Eitem ar yr agenda
PERFFORMIAD YSGOLION A CHANLYNIADAU ARHOLIADAU L2 DROS DRO
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi ynghlwm) ar berfformiad ysgolion Sir
Ddinbych a chanlyniadau arholiadau lefel 2 dros dro i gael eu hadolygu gan yr
aelodau.
10.05 a.m. – 10.45 a.m.
Cofnodion:
[Nid oedd Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a
swyddogion GwE wedi gallu bod yn bresennol ar gyfer yr eitem hon oherwydd bod
ganddynt gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a chyflwynwyd ymddiheuriadau ar eu
rhan.]
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau
Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd adroddiad y Prif Reolwr Addysg (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) ar berfformiad ysgolion Sir Ddinbych a chanlyniadau arholiadau
lefel 2. Roedd yr adroddiad yn cynnwys perfformiad heb eu gwirio o ysgolion Sir
Ddinbych a chanlyniadau arholiadau allanol drafft yng Nghyfnod Allweddol 4,
ynghyd â'r ddarpariaeth o ganlyniadau drafft yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad
cenedlaethol.
Yn ystod ei gyflwyniad ac mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor ynghylch
diffyg data tebyg i graffu canlyniadau perfformiad, eglurodd yr Aelod Arweiniol
bod yr wybodaeth yn yr adroddiad a gasglwyd yn cydymffurfio gyda chanllaw
cenedlaethol ac yn adlewyrchu newidiadau diweddar o ran cofnodi data
perfformiad. Cyfeiriodd at y cyfathrebiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru,
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn a oedd yn cynghori’n daer bod data
cyfanredol a gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio wrth adrodd ar berfformiad ysgol.
Wrth ddilyn y canllaw hwn, nid oedd awdurdodau lleol yn rhannu data perfformiad
ac felly roedd data’r adroddiad yn gyfyngedig i’r wybodaeth sydd ar gael
eisoes, a ddim yn cynnwys cymariaethau gydag awdurdodau addysg lleol eraill. Yn ogystal, gan ystyried
y mesurau CA4 interim newydd fel rhan o’r rhaglen diwygio addysg yng Nghymru, a
gwahaniaethau ar draws nifer o ddangosyddion (o ganlyniad i’r cofnod cyntaf yn
cyfrif yn hytrach na data canlyniad gorau), nid yw wedi bod yn bosibl cymharu
ffigurau 2019 gyda pherfformiad blaenorol. Wrth ystyried y data
perfformiad yn y dyfodol, argymhellwyd i ystyried canlyniadau perfformiad dros
dro gan y Pwyllgor ym mis Medi 2020, a gwneud cymhariaeth â’r canlyniadau
gwiriadwy y flwyddyn flaenorol ym mis Chwefror 2021.
Wrth gofnodi negeseuon pennawd, cyfeiriodd yr
Aelod Arweiniol i ostyngiadau bach ond y cysondeb cyffredinol. Roedd Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Y
Bendigaid Edward Jones, sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd ward mwyaf
difreintiedig yng Nghymru, wedi datblygu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a
chyfeiriwyd at gyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (SSMG) yn yr ysgol
Crist y Gair newydd a’r canlyniadau cadarnhaol a godwyd o hynny.
Yn ystod ei gyflwyniad i'r Pwyllgor, bu i’r Prif
Reolwr Addysg -
·
gyfeirio at y trafodaethau
blaenorol gyda’r Pwyllgor ar adrodd ar wybodaeth data perfformiad a’r angen i
graffu gyda chymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau proses agored a thryloyw.
·
gadarnhau
bod yr adroddiad yn cydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ac oherwydd y
mesuryddion perfformiad ysgol newydd nid oedd modd cymharu’r data gyda’r
blynyddoedd blaenorol.
·
cyfeiriodd
at y cwricwlwm newydd gyda'r prif ddangosydd o 5 TGAU ac roedd ysgolion yn
canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau yn y maes hynny ynghyd â darparu addysg
eang a chytbwys i ddisgyblion.
·
egluro’r
rheswm dros y mesur 9 wedi'i gapio bod y disgyblion gydag addysg TGAU eang a
chytbwys yn cael ei gapio i 9 pwnc gan gynnwys y pynciau craidd, Saesneg a
Mathemateg, gyda chyfleoedd gwell am sgoriau uwch.
·
cynigiwyd y dylai data
perfformiad yn y dyfodol gynnwys taflen wybodaeth a chanlyniadau arholiadau
drafft ym mis Medi/ Hydref, gyda chyflwyniad ar y canlyniadau gwiriadwy ym mis
Chwefror ynghyd â data gwahardd a phresenoldeb i ddarparu darlun cyffredinol
o'r perfformiad.
·
dywedodd
gan nad oedd data cymaradwy ffurfiol gydag awdurdodau lleol eraill, roedd rhai
wedi gweld gostyngiad cyffredinol ond bod Sir Ddinbych wedi gweld gwelliant
bychan – lle byddai awdurdodau lleol yn cyhoeddi eu canlyniadau perfformiad
gwiriadwy byddai modd mesur cymhariaeth perfformiad Sir Ddinbych.
·
adrodd ar y defnydd o Brydau
Ysgol am ddim (FSM) o ran perfformiad gyda chanlyniadau Sir Ddinbych yn is na
chyfartaledd Cymru, a disgrifiodd sut yr oedd ysgolion wedi perfformio o fewn
eu Grwpiau teulu FSM (bydd ffigurau meincnod o FSM yn cael eu darparu ym mis
Chwefror)-
o
Roedd
gan Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Y Bendigaid Edward Jones dros 30% o FSM,
roedd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi perfformio’n dda o fewn eu grŵp a
byddai’n annheg i gymharu'r ysgolion hynny gydag eraill yn Sir Ddinbych, gan
ystyried y lefelau o amddifadedd.
o
mewn
perthynas â’r ysgolion sy’n perfformio’n dda, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol y Santes
Ffraid ac Ysgol Glan Clwyd yn yr un Grŵp FSM, ac Ysgol Glan Clwyd yn
perfformio orau ac Ysgol Brynhyfryd yn dangos gostyngiad bychan yn y
canlyniadau.
Roedd wedi cael ei gam-ganfod
bod Ysgol y Santes Ffraid yn ysgol dethol ond mewn gwirionedd nid oes, ac roedd
yr ysgol wedi perfformio'n dda gyda nifer uchel o ddisgyblion gydag anghenion
addysgol arbennig.
o
Mae
Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi dangos y gwelliant gorau.
·
nodwyd
ym mhroffil archwiliadau ysgolion Estyn Sir Ddinbych 2018, gyda 6 o'r 10 ysgol
a archwiliwyd yn cael dyfarniadau rhagorol, a dim yr un ysgol wedi'u dyfarnu yn
anfoddhaol – dim ond Ysgol Plas Cefndy oedd yr unig Uned Cyfeirio Disgyblion i
gael archwiliad rhagorol yng Nghymru, sydd yn gyflawniad gwych.
·
Roedd Ysgol Uwchradd Dinbych
dan fesurau arbennig ond yn gwneud cynnydd da ac roedd rhai gwelliannau mewn
canlyniadau yr haf diwethaf, a gwelliannau yn yr ansawdd o addysgu gyda
chymorth dwys gan ysgolion a GwE - mae’r ysgol yn debygol o ddod allan o'r
mesurau arbennig yn 2020.
·
Roedd GwE wedi cyflawni
adolygiad yn Ysgol Dinas Bran yr haf diwethaf ac eto'n ddiweddar, a roedd yr
ysgol yn gwneud cynnydd da, ac yn hanesyddol wedi bod yn ysgol sydd yn
perfformio'n dda.
Gan dderbyn yr eglurhad a roddwyd o ran y diffyg
data cymharol, o ran cymharu gydag awdurdodau lleol eraill ac yn erbyn data y
blynyddoedd blaenorol, roedd y Pwyllgor yn parhau i godi pryderon bod angen
atebolrwydd a rhyw fath o ddata ystadegol i alluogi craffu gwirioneddol o
berfformiad ac i sicrhau yr addysg orau bosibl i ddisgyblion. Trafododd yr Aelodau gwahanol agweddau o’r adroddiad gyda'r Aelod Arweiniol
a Phrif Reolwr Addysg a ymatebodd i’r cwestiynau a sylwadau a godwyd fel a
ganlyn -
·
eglurwyd
yr effaith o gyfrif mynediad cyntaf, gan nodi wrth wneud arholiadau mwy nag
unwaith y gallai’r sgôr canlyniad orau gael ei gofnodi yn y blynyddoedd
blaenorol, ond ar gyfer eleni yn unig dim ond y sgôr cofnod cyntaf fyddai’n
cael ei gofnodi.
·
cadarnhawyd
bod amlder a rheoleidd-dra cyfarfodydd rhwng yr awdurdod lleol a GwE heb newid,
a bod cynghorwyr arbenigol ar gael i'r ysgolion yn ddibynnol ar yr angen a
hyder yn y gwasanaeth a ddarperir.
·
amlygwyd
y rôl o GwE fel gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion a gomisiynwyd gan Sir
Ddinbych a phump awdurdodau lleol eraill i ddatblygu a chodi safonau a darparu
cymorth i welliannau ysgol, ac i rôl Estyn i asesu ysgolion a darparu
dyfarniadau yn y pum maes allweddol.
·
roedd
yn dal yn bosibl i gymharu perfformiad yn erbyn cyfartaledd Cymru, a chymharu
data flwyddyn nesaf gyda'r un y flwyddyn flaenorol i ddyfarnu perfformiad.
·
eglurodd bod PISA (Rhaglen
Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) yn astudiaeth byd eang yn gwerthuso systemau
addysgiadol a oedd yn brawf ar wahân a oedd yn cael ei gynnal mewn sampl o
ysgolion, lle nad oedd angen unrhyw adolygiad ond roedd yr ysgolion wedi
canolbwyntio ar sgiliau sydd eu hangen ar gyfer PISA, a gobeithir y bydd
gwelliant yn y canlyniadau hynny.
·
cynghorwyd
bod holl ddisgyblion angen sefyll arholiad TGAU Iaith Saesneg a bod opsiwn i
wneud TGAU Saesneg Llenyddiaeth – yn flaenorol dim ond un o’r ddau oedd yn cael
eu cyfrif, ond nawr roedd mesur ar wahân ar gyfer pob un; roedd gofyn i bob
disgybl sefyll arholiad TGAU Mathemateg a bod rhifedd yn bapur ar wahân.
·
eglurwyd
pwrpas y gwahanol fyrddau a sefydlwyd i graffu perfformiad ysgol ac i gadw
cofnod o gynnydd gan gynnwys Byrddau Gwelliant Cyflymedig a Bwrdd Safonau
Ansawdd Lleol, ac adrodd ar gynllun peilot mewn dwy ysgol yn Sir Ddinbych
gyda'r bwriad o ddatblygu model cenedlaethol newydd.
·
galluogi
ysgolion ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, ni fyddai archwiliadau Estyn
yn cael eu cyflawni am ddeuddeg mis, fodd bynnag byddai unrhyw ysgol mewn
anhawster yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
·
cadarnhawyd bod gan GwE ddata
perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, ond nad oedd yr
wybodaeth yn cael ei rannu rhwng yr awdurdodau lleol er mwyn cydymffurfio â
chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru - roedd yn bosibl y byddai'r gyfarwyddeb yn mynd
ar ôl datblygu a sefydlu’r cwricwlwm newydd.
·
ni
fyddai’n realistig i gymharu data eleni i’r blynyddoedd blaenorol gan ystyried
y prif wahaniaethau wrth gofnodi data
·
gan ystyried y categoreiddio
diweddar o’r wardiau y Rhyl fel yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru,
cadarnhawyd y gellir defnyddio data Prydau Ysgol Am Ddim fel cymorth ar gyfer
cymharu ag ardaloedd o amddifadedd tebyg - roedd Ysgol Uwchradd Y Rhyl wedi
perfformio’n dda yn erbyn ysgolion o fewn y grŵp teulu FSM gyda nodweddion
tebyg; bu i Ysgol Y Bendigaid Edward
Jones berfformio’n is nag Ysgol Uwchradd Y Rhyl ond wedi cymharu’n foddhaol
gydag eraill mewn grŵp teulu. Gan ystyried Ysgol Crist y Gair newydd,
roedd hyder y bydd gwelliant pellach.
·
o ran
lles disgyblion a bwlio, cadarnhawyd bod Estyn wedi ymgynghori â rhieni a
disgyblion fel rhan o'u proses archwiliad a roedd amryw brosesau mewn lle i
fynd i'r afael â'r meysydd hynny - nodwyd bod CAMHS (GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL
PLANT A PHOBL IFANC) wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a roedd
yn broblem ar wahân i’r eitem dan ystyriaeth.
·
soniwyd
am y berthynas waith cryf rhwng Ysgol Gwernant ac Ysgol Dinas Bran, gydag Ysgol
Dinas Bran yn awyddus i ddatblygu’r ffrwd Gymraeg, fodd bynnag roedd
rhwystredigaeth ynghylch â derbyniad addysg cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol yn
yr ardal, sydd o ganlyniad i ddewis rhieni.
·
cyfeiriwyd
at ddisgyblion a oedd yn cael eu haddysgu yn hytrach nag mewn ysgolion (EOTAS)
a hawliau’r rhieni – er bod y sefyllfa yn cael ei fonitro gan yr awdurdod
lleol, dim ond ychydig o reolaeth oedd ganddynt o ran hyn. Roedd y disgyblion hynny wedi’u cynnwys yn y data perfformiad ond roedd y
mwyafrif yn annhebygol o gael L2+ a oedd yn dangos bod y disgyblion hynny yn
llwyddo ond ar lefel is na disgyblion ysgol - gellir ychwanegu data ychwanegol
o ran hyn yn yr adroddiad nesaf.
·
derbyniwyd
y byddai’r effaith lawn o fuddsoddiad yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Crist y
Gair newydd yn debygol o’i weld yng nghanlyniadau, fel y mae'r disgyblion yn
datblygu drwy'r ysgol at lefel TGAU mewn tua 5/6 mlynedd.
Ar ddiwedd y drafodaeth –
PENDERFYNWYD-
(a) Cydnabod yr
wybodaeth a ddarparwyd ynghylch perfformiad a monitro ysgolion Sir Ddinbych;
(b) Cael adroddiad
ar y canlyniadau arholiadau allanol gwiriadwy ym mis Ionawr 2020 i gynnwys data
absenoliaeth a gwaharddiad, a
(c) I gael data
cymharol fel y mae ar gael yn y blynyddoedd yn y dyfodol o ran canlyniadau
perfformiad dros dro a gwiriadwy bob blwyddyn ym mis Medi a Chwefror yn ôl eu
trefn.
Dogfennau ategol:
- PROVISIONAL EXAMINATION RESULTS, Eitem 5. PDF 315 KB
- PROVISIONAL EXAMINATION RESULTS - APP 1, Eitem 5. PDF 352 KB
- PROVISIONAL EXAMINATION RESULTS - APP 2, Eitem 5. PDF 410 KB