Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B

I ystyried yr adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi i ddilyn) yn ceisio cymeradwyaeth y Rhaglen Amlinellol Strategol diwygiedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad) ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig (Cynigion Band B) ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Cabinet wedi cytuno ar y Rhaglen Amlinellol Strategol ym mis Gorffennaf 2017, ac fe gafodd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017. Y rhaniad o ran cyllid ar gyfer y rhaglen Band A oedd 50% gan Lywodraeth Cymru a 50% gan awdurdodau lleol, ond ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd LlC gyfraddau diwygiedig ar gyfer Band B fel a ganlyn – 65% o gyfraniad gan LlC, ar gyfer ysgolion arbennig gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, cyfraniad o 75% ac ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, 85% gan Lywodraeth Cymru a 15% gan yr Awdurdod Esgobaethol neu’r Corff Llywodraethu.  Yn dilyn gwaith dichonoldeb ar ysgolion yn ardal yr adolygiad, roedd rhaglen ddiwygiedig wedi ymddangos gyda’r costau cyfredol yn debygol o fod yn fwy na dyraniad cymeradwy'r rhaglen o £80 miliwn a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru o £45 miliwn.  Roedd y diwygiadau i’r cyfraddau cyllid hefyd wedi gostwng y rhaniad posib’ ar gyfer Sir Ddinbych o £32 miliwn i oddeutu £21 miliwn.  Roedd nifer o opsiynau wedi’u hystyried ar y ffordd ymlaen ac yn unol ag argymhelliad y Bwrdd Moderneiddio Addysg, argymhellwyd y dylid mynd at Lywodraeth Cymru i drafod cynnydd posib’ yn eu hadnoddau yn seiliedig ar hanes Sir Ddinbych o gyflawni a fforddiadwyedd y cynigion.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol eglurhad ar y cynlluniau buddsoddi ar gyfer y cynigion Band B a oedd yn canolbwyntio ar ysgolion yn ardaloedd Dinbych, y Rhyl a Llangollen ac eglurodd y rhesymau dros unrhyw newidiadau i'r rhaglen a gymeradwywyd yn flaenorol.  Ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r rhaglen ddiwygiedig ac roedd yn awyddus i’r cynigion gael eu datblygu.  Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r Aelod Arweiniol fel a ganlyn –

 

·         Amlygodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr angen am fuddsoddi mewn ysgolion eraill a oedd y tu allan i’r rhaglen, gan gyfeirio’n benodol at Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Cytunodd yr Aelod Arweiniol ond eglurodd fod y gwaith oedd ei angen mewn ysgolion yn llawer mwy na’r cyllid a oedd ar gael ac felly roedd angen cyflwyno proses flaenoriaethu i dargedu’r ardaloedd lle’r oedd yr angen mwyaf.  Roedd yr asesiad o ysgolion ar gyfer Band B wedi blaenoriaethu ysgolion o ran eu cyflwr yn gyffredinol ond cadarnhaodd bod buddsoddiadau'n dal i gael eu gwneud mewn ysgolion eraill, gan dynnu sylw at waith adnewyddu penodol a gwaith cynnal a chadw a wnaed yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Yn rhan o gynlluniau yn y dyfodol, byddai angen gwneud gwaith i fesur effaith ysgol newydd Crist y Gair ac ysgol gynradd newydd bosib' y Rhyl ar niferoedd disgyblion yn yr ardal.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley i’r cyfeiriad at “permeations” ar dudalen 11 yn yr adroddiad Saesneg gael ei newid i "permutations".

·         Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young sicrwydd ynghylch cyfathrebu a chadarnhaodd yr Aelod Arweiniol y cysylltwyd â phob pennaeth ynghylch yr adroddiad ac y byddai ymgynghoriad ehangach gydag ysgolion a llywodraethwyr wrth i faterion ddatblygu.

·         Bu i’r swyddogion adrodd ar ddewisiadau eraill a ystyriwyd fel y ffordd ymlaen, gan gynnwys lleihau cwmpas y rhaglen ac ariannu prosiectau y tu allan i'r rhaglen honno'n llawn. Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad ac na dderbynnid ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, byddai dewisiadau eraill yn cael eu hailystyried.

·         O ran amserlen, roedd disgwyl ymateb gan Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2020.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion hefyd i gwestiynau gan aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet fel a ganlyn –

 

·         A rhoi y byddai LlC yn ymateb yn gadarnhaol, byddai’r swyddogion wedyn yn creu rhaglen o waith wedi’i gynllunio a byddai modd gwneud sawl prosiect ar unwaith fel y gwelwyd yn rhaglen Band A.

·         eglurodd ymhellach bod y diffyg tir addas yn Llangollen yn golygu na fyddai posib' adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Dinas Brân fel y bwriedid yn wreiddiol ac felly byddai'r buddsoddiad yn canolbwyntio ar adnewyddu.  Roedd y Cynghorydd Melvyn Mile yn awyddus i sicrhau na fyddai disgyblion Sir Ddinbych dan anfantais ac fe’i sicrhawyd na fyddai unrhyw effaith newidiol o ran hynny.  Byddai safon y gwaith adnewyddu gystal ag adeilad newydd a gellid gwneud gwaith heb effeithio ar allu’r ysgol i weithredu nac ar y cynnig addysgol i’r disgyblion.

·         O ran datblygiadau tai newydd yn Rhuddlan a Dyserth, byddai angen gwneud gwaith o ran yr effaith ar niferoedd disgyblion a chapasiti gan ystyried buddsoddiadau eraill a oedd wedi’u cynllunio a byddai angen ystyried categori ieithyddol unrhyw ysgol newydd bosib' yn ofalus.

·         o ran amgylchiadau pob ysgol ffydd unigol, cytunodd yr Aelod Arweiniol i drafod y rheiny y tu allan i’r cyfarfod gyda’r Cynghorydd Martyn Holland.  O ran Ysgol Santes Ffraid, yr Ymddiriedolwyr oedd piau’r tir a byddai angen i Ymddiriedolwyr yr ysgol gyfrannu tua £2.5 miliwn (15%) tuag at y cynllun arfaethedig gyda LlC yn ariannu 85%.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch setliad drafft y gyllideb yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, cadarnhawyd nad oedd unrhyw gyfeiriad penodol at y rhaglen ysgolion yn y setliad hwnnw.

 

Cefnogodd y Cabinet argymhellion yr adroddiad ac yn dilyn hynny –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad) i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: