amryw faterion penodol i safleoedd lle mae angen mwy o eglurder a manylder y gallai Hamdden Sir Ddinbych fod eisiau eu codi, argymhellwyd y dylid rhoi’r prydlesi ar sail y brydles safonol ddrafft gan roi pwerau dirprwyedig i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y cyd ag Aelod Arweiniol Cyllid a Phennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar fân amrywiadau mewn perthynas â’r materion hynny.  Byddai unrhyw wyriad sylweddol oddi wrth y brydles safonol yn dod yn ôl ger bron y Cabinet.  Cyfeiriwyd hefyd at elfen y Dreth Trafodion Tir a sefyllfa Sir Ddinbych o ran hynny, a oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley bod ganddi nifer o bwyntiau i’w codi ynghlwm â’r prydlesi ac roedd yn falch bod proses ar waith i gytuno ar amrywiadau dilynol.  Cwestiynodd hefyd lefel yr ymgynghori ac amlygodd nad oedd Pennaeth Hamdden wedi’i gynnwys yn rhan o’r broses honno.  O ran y risgiau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, roedd hi’n teimlo, o ystyried natur unigryw’r achos hwn, na fyddai unrhyw fantais o gynnwys y risgiau ynghlwm â chyfranogiad y Cyngor a’i rwymedigaethau.  I ategu’r pwynt hwnnw, er eglurder, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf bod rhwymedigaethau ar y ddwy ochr yn nhrefniadau’r prydlesi ond nad oedd yr adroddiad ond wedi cyfeirio at y risgiau ynghlwm â Hamdden Sir Ddinbych ac nid ynghlwm â’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau ei hun yn hynny o beth.  Gan ymateb i’r materion a godwyd eglurodd yr Aelod Lleol a'r swyddogion bod –

 

·         y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cyngor ac felly roedd yr adroddiad yn cynnwys y risgiau posib’ i’r Cyngor a oedd angen eu hystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu’r prydlesi ai peidio ar sail yr hyn sydd yn yr adroddiad. Roedd angen i’r Cyngor ystyried ei fuddion ei hun a sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â threfniadau’r prydlesi.  Gallai fod risg i Hamdden Sir Ddinbych, yn dibynnu ar ymddygiad y Cyngor, ond ni fyddai’r risg honno wedi’i chynnwys yn yr adroddiad gan nad oedd y Cyngor yn risg iddo ef ei hun.  Y lle priodol i gofnodi’r risgiau i Hamdden Sir Ddinbych fyddai eu Cofrestr Risg eu hunain.

·         ymgynghoriadau wedi’u cynnal mewn perthynas â’r Model Darparu Amgen gyda’r rheiny sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad ac o ran safleoedd penodol, roeddent yn cynnwys ymgynghori â Chyngor Tref y Rhyl o ran eu diddordeb yn SC2, Cyngor Celfyddydau Cymru o ran cyllid grant ynghyd ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o ran Pafiliwn Llangollen a oedd heb eu rhestru.

 

Cododd y Cabinet gwestiynau pellach ynglŷn â’r risgiau i’r Cyngor ynghyd â'r ’haniad cyfrifoldebau rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych, yn benodol o ran cynnal a chadw, ynghyd â goblygiadau ariannol cyflawni rhwymedigaethau’r prydlesi o ran hynny a’r effaith o ganlyniad ar lwyddiant ariannol Hamdden Sir Ddinbych.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         roedd y risg na fyddai'r Model Darparu Amgen mor ariannol lwyddiannus â'r gobaith wedi'i chynnwys ym mhob adroddiad ynghlwm â'r Model Darparu Amgen, gan amlygu y byddai unrhyw gostau ychwanegol o hynny'n disgyn ar y Cyngor i'w hariannu.

·         egluro sefyllfa’r Cyngor o ran y Dreth Trafodion Tir a oedd yn daladwy, gan ddweud bod cyngor diweddar wedi pennu y byddai'r Cyngor yn agored i dalu'r dreth honno yn seiliedig ar werth y brydles.  O ystyried bod y Cyngor wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i Hamdden Sir Ddinbych gyda’r rhenti rhad, nid oedd unrhyw werth i’r brydles mewn gwirionedd a byddai achos cadarn yn cael ei ddadlau yn hynny o beth.  O ganlyniad, nid oedd yn cael ei ystyried yn risg sylweddol, ond pe bai’r sefyllfa’n cael ei herio’n llwyddiannus gan Awdurdod Refeniw Cymru, byddai’r mater yn dod yn ôl ger bron y Cabinet.

·         egluro bod Hamdden Sir Ddinbych a’r Cyngor yn endidau cyfreithiol ar wahân ond roedd Hamdden Sir Ddinbych yn eiddo i’r Cyngor ac yn cael ei reoli ganddo felly byddai cyfrifoldebau i'r ddau ynghlwm â'r prydlesi.

Roedd y Cyngor yn rheoli ac yn gyfrifol am gyflawni ei rwymedigaethau o fewn y brydles ac roedd yn parhau i fod yn gyfrifol am y strwythur a rhannau allanol yr adeiladau a byddai Hamdden Sir Ddinbych yn gyfrifol am gynnal a chadw'r safleoedd yn fewnol; byddai arolygon cyflwr yn cael eu cynnal a byddai llinell sylfaen yn cael ei chytuno ymlaen llaw o ran cyflwr yr asedau.

·         roedd yr adroddiadau cyflwr yn gosod y meincnod i sut y byddai’r ddwy ochr yn cynnal asedau a oedd yn parhau i fod yn eiddo i’r Cyngor ac yr oedd o fudd i’r Cyngor sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw a’u bod yn parhau i weithredu.

·         roedd y trefniadau llywodraethu y tu allan i'r prydlesi hyn yn cynnwys bwrdd gweithredol a bwrdd strategol i fonitro'r holl risgiau hynny.  Pe bai amgylchiadau annisgwyl yn effeithio ar weithrediad llwyddiannus y cyfleusterau, mae’n debygol y byddai’r mater yn dod ger bron y ddau fwrdd a gallai’r Cyngor yn y pen draw benderfynu talu am yr atgyweiriadau gydag adnoddau o fewn y flwyddyn.  Byddai trefniadau’r prydlesi a’r trefniadau llywodraethu’n lliniaru unrhyw risgiau o’r fath.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      rhoi cymeradwyaeth i ganiatáu prydlesi 10 mlynedd i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar gyfer pob un o’r safleoedd am rent rhad.  Bydd y prydlesi wedi’u seilio ar brydlesi safonol (Atodiad 3 i’r adroddiad).  Bydd addasiadau penodol i’r safle yn cael eu cynnwys ym mhob un o'r prydlesi hyn er mwyn ymgorffori: cytundebau defnyddwyr blynyddol ar y cyd, rhwymedigaethau cyllidwyr grant, gofynion y Comisiwn Elusennau, cyngor gan ymgynghorwyr treth CSDd, meddiannaeth trydydd parti, yn ogystal ag unrhyw drefniadau lleol ar y safleoedd; rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo gytuno, wrth ymgynghori ag Aelod Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.35 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: