Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 2 – 2019 I 2020

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2019).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 o 2019/20 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i Aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2.

 

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau dros y cyfnod o bum mlynedd. Mae crynodeb o’r data a’r diweddaraf am brosiectau wedi’i ddarparu ar gyfer chwarter 2, ynghyd â thablau data yn amlinellu’r sefyllfa bresennol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae prosiectau a nodwyd i gefnogi pob blaenoriaeth yn datblygu. Mae’r perfformiad yn ôl y disgwyl ar gyfer hanner ffordd drwy’r Cynllun Corfforaethol ac er bod amrywiadau mewn meysydd blaenoriaeth unigol mae crynodeb perfformiad y ddau fesur a’r prosiectau yn dangos fod pob blaenoriaeth ac eithrio un wedi’i hasesu’n ‘dderbyniol’ ac un wedi’i hasesu’n ‘rhagorol’.

 

Eglurodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y dull adrodd gwahanol yn sgil mabwysiadu’r templed hygyrchedd. Aeth â’r Aelodau trwy’r adroddiad a darparodd ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol, gan amlygu materion allweddol a datblygiadau prosiect. Roedd 15 eitem o ddata newydd yn niweddariad chwarter 2 – saith wedi dirywio a 6 wedi gwella. Ychwanegodd y Cyng. Julian Thompson-Hill fod y mesuryddion perfformiad yn cael eu monitro drwy fecanweithiau monitro arferol y Cyngor a bod pob prosiect unigol yn cael ei fonitro gan y Byrddau Rhaglen.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododdd y Cabinet y materion canlynol:–

 

·         Cyfeiriodd y Cyng. Bobby Feeley at uno’r strategaethau tai a digartrefedd mewn un ddogfen a chytunodd y swyddogion i adlewyrchu’r newid hwnnw mewn adroddiadau perfformiad yn y dyfodol ac ystyried cynnwys mesuryddion perfformiad digartrefedd fel y bo’n briodol.

·         Cyfeiriodd y Cyng. Huw Hilditch-Roberts at y tablau cymharu a holodd pam bod llawer o’r mesuryddion yn amherthnasol ac fe amlygodd hefyd nifer o enghreifftiau lle mae perfformiad wedi dirywio neu wella ond heb newid statws.

Ymatebodd y Cyng. Julian Thompson-Hill gan ddweud bod anamlder rhai mecanweithiau adrodd yn golygu nad oes data cymharol ar gael ar adegau penodol; o ran statws, mae amrediad wedi’i osod ar gyfer pob mesur ac felly mae perfformiad yn gallu gwella neu ddirywio o fewn yr amrediad a pheidio â newid y statws. Amlygwyd hefyd bod y mesur ar gyfer ffyrdd A a B wedi’i feincnodi yn erbyn data Cymru Gyfan a’i fesur o fewn y cyd-destun hwnnw. Er eglurder, cytunwyd y byddai adroddiadau perfformiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am sut mae mesurau penodol wedi’u hasesu ac amlder hynny er mwyn adlewyrchu eu perfformiad yn well o fewn y cyd-destun perthnasol, ynghyd ag eglurhad ynghylch eu statws.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion:–

 

·         Band Eang Cyflym Iawn a Rhwydweithiau Ffonau Symudol – gofynnodd y Cyng. Meirick Davies am gwmpas Band Eang ac o ystyried bod ongl wleidyddol i’r ymateb cytunodd y Cyng. Richard Mainon i ddarparu ymateb y tu allan i’r cyfarfod er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau cyn etholiad.

·         Prosiect Maetheg Ysgolion – cyfeiriwyd at graffu ar ôl-ddyledion prydau ysgol sydd wedi lleihau’n sylweddol ac mewn ymateb i adroddiadau newyddion diweddar rhoddwyd sicrwydd bod pob plentyn yn Sir Ddinbych wastad yn cael pryd o fwyd os nad oes ganddynt becyn bwyd neu os oes gan y rhieni/gofalwyr ôl-ddyledion.

·         Rhaglen Moderneiddio Addysg – manylwyd ar y sefyllfa o ran y Ganolfan Ddatblygu’r Gymraeg ynghyd â gwahanu’r gwaith adeiladu i addasu’r adeilad presennol a’r elfennau parcio sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio.

·         Canran y boblogaeth 18-24 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith – eglurwyd fod y cynnydd yn hafal i 130 yn fwy o bobl ifanc ond ei fod yn rhy gynnar dweud a yw’r mesur yn adlewyrchu cyflwyno credyd cynhwysol neu a yw oherwydd dirywiad yn yr economi – disgwylir ateb mwy pendant erbyn y chwarter nesaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 2019/20 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

 

Dogfennau ategol: