Eitem ar yr agenda
OSGOI DEFNYDDIO A LLEIHAU LEFELAU PLASTIG YN SWYDDFEYDD CYNGOR SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion/cynllun gweithredu y Grŵp Tasg a
Gorffen Aelodau ar gyfer Defnyddio Plastig i'w ystyried cyn ei gyflwyno i'r
Cyngor Sir.
10.45 a.m. – 11.30 s.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd yr
adroddiad a gynhyrchwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen Defnydd o Blastig yn
dilyn yr Hysbysiad o Gynnig (Gorffennaf 2018) i’r cyngor, lle penderfynwyd bod
y Cyngor yn cefnogi mewn egwyddor i leihau’r defnydd o blastig, ond yn gofyn a
ellir ei gyfeirio i’r Pwyllgor Craffu i’w hystyried yn fanwl ac i adrodd yn ôl
i’r Cyngor.’
Soniodd y cynghorydd Emrys Wynne, Cadeirydd Grŵp Tasg a Gorffen
Defnydd o Blastig am waith y Grŵp, a’r ystyriaethau o ran sut i fodloni
orau’r amcanion a nodir gan y Cyngor. Cytunwyd i ganolbwyntio
ar yr hyn sydd yn gyflawnadwy ac yn y cam cyntaf i gael gwared ar blastig un
tro lle bo’n bosib yn swyddfeydd cyngor Sir Ddinbych. Parhaodd y
Cynghorydd Wynne i gyflwyno canfyddiadau’r adroddiad ac argymhellion/ cynllun
gweithredu'r Grŵp, ac eglurodd sut y gallai’r cyngor osgoi a lleihau ei
ddefnydd o blastig yn ei swyddfeydd mewn modd ymarferol a chynaliadwy, a
gofynnodd i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth i’r adroddiad hwn ac wrth ei gyflwyno
i'r Cyngor Sir ym mis Ionawr 2020.
Tynnwyd sylw’r Aelodau at y cynllun gweithredu arfaethedig a oedd yn
cynnwys yr effaith o weithredu’r camau hynny ac unrhyw arbedion a wneir o
ganlyniad - fodd bynnag, y gyriant oedd lleihau'r defnydd o blastig un tro yn
hytrach na gwneud arbedion. Parhaodd y Cynghorydd Wynne i egluro pob un o’r
camau gweithredu fel a ganlyn-
·
stopio darparu cwpanau dŵr plastig ar gyfarpar oeri
dŵr o fewn adeiladau’r cyngor/
·
annog
ailddefnyddio poteli dŵr i’w hail-lenwi mewn cyfarpar oeri dŵr.
·
cael
gwared ar gyfarpar oeri dŵr yn gyfan gwbl
·
stopio
darparu cwpanau mewn pwyntiau lluniaeth o fewn adeiladau'r cyngor
·
ymgyrch
staff i ‘ddod â’ch cwpan eich hun’ i’r gwaith/swyddfa/ cyfarfodydd.
·
cael
gwared ar orsafoedd lluniaeth yn gyfan gwbl o swyddfeydd y cyngor
·
lleihau
darpariaeth o gynhwysydd llefrith plastig ‘jiggers’ mewn pwyntiau lluniaeth/
tröydd plastig (ddim yn berthnasol) – tröydd pren
·
hyrwyddo
newid mewn ymddygiad i staff y cyngor i naill ai osgoi neu leihau defnyddio
plastig
·
stopio
prynu waled papur swyddfa plastig ledled pob gwasanaeth
·
cael
gwared ar beiriannau gwerthu yn gyfan gwbl
·
trefnu
ymgynghoriad gyda’r Fforwm Ysgol i herio ‘osgoi a lleihau plastig’ yn ein
swyddfeydd y cyngor
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi parhad y Grŵp i edrych ac archwilio
ymhellach yr opsiynau i osgoi a lleihau plastig mewn ardaloedd eraill o'r
Cyngor (gyda'r ffocws nesaf ar arlwyo ysgol), ac i annog staff i edrych ar sut
i osgoi neu leihau plastig o fewn y Cyngor. Roedd gweddill yr adroddiad yn
amlygu ffyrdd i leihau defnyddio plastig. Yn olaf, diolchodd y Cynghorydd Wynne
y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad am gynhyrchu’r adroddiad a
chroesawodd aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol a oedd gan ddiddordeb yn yr
amgylchedd, a oedd wedi mynychu sgwrs ddiweddar yr oedd wedi ei roi mewn
cyfarfod Cyfeillion y Ddaear.
Croesawodd y
pwyllgor yr adroddiad a diolch i’r Grŵp am eu gwaith caled i ddyfeisio
ffyrdd o leihau a chael gwared ar ddefnyddio plastig, a chefnogi'n llawn eu
parhad i adnabod mesurau i gefnogi arferion mwy amgylcheddol.
Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -
·
Roedd
y Pwyllgor yn awyddus i hyrwyddo'r gwaith da a gyflawnwyd ac wrth annog
arferion ecogyfeillgar, a nodwyd os bydd yr argymhellion yn cael eu cymeradwyo gan
y Cyngor yna bydd datganiad i’r wasg yn amserol; hefyd dywedodd y Pwyllgor
Craffu bod angen gwaith mwy cyffredinol i godi proffil y pwyllgor craffu ac
adnabod negeseuon a themâu allweddol o gyfarfodydd i amlygu drwy swyddfa'r wasg
a chyfryngau cymdeithasol.
·
cydnabu bod lleihad yn y defnydd o blastig ar draws yr
awdurdod yn dasg fawr, a felly cynigiwyd dull cynyddrannol gan y Grŵp er
mwyn canolbwyntio ar ardaloedd penodol, i ddechrau lle byddai’n rhagweld y bydd
canlyniadau uchafswm ac amserol yn gallu cael eu cyflawni, gan dderbyn
hefyd y bydd rhai meysydd yn anodd,
angen eu hystyried ac yn fwy anodd ei ddelio; hyd yma y maes nesaf arfaethedig
i'w ystyried gan y Grŵp yw arlwyo ysgol.
·
gall
lleihau/ cael gwared ar blastig mewn canolfannau hamdden (a fydd yn cael ei
reoli gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf o fis Ebrill 2020 ymlaen) fod yn faes i’r
Grŵp ei ystyried ar gam hwyrach, ond os bydd unrhyw gyfnod lle mae gofyn i
gwmni newydd gydymffurfio â pholisïau’r cyngor, a felly bydd unrhyw
benderfyniad neu gyfarwyddyd yn y dyfodol yn berthnasol i'r cwmni newydd - yn y
cyfamser gobeithir y bydd y canolfannau hamdden yn gweithredu hyn wrth aros am
unrhyw bolisi ffurfiol.
·
roedd
yr aelodau yn cefnogi’r argymhellion arfaethedig fel y nodir o fewn yr
adroddiad, ac yn defnyddio’r adran gyfathrebu i annog staff ac ymwelwyr i ddod
â’u cwpanau a byrbrydau eu hunain i’r swyddfa, a nodwyd bod Kathy Jones, aelod
cyfetholedig wedi awgrymu nodyn atgoffa 'dewch â'ch cwpan eich hun' ar dudalen
flaen y cyfarfodydd i annog yr arferiad hwn - nodwyd y bwriad oedd i ddarparu
cwpanau Tsieina i ymwelwyr.
·
ystyriwyd
y defnydd o’r adran gyfathrebu fel ffordd allweddol o hyrwyddo a hysbysebu
arferion ecogyfeillgar ac i beidio â chefnogi’r defnydd o blastig o fewn y
cyngor ac yn y gymuned ehangach – gan amlygu’r diwylliant a dyheadau Sir
Ddinbych.
·
gwnaethpwyd
gyfeiriad at anawsterau’r Grŵp Tasg a Gorffen i nodi’r meysydd mwyaf
priodol i ganolbwyntio, yn arbennig gan ystyried nad oes modd gwybod faint o
ddefnydd o blastig sydd gan adrannau eraill, sef y ffocws ar ddatrysiadau sydyn
ac effaith fwyaf, a’r dewis o’r maes arlwyo ysgol fel yr un nesaf i’w ystyried.
·
nodwyd
bod diwylliant y sefydliad yn ystyriaeth allweddol er mwyn ymgysylltu a ffocysu
staff, awgrymwyd efallai y bydd teilyngdod i geisio safbwyntiau/ syniadau staff
yn ystod arfarniadau o ran lleihau plastig o fewn eu hadrannau, neu i ddarparu
adran o fewn adroddiadau yn nodi pa gamau gweithredu y mae adrannau unigol yn
eu cyflawni i leihau plastig.
·
nodwyd
bod dyddiad anghywir o fis Chwefror 2019 wedi’i gofnodi ar dudalen 29 a dylid
ei newid i fis Chwefror 2020 yn yr adroddiad i’r Cyngor.
·
yn
dilyn gwahoddiad y Cadeirydd, bu i’r aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol
gyfeirio at nifer o bobl sydd yn dod i swyddfeydd y cyngor gyda chwpanau coffi plastig
un tro gan siopau allanol, a theimlodd bod angen peidio â chefnogi hyn.
Cytunodd yr Aelodau y gallai’r agwedd hwn ei gynnwys o fewn yr ymgyrch hyrwyddo
staff arfaethedig i ‘ddod â’ch cwpan eich hun’ i’r gwaith/ swyddfa/ cyfarfodydd
ac i annog peidio â dod â chwpan plastig un tro i'r adeilad.
·
cadarnhawyd
y bydd ymgysylltiad â staff drwy nifer o sianeli a ddim drwy’r undebau llafur
yn unig.
·
cafwyd trafodaeth, er nid oedd yn perthyn yn uniongyrchol
i’r adroddiad dan ystyriaeth, o ran y ffordd orau i annog preswylwyr a’r
cyhoedd i fabwysiadu arferion ecogyfeillgar ac awgrymwyd y gellir cynnwys
gwybodaeth gyda biliau treth y cyngor i aelwydydd yn y sir - cysylltiadau â
ffrydiau gwaith eraill y cyngor mewn perthynas â’r amgylchedd, gan gynnwys
lleihau allyriadau carbon ac amlygwyd newid mewn hinsawdd a’r angen i
ganolbwyntio ar ymgysylltiad cyhoeddus gan gydnabod hefyd ymwneud cyfyngedig y
Cyngor. Cytunwyd i gynghori’r tîm cyfathrebu o ganlyniad y
ddadl craffu a’r argymhelliad i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn
argymell-
(a) bod yr
Argymhellion/ Cynllun Gweithredu arfaethedig (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn cael
ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w hystyried i sicrhau -
·
bydd Cynllun Gweithredu i leihau’r
defnydd o blastig o fewn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei weithredu o
fewn y Cyngor.
·
bydd cyflawni’r amcanion o
fewn y Cynllun Gweithredu yn dangos bod y Cyngor yn arwain yn Sir Ddinbych i
leihau’r defnydd o blastig.
·
bydd lleihau’r defnydd o
blastig gan Gyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu tuag at Flaenoriaethau Amgylcheddol
a gynhwysir o fewn y Cynllun Corfforaethol.
(b) Bod y Grŵp
Tasg a Gorchwyl Defnydd o Blastig yn parhau â’u gwaith am 12 mis arall gyda'r
bwriad o gynnig camau gweithredu arfaethedig yn y maes: Arlwyo Ysgol (sydd y tu allan i gwmpas
y cynnig hwn) a chaffael ehangach ynghylch plastig.
(c) ‘Osgoi a lleihau
plastig o fewn y cyngor’ yn ffrwd gwaith sydd yn gysylltiedig â’r ymateb i
argyfwng Ecolegol a Newid Hinsawdd.
Ar y pwynt hwn (11.50am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol: