Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU’R BROSES GORSAFOEDD PROFI CYMERADWY PRESENNOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu gorsafoedd profi cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i edrych ar broses profi mewnol fel dewis a ffafrir ond yn amodol ar adolygiad ac ymgynghoriad pellach gyda'r holl bartïon perthnasol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ( a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu gorsafoedd profi cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Roedd gan Sir Ddinbych 8 gorsaf brofi wedi’u henwebu ar draws y Sir, 5 yn y Gogledd (yn cynnwys Canolfan Rheoli Fflyd y Sir ym Modelwyddan) a 3 yn y De, yr oedd y Gwasanaeth Fflyd yn eu cymeradwyo bob blwyddyn.  Esboniodd y Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r adolygiad o ystyried y pryderon y gallai’r amrywiad o ran cost y ffioedd a godir gan garejys unigol am brofion cydymffurfio a phrisiau cystadleuol fod yn gysylltiedig â lleihad yn ansawdd y prawf, ynghyd â phryderon nad oedd y broses gymeradwy ar gyfer gorsafoedd profi trwyddedig yn cael ei dilyn yn llawn gan arwain at anghyfartaledd o ran safon y profion a oedd yn cael eu cynnal.  Roedd pryder hefyd ynghylch nifer ac amlder y profion a oedd yn cael eu cynnal gan rai garejys a oedd yn arwain at ddiffyg cysondeb ar draws y broses profi gyfredol.  O ganlyniad roedd swyddogion wedi ystyried nifer o ddewisiadau i fynd i’r afael â’r materion hynny ac roedd manteision ac anfanteision pob un wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd y dewisiadau canlynol wedi’u cyflwyno i’w hadolygu -

 

·         dim newid i'r gorsafoedd profi awdurdodedig cyfredol

·         gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan garejys MOT ar gyfer Cytundeb Lefel Gwasanaeth penodol

·         lleihau’r nifer o orsafoedd profi awdurdodedig yn y sir

·         symud i brofi cydymffurfiaeth yn fewnol

 

O ran yr arfer o fewn awdurdodau cyffiniol, dywedodd y swyddogion fod dau awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru yn cynnal profion mewnol yn unig, yn ogystal ag 11 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Bu i’r swyddogion argymell cynnal profion mewnol fel y dewis a ffefrir yn amodol ar adolygiad ac ymgynghoriad.    Os nad oedd yr aelodau yn cefnogi profi mewnol, argymhellwyd cynnal adolygiad o’r broses bresennol.

 

Ystyriodd yr aelodau rinweddau’r dewisiadau a gyflwynwyd gyda’r bwriad o ddarparu gwell cysondeb a sicrhau gwelliant pellach o ran ansawdd y profion a safonau cerbydau.  Mynegwyd pryder hefyd bod y drefn bresennol yn caniatáu i gwmni tacsi a oedd yn berchen ar orsaf brofi enwebedig ymgymryd â phrofion ar eu cerbydau eu hunain ac fe ystyriwyd hyn achos o wrthdaro buddiannau.  Byddai’r dewis o brofion mewnol yn mynd i’r afael â’r mater hwn ac yn sicrhau profion annibynnol a chyson o safon benodol.

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses bresennol ynghyd ag ymarferoldeb dull mewnol a phroblemau o ran capasiti.  Mewn ymateb, darparodd y Rheolwr Perfformiad Fflyd rhywfaint o wybodaeth gefndir i’r sefyllfa bresennol, gan ddweud bod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu'r broses ar gyfer enwebu gorsafoedd profi hen awdurdodau yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. O ystyried yr angen i wella safonau a chysondeb ac mai’r ystyriaeth bwysicaf oedd diogelwch y cyhoedd, ystyriwyd mai dull mewnol oedd y dewis gorau.  Roedd capasiti o fewn y Gwasanaethau Fflyd i ymgymryd â phrofion awdurdodedig yr holl gerbydau trwyddedig o fewn y sir yn y Ganolfan Rheoli Fflyd ym Modelwyddan a oedd ar hyn o bryd yn cynnal oddeutu 30- 40% o'r holl brofion cydymffurfio gydag oddeutu 80% o'r holl gerbydau trwyddedig wedi’u lleoli yng ngogledd y sir.  Roedd y Ganolfan Rheoli Fflyd yn gweithredu system trefnu apwyntiadau a oedd ar agor tan 9.00 p.m.  Ni fyddai unrhyw fudd ariannol i’r Gwasanaethau Fflyd o ganlyniad i symud i brofion mewnol, o ystyried bod y prawf cydymffurfio yn cymryd peth amser ac nad oedd yn cael ei ystyried yn broffidiol.  Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield am yr effaith bosibl ar amddifadedd ac a fyddai swyddi yn dod i ben yn y gorsafoedd profi presennol o ganlyniad y newid i brofion mewnol.  Darparwyd sicrwydd bod y golled i orsafoedd profi enwebedig yn ymwneud â phrofion cydymffurfiaeth a’r ffi ar gyfer y prawf hwnnw yn unig a oedd yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn ar gerbydau trwyddedig – ni fyddai hyn yn effeithio ar weithdrefnau cynnal a chadw a gwaith atgyweirio a byddai holl gyfleoedd gwaith eraill y garejys yn parhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Trwyddedu y byddai modd magu hyder drwy ddull mewnol a fyddai’n darparu lefel uchel a chyson o ran safonau cerbydau er budd y cyhoedd sy’n teithio a sicrhau diogelwch y cyhoedd.  Ar ôl adolygu’r gwerthusiad dewisiadau, roedd yr aelodau’n gefnogol o ddull mewnol yn amodol ar adolygiad pellach ac ymgynghoriad -

 

PENDERFYNWYD edrych ar broses profi mewnol fel dewis a ffafrir ond yn amodol ar adolygiad ac ymgynghoriad pellach gyda'r holl bartïon perthnasol.

 

 

Dogfennau ategol: