Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 46/2019/0748 - APRIL COTTAGE, FFORDD GLASCOED, LLANELWY
Ystyried cais i adeiladu sgrin 1.75m o uchder o goed
cyll, wedi’i gwehyddu â llaw, a gyda phostyn concrid wedi’i orchuddio â phren
gyda chapiau pren sgwâr (rhannol ôl-weithredol) (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi sgrin pren
cyll wedi'i wehyddu â llaw 1.75m gyda chefnogaeth goncrit wedi'i orchuddio â phren gyda chapiau pren
sgwâr (yn rhannol ôl-weithredol) yn April Cottage, Ffordd Glascoed, Llanelwy.
Siaradwyr Cyhoeddus –
Tim Donovan (Yn erbyn) - nododd sut yr
oedd yn gwrthwynebu'r
cais gan ei fod ar
ffin ei eiddo.
Dywedodd nad
ffens oedd y ffin ond gwrych,
ac y dylai fod ag ardal hawddfraint. Roedd y gwrych wedi'i gynnal a'i
gadw'n dda ac mewn cyflwr da. Roedd adeilad ôl-weithredol
eisoes wedi’i godi a oedd
yn effeithio ar amwynderau a hawddfraint y gwrych ac nid oedd yn
caniatáu ar gyfer gwneud gwaith
cynnal a chadw ar y gwrych. Dywedwyd
bod y gwrych wedi marw gan fod
gwaith adeiladu'r ymgeisydd wedi ei ladd. Roedd
angen gofal a chynnal a chadw ar y gwrych fel
y ffin rhwng y ddau eiddo. Byddai
gwrych a ffens bren newydd
yn eu lle
ym mis Ionawr,
a byddai hysbysiadau cyfreithiol perthnasol yn cael eu
cyhoeddi. Roedd materion cyfreithiol yn parhau mewn
perthynas â'r ffin. Ystyriwyd bod y cais yn ddi-rym
gan nad
oedd yr hen goetsdy yn y cais.
Dywedwyd hefyd bod dyletswydd ar y pwyllgor i amddiffyn adnoddau naturiol yn yr ardal.
Tim McSweeney (O Blaid) - amlygodd y rhesymau pam y codwyd y ffens, sef ar
gyfer diogeledd, preifatrwydd a diogelwch. Roedd gan y ffens
bresennol giât ynddo y gallai'r cymydog ei defnyddio
ar unrhyw adeg, a fyddai'n effeithio ar breifatrwydd
a diogelwch perchnogion
April Cottage gan y gallai unrhyw un ddefnyddio'r
giât a chael mynediad i'r gerddi
yno. Roedd y giât hefyd yn
peri pryder diogelwch gan fod
gan berchnogion April
Cottage wyrion ac roedd y giât agored yn
gyfle i adael yr eiddo. Roedd
perchnogion April Cottage yn
geidwaid i'r eiddo oherwydd ei oedran. Roedd
swyddogion wedi argymell y dylid caniatáu ffens gyda ffens cyll
wedi’i wehyddu gyda chladin a chapio’r pyst concrit.
Roedd y perchnogion wedi cydymffurfio â'r awgrymiadau. Ni chadarnhawyd y rhesymau dros ladd y gwrych
ar adeg y cyfarfod. Gofynnwyd felly i'r pwyllgor ganiatáu'r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau a gynhwysir yn argymhelliad
y swyddog.
Trafodaeth Gyffredinol - Tynnodd swyddogion
cynllunio sylw'r pwyllgor at y math o ffens a fyddai'n cael ei
hadeiladu. Roedd y cais yn cael
ei drafod gan fod y ffens
o fewn cwrtil adeilad rhestredig a dim ond am y rheswm hwn yr oedd
angen caniatâd cynllunio arno.
Y cynnig oedd disodli'r ffens bresennol â ffens cyll wedi’i wehyddu.
Roedd swyddogion wedi asesu'r cais,
ac roedd y swyddog cadwraeth hefyd wedi adolygu'r cais. Argymhellodd swyddogion y dylid caniatáu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd
Peter Scott (Aelod Lleol) fod gan gyngor
y ddinas amheuon gyda'r cais yn
wreiddiol, ond yn dilyn y diwygiadau
nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiadau i'r cais. Trefnwyd ymweliad safle ond cafodd ei
ganslo, a gofynnwyd pam fod hyn wedi
digwydd. Hysbysodd swyddogion y pwyllgor fod mynediad wedi'i
wrthod i’r tir, ond serch
hynny, teimlwyd y gellid asesu'r cais yn ôl
ei deilyngdod gyda'r wybodaeth a'r delweddau a ddarparwyd.
Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid caniatáu’r cais yn unol ag
argymhellion swyddogion, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.
PLEIDLAIS:
CANIATAU – 18
GWRTHOD – 0
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R
cais yn unol
ag argymhellion swyddogion fel y manylir yn yr
adroddiad a'r papurau atodol.
Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) gohiriwyd y cyfarfod am egwyl lluniaeth.
Dogfennau ategol: