Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Roedd Aelodau
Annibynnol Anne Mellor a Peter Lamb wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Dinbych
ar 27 Ionawr 2020. Adroddwyd:
·
Roedd
anhawster o lywio gwefan Cyngor Tref Dinbych i ddod o hyd i amseroedd dechrau
cyfarfodydd a’r agenda.
·
Dechreuodd
y cyfarfod yn brydlon. Roedd Cadeirydd, Is-gadeirydd a 9 aelod yn bresennol. Yn
ogystal roedd cyfieithydd yn bresennol.
·
Cawsant
groeso cynnes a chlustffonau cyfieithu.
·
Er
bod dau wedi datgan cysylltiad ar gyfer eitem 19, ni wnaethpwyd yn amlwg os mai
datganiad personol neu ddatganiad a oedd yn rhagfarnu oeddynt.
·
Symudwyd
ymlaen i’r eitem ar Gadw Llyfrau Electronig, er bu i ddau Gynghorydd
gwestiynu’r arfer safonol. Bu i’r Cadeirydd wrthod eu gwrthwynebiadau a doedd
dim llawer o ddeialog rhyngddynt.
·
Bu i
weddill yr agenda fynd rhagddo’n effeithlon.
·
Gofynnwyd iddynt adael ar gyfer yr eitem olaf (eitem 19)
ar Neuadd Tref Ddinbych, a oedd yn eitem gyfrinachol Rhan 2.
Yn gyffredinol
roedd y cyfarfod yn ffurfiol, cwrtais a chafodd ei reoli'n dda. Roedd y
Cadeirydd yn briodol (yn gyflym) a roedd gan y Clerc llawer o wybodaeth am yr
eitemau ar yr agenda.
Roedd yr aelodau
annibynnol yn teimlo yr oedd yn fanteisiol cael dau aelod o’r Pwyllgor Safonau
yn bresennol gan i’r ddau weld agweddau gwahanol o gyfranogiad yn y cyfarfod.
Roedd aelodau
annibynnol Julia Hughes ac Anne Mellor wedi mynychu cyfarfod y Cyngor Cymuned
Cefn Meiriadog ar 25 Chwefror 2020 am 7:00pm. Nodwyd:
·
Roedd
yn anodd llywio drwy'r wefan i ddod o hyd i amseroedd cyfarfodydd ayyb, ond
roedd y Clerc wedi cynorthwyo'n dda iawn i ddarparu'r wybodaeth. Roeddynt yn
cael gwefan newydd ar hyn o bryd.
·
Nid
oedd yn amlwg pwy oedd y Cadeirydd i ddechrau gan fod y Clerc yn cyflwyno nifer
o eitemau.
·
Roedd
6 aelod a’r Clerc yn bresennol. Bu i ddau aelod gyrraedd yn hwyr a roedd dau
ymddiheuriad wedi dod i law.
·
Darllenwyd
y datganiad datgan cysylltiad yn uchel ar ddechrau’r cyfarfod. Ni ofynnwyd i’r
ddau aelod a gyrhaeddodd yn hwyr, ond mi wnaeth un ddatgan er hynny. Dywedodd
yr aelod beth oedd eu cysylltiad, ond ni wnaeth gadarnhau os oedd yn gysylltiad
personol neu cysylltiad a oedd yn rhagfarnu Arhosodd yr aelod yn yr ystafell yn
ystod trafodaeth o’r eitem gyda chysylltiad – Cais am Gyllid gan yr Urdd
·
Weithiau
roedd trafodaethau yn dod i ben heb gytuno ar gamau gweithredu clir na
phleidlais pan roedd angen. Er bu i fwyafrif o’r cynghorwyr gymryd rhan
gweithredol.
·
Gofynnodd
y Clerc am ei gyflog a threuliau, ond ni ofynnwyd iddo adael yr ystafell tra’r
oedd yr hyn yn cael ei drafod.
·
Rhoddodd
y Clerc gyngor cyfreithiol da gyda dogfennaeth gefnogol i’r pwyllgor ynghylch
ceisiadau gan unigolion am gyllid.
·
Trafodwyd
y cais cynllunio Sipsiwn a Theithwyr. Eglurodd y Cynghorydd Sir y broses
gynllunio a dywedodd y gallai aelodau’r cyhoedd fynychu’r Pwyllgor Cynllunio.
·
Nid
oedd y Cynghorydd Sir yn gallu mynychu'r cyfarfod safle Sipsiwn a Theithwyr,
fodd bynnag roedd aelod o’r Cyngor Cymuned yn gallu bod yn bresennol. Nid oedd
yn eglur ar ddiwedd y drafodaeth os byddai'r Cadeirydd yn mynychu'r cyfarfod
safle.
·
Roedd
y Clerc yn cefnogi'r Cadeirydd a’r Cynghorwyr drwy'r cyfarfod.
Yn dilyn yr
adroddiadau adborth, awgrymodd y Pwyllgor y gallai templed safonol/ rhestr
wirio o bwyntiau i’w nodi mewn cyfarfodydd, mewn perthynas â'r cod ymddygiad a
gofynion hyfforddiant, fod yn arf defnyddiol.
Nodwyd y byddai
Swyddog Monitro/ Swyddfa Partneriaeth Cyngor Sir Y Fflint yn ysgrifennu at bob
Cyngor Tref a Chymuned yn amlygu’r cyngor generig ac adborth mewn cyfarfodydd
dan sylw. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i gysylltu â Chyngor Sir y Fflint
i gael eu templed llythyr rhoi adborth.
PENDERFYNWYD - nodi’r
pwyntiau y soniwyd amdanynt uchod.