Eitem ar yr agenda
POLISI ARFAETHEDIG CASGLIADAU DRWS I DDRWS
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws Arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad
ffurfiol cyn ei gymeradwyo.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) y byddai’r
Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a
bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac
(b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill
2020 ymlaen.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd
ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws arfaethedig ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo.
Esboniodd y Swyddogion nad oedd gan y Cyngor bolisi clir
a manwl i ystyried ceisiadau ar gyfer casgliadau drws i ddrws a cheisiwyd
cymeradwyaeth o’r polisi drafft i sicrhau bod yr holl bartïon yn ymwybodol o’r
gofynion a’r broses a fyddai’n sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau
cyson a thryloyw. Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir o ran y gofynion
deddfwriaethol a'r broses sydd rhaid ei dilyn a nodwyd, er bod trwyddedau yn
cael eu cyflwyno gan y Cyngor ar y cyfan, roedd Gorchmynion ‘Eithriad
Cenedlaethol’ ar gael i elusennau a oedd yn dymuno cynnal nifer uchel o
gasgliadau cydamserol ar draws y wlad a oedd yn cael eu cyflwyno gan yr
Ysgrifennydd Gwladol. Yr arfer bresennol
oedd rhoi trwyddedau i sefydliadau heb Orchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref
cyn belled â nad oedd casgliadau o’r fath yn gorgyffwrdd â chasgliadau eraill a
bod cymdeithasau yn cael eu cyfyngu i un casgliad o fewn 12 mis. Nod y dull hwn osgoi gorlenwi’r ardal â
chasglwyr o elusennau gwahanol.
O ystyried y byddai’r polisi arfaethedig yn cynnwys pob
agwedd o’r broses a gofynion ac nid oedd newid sylweddol i’r arfer bresennol,
argymhellodd y swyddogion bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda
sefydliadau elusennol a oedd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y
12 mis diwethaf yn unig, a bod unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron
y pwyllgor. Os na fyddai unrhyw
wrthwynebiad yn dod i law, bydda’r polisi yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Wrth
ymateb i gwestiynau, bu i'r swyddogion -
·
ddweud bod Gorchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU i
sefydliadau elusennol yng Nghymru a Lloegr.
·
esbonio’r amgylchiadau lle byddai’n rhaid cael trwydded wrth gasglu at
ddiben elusennol drwy ymweliadau o ddrws i ddrws.
·
cadarnhau y byddai trwyddedau’n cael eu caniatáu gan y Cyngor mewn achosion
lle nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cyflwyno Tystysgrif Eithrio ac yr oedd y
cyrff elusennol yn cwrdd â'r darpariaethau deddfwriaethol a gofynion dogfen
bolisi’r Cyngor – nid oedd ffi yn cael ei chodi am drwyddedau Casgliadau Drws i
Ddrws a oedd yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor.
·
esbonio nad oedd y gofynion deddfwriaethol wedi newid ac nad oedd newid
arfaethedig i arfer bresennol y Cyngor, ac
·
os oedd yr aelodau o blaid cefnogi’r polisi, byddai’r swyddogion polisi yn
cynghori’r Pwyllgor Trwyddedu pe na bai unrhyw wrthwynebiad mewn ymateb i’r
ymgynghoriad ffurfiol ar y ddogfen a fyddai wedyn yn dod i rym ym mis Ebrill
2020.
-Ar ôl ystyriaeth briodol -
PENDERFYNWYD –
(a)
y byddai’r
Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a
bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac
(b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill
2020 ymlaen.
Dogfennau ategol: