Eitem ar yr agenda
IECHYD A LLES
(a) Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol I’w gadarnhau
(b) Cyflwyniad ar y wybodaeth ddiweddaraf ar y
Tîm Gweithredu Lleol (Tesni Hadwin)
(c) Ystyried cynigion ar gyfer cyllid
trawsnewidiol 2020/21 (Bethan Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
(copi ynghlwm)
3.30 p.m.– 4.10 p.m.
Cofnodion:
(a) Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol – nid oedd modd i gynrychiolwyr fynychu.
Bydd
yr eitem hon yn cael ei gohirio i gyfarfod yn y dyfodol.
(b) Cyflwynodd Tesni Hadwin, Rheolwr
Gwasanaethau Pobl Ddiamddiffyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu
Lleol (LIT).
Lansiwyd LIT yn 2017. Diben LIT yw darparu tîm amlddisgyblaethol, o'r
gwaelod i'r brig, yn seiliedig ar le i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles,
cytuno ar fodel gofal sy'n ofynnol yn lleol a chynhyrchu dewisiadau ar gyfer
model amlddisgyblaethol sy'n gwella canlyniadau gwella pobl. Mae LIT yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth Law
yn Llaw at Iechyd Meddwl sydd yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol.
Ym mis Tachwedd 2019, dyfarnwyd £2,320,000 ar gyfer elfen Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl ar gyfer Gogledd Cymru o'r Cyllid Trawsnewid. Bwriad y gronfa oedd diwallu costau
ychwanegol â chyfyngiad amser o gyflwyno modelau iechyd a gofal cymdeithasol
newydd.
Mae gwaith LIT yn gysylltiedig â llwybr integredig ICAN, yn symud o
ymyraethau lefel isel i gefnogaeth lefel uchel -
·
Canolfan
Gymunedol ICAN
·
Gofal
Sylfaenol ICAN
·
Gofal
heb ei drefnu ICAN, a
·
ICAN
+ cam i fyny / cam i lawr
Mae ymgyrch ICAN yn ceisio -
·
Rhoi
llais i bobl gyda phrofiad bywyd
·
Symud
canolbwynt gofal i atal ac ymyrraeth gynnar
·
Grymuso
pobl i gynnal eu hiechyd meddwl a lles, ac
·
Annog
sgyrsiau agored a llawn gwybodaeth am iechyd meddwl.
I gyflawni’r nodau, mae’r LIT wedi datblygu-
·
Llwybr
cefnogaeth iechyd meddwl newydd ICAN
·
Rhaglen
cyflogaeth gwaith ICAN
·
Hyfforddiant
iechyd meddwl ICan
·
Cyfleoedd
i wirfoddoli ICan
Hysbyswyd yr aelodau bod sawl canolfan gymunedol ICan wedi’u sefydlu ar
draws Conwy a Sir Ddinbych, rhai ohonynt yn lansio ym mis Ionawr 2020. Mae’r
gwasanaethau a’r ddarpariaeth yn amrywio o un ganolfan i’r llall. Mae hyn yn rhan o waith LIT i ymgymryd â
newid y system gyfan ac ail-fuddsoddi adnoddau i fodel atal, er mwyn i bobl
gael cefnogaeth gan ystod o ddewisiadau yn y gymuned.
Hysbyswyd yr aelodau bod cynlluniau i ymgeisio ar gyfer rhagor o
ganolfannau, yn bennaf yn y Rhyl a Llandudno.
Fodd bynnag mae angen sicrhau bod darpariaeth gyfartal ar draws y
rhanbarthau, megis mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r LIT hefyd yn dymuno datblygu model cymunedol cydweithredol.
Diolchodd y Bwrdd i Tesni am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf .
(c) Darparodd Bethan Jones, BIPBC, adroddiad
cryno o’r cynigion ar gyfer cyllid trawsnewid 2020/21.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant trawsnewid, ac yn hytrach na
dyrannu’r cyllid, roedd yn rhaid cyflwyno cynigion ar gyfer yr arian. Mae’r rhaglen wedi sefydlu pedwar prosiect,
·
Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol – canolbwyntio ar ddatblygu lleoliadau
iechyd a gofal cymdeithasol cyfunol (yn seiliedig ar ddaearyddiaeth y clystyrau
gofal sylfaenol) a datblygu cysylltiadau gyda'r Timau Adnoddau Cymunedol. Mae pedwar clwstwr ar draws Conwy a Sir
Ddinbych.
·
Ymyrraeth gynnar a chefnogaeth ddwys
integredig ar gyfer plant a phobl ifanc- yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel rhan
o’r weledigaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau di-dor ar sail ardal.
·
Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd
Cymru - yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gofal brys
integredig di-dor ar gyfer unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl neu sydd
angen cefnogaeth ar unwaith. Mae prosiectau tebyg yn gweithredu yng Ngwynedd ac
Ynys Môn a Sir y Fflint a Wrecsam.
·
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd:
Datblygu
model di-dor o wasanaethau anableddau dysgu- prosiect rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddatblygu
model o wasanaethau anableddau dysgu yn
seiliedig ar yr ‘hyn sydd o bwys’ i’r unigolion ac adeiladu ar gefnogaeth i
deuluoedd, rhwydweithiau anffurfiol, a modelau tîm adnoddau cymunedol.
Y gwahaniaeth gyda’r cyllid trawsnewid yw mai dim ond ar ôl gwario arian y
prosiect y gellir cyflwyno ceisiadau am yr arian. Byddai diweddariad manylach ar gael ar gyfer
y Bwrdd ym mis Ebrill / Mai 2020.
PENDERFYNWYD
- nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf am Iechyd a Lles.
- bydd y wybodaeth
ddiweddaraf am y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cael ei darparu mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
- byddai’r wybodaeth
ddiweddaraf am Gyllid Trawsnewid ar gyfer 2020/21 yn cael ei ddarparu mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: