Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO – BODRUM KEBAB HOUSE, 10 STRYD Y DŴR, Y RHYL

Ystyried cais i amrywio Trwydded Eiddo yn unol ag Adran 34 Deddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Bodrum Kebab House, 10 Water Street, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais fel y gwnaed cais amdano.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)        cais a dderbyniwyd gan Mr. R. Topac i amrywio Trwydded Eiddo ac ymestyn oriau gweithredu mewn cysylltiad â Bodrum Kebab House, 10 Stryd y Dŵr, Rhyl (atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad); 

 

(ii)      mae’r eiddo’n gweithredu fel siop bwyd i fynd o dan yr oriau canlynol ar hyn o bryd -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Darparu lluniaeth yn hwyr y nos y tu allan -

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener - Dydd Sul

23.00 – 01:00

23.00 – 04.00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener - Dydd Sul

16.00 – 01:00

16.00 – 04.00

 

(iii)     mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdodiad i ymestyn yr oriau fel a ganlyn -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Darparu lluniaeth yn hwyr y nos - y tu allan

Dydd Llun - Dydd Sul

23.00 – 04:00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Dydd Llun - Dydd Sul

16.00 – 04:00

 

(iv)     dim ond rhwng oriau 23.00 a 05.00 y daeth darparu Lluniaeth Hwyr y Nos yn weithgaredd trwyddedadwy;

 

(v)      derbyniwyd un sylw ysgrifenedig (Atodiad B ynghlwm wrth yr adroddiad) gan Barti â Diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud ag aflonyddwch posibl o sŵn a chynnydd mewn sbwriel ac ati o ganlyniad i oriau agor hirach;

 

(vi)     ar ôl derbyn manylion y sylwadau cynigiodd swyddogion i gyfryngu rhwng y partïon ac wrth ymateb dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n fodlon parhau â’i oriau gweithredu presennol ond gyda’r hyblygrwydd i barhau ar agor rhwng 16.00 a 04.00 ar y diwrnodau canlynol -

 

Gwyliau’r Banc ar ddydd Llun

Noswyl Nadolig (pan fydd yn disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau)

Diwrnod Nadolig (pan fydd yn disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau)

Gŵyl San Steffan (pan fydd yn disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau)

Nos Galan (pan fydd yn disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau)

 

(vii)    ar ôl clywed addasiadau i’r oriau gweithredu roedd yr ymgeisydd yn eu cynnig, dywedodd y Parti â Diddordeb y byddai’n well ganddynt petai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau benderfynu;

 

(viii)  y rhaglen weithredu arfaethedig ar ôl cael ei gynnwys fel rhan o’r cais yn manylu nifer o amodau ychwanegol;

 

(ix)     yr angen i ystyried y cais gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a deddfwriaeth perthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(x)      yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor tra’n penderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd Mr. R. Topac yn bresennol i gefnogi ei gais a rhoddodd fanylion ei oriau trwyddedu arferol rhwng 4.00pm tan tua 3.35am  ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn a hyd at 1.00am weddill yr wythnos.  Dywedodd, er ei fod wedi gwneud cais i amrywio’r oriau trwyddedu i 4.00am yn ddyddiol, roedd hyn er mwyn darparu’r hyblygrwydd ar gyfer oriau trwyddedu hwyrach ar adegau arbennig megis Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Nos Galan pan fyddent yn disgyn ar ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar wyliau banc ar ddydd Llun. Doedd dim bwriad i weithredu hyd at 4.00am ar ddydd Llun i ddydd Iau y tu allan i’r adegau hyn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau -

 

·         cadarnhaodd Mr Topac y trefniadau diogelwch roedd yn eu defnyddio yn yr eiddo yn ystod oriau agor hwyrach hyd at 4.00am

·         cadarnhaodd mai eiddo bwyd cyflym yn unig oedd yr eiddo a dywedodd yr aelodau nad oedd gofyniad i ddarparu toiledau i gwsmeriaid

·         roedd gan y Parti â Diddordeb siop gerllaw oedd ar agor rhwng 10.00am a 3.00pm ac nid oedd fel arfer yn bresennol y tu allan i’r oriau hynny ac nid oedd yn byw yno

·         dywedodd nad oedd ganddo reolaeth dros y rhai sydd yn gollwng sbwriel ac nid oedd modd cysylltu’r problemau roedd y Parti â Diddordeb wedi’u codi o anghenraid i’w eiddo o, yn enwedig gan fod yna eiddo trwyddedig eraill yn y cyffiniau sydd ar agor tan 4.00am

·         roedd tua thri fflat uwchben y siop cebab, roedd un fflat heb ei feddiannu ac ni chafwyd cwynion gan breswylwyr

·         gan gyfeirio at y problemau parcio yn yr ardal, dywedodd fod gyrwyr cyflenwadau yn dueddol o barcio mewn man parcio rhydd sydd mor agos i’r eiddo â phosibl.

 

CAIS Y PARTI Â DIDDORDEB

 

Derbyniwyd un sylw ysgrifenedig (Atodiad B ynghlwm wrth yr adroddiad) gan Barti â Diddordeb sydd â busnes manwerthu yn y cyffiniau sydd yn gwrthwynebu’r cais ar sail niwsans cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Gan fod y Parti â Diddordeb yn absennol, cymerwyd bod eu sylwadau wedi eu darllen.

 

Ni chafwyd sylwadau gan Awdurdodau Cyfrifol.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Wrth roi ei ddatganiad terfynol, dywedodd Mr. Topac ei fod wedi siarad yn uniongyrchol gyda’r Parti â Diddordeb ac ar ôl egluro’r sefyllfa roedd yn credu ei fod yn fodlon â’i ymateb.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Oedwyd y cyfarfod yma (10.10am) er mwyn i’r Is-bwyllgor Trwyddedu ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo amrywio Trwydded Eiddo y gwnaed cais amdano, fel a ganlyn -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Darparu lluniaeth yn hwyr y nos - y tu allan

Dydd Llun - Dydd Sul

23.00 – 04:00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Dydd Llun - Dydd Sul

16.00 – 04:00

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Ymgeisydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor a dywedodd y Cyfreithiwr beth oedd y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a  gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus gan ddod i’r casgliad fod yna amodau digonol ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau o niwsans cyhoeddus a’u bod yn fodlon fod yr eiddo yn gweithio yn unol â’r amcanion trwyddedu.  O ran y materion a godwyd gan y Parti â Diddordeb, roedd yr Aelodau o’r farn nad oedd modd cysylltu’r achosion penodol y cyfeirir atynt mewn cysylltiad â niwsans cyhoeddus yn uniongyrchol i’r eiddo, yn enwedig wrth ystyried y nifer o eiddo trwyddedig eraill oedd yn y cyffiniau, a derbyniwyd nad oedd gan yr Ymgeisydd unrhyw reolaeth dros ymddygiad pobl y tu allan i’w eiddo.  Wrth ddod i benderfyniad roedd yr aelodau wedi ystyried na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau eraill i’r cais gan breswylwyr yn y cyffiniau ac ni wnaed sylwadau gan yr Awdurdodau Cyfrifol.  O ganlyniad, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu’r cais fel y cyflwynwyd, gan nodi bwriad yr Ymgeisydd i ddefnyddio’r oriau agor hwyrach yn ôl anghenion y busnes.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.20am.

 

 

Dogfennau ategol: