Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH LLYFRGELL 2019-22
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn cyflwyno’r Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 ar gyfer cymeradwyaeth
gan y Cabinet.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) Cefnogi
Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 a
(b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cyng. Tony Thomas yr adroddiad a Strategaeth Llyfrgell 2019-22 i’r Cabinet ei
chymeradwyo. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r
weledigaeth ar gyfer gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych a’r
nodau i’w cyrraedd yn ystod y tair blynedd nesaf.
Amlygodd
y Cyng. Thomas bwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell a darparodd nifer o ystadegau
perfformiad allweddol i ddangos pa mor dda mae’r gwasanaeth yn perfformio, gyda
Sir Ddinbych ymhlith y deg awdurdod uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer o fesurau. Amlygodd y Prif Weithredwr werth y sesiynau cymorth
digidol, yn enwedig o ystyried y materion ynghylch cysylltedd digidol yn y sir.
Eglurodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau y rhesymeg y tu ôl i’r strategaeth er mwyn
amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth o fewn cymunedau a sut mae’n cyfrannu at
flaenoriaethau strategol y Cyngor. Adroddodd
hefyd ar y buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn
adeiladau llyfrgell a staff ac am ddatblygiadau pellach mewn partneriaethau i
wneud y mwyaf o’r buddion, gan bwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth yn nhermau
lles, dysgu a ffyniant, a hefyd rôl allweddol cymunedau o ran cymryd
perchnogaeth a chymryd rhan. Cost y
gwasanaeth llyfrgell yw ychydig dan £3 fesul ymweliad ac yn ôl astudiaeth
genedlaethol yn 2013 mae gwariant lleol defnyddwyr llyfrgell yn oddeutu £8,
sy’n mynd yn ôl i’r economi lleol.
Roedd
y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell i gymunedau lleol ac
iechyd a lles pobl a chanmolwyd yr ystod o weithgareddau a mentrau a ddarperir. Wrth ystyried y strategaeth, roedd y prif feysydd
trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:–
·
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng.
Mark Young cadarnhawyd fod oriau agor yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn
diwallu anghenion cymunedau o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael a
rhoddwyd sicrwydd bod Wi-Fi ar gael ymhob llyfrgell at ddefnydd y cyhoedd.
·
Roedd y Cyng. Richard Mainon
yn awyddus i weld mwy o fasnacheiddio a chynhyrchu incwm, ynghyd â defnyddio
mwy ar wirfoddolwyr ac estyn oriau agor i wneud y mwyaf o fuddion y gwasanaeth;
roedd hefyd yn teimlo y byddai datblygu targedau CAMPUS i fesur cynnydd yn beth
da.
Eglurwyd
beth yw rôl allweddol gwirfoddolwyr o fewn y cynllun gweithredu i ddatblygu
mentrau a phrosiectau penodol. Amlygwyd
y gwaith o hyrwyddo llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol ac ar gyfer
gweithgareddau cymunedol y tu allan i’r oriau agor arferol, a chyfeiriwyd yn
benodol at y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Tref Rhuddlan a Chyngor
Dinas Llanelwy yn hynny o beth.
·
Eglurwyd yr anawsterau wrth
gymharu costau’r gwasanaeth gydag awdurdodau eraill oherwydd mai gwasanaeth
llyfrgell Sir Ddinbych yw’r unig wasanaeth llyfrgell sydd wedi’i integreiddio â
gwasanaethau i gwsmeriaid. Fodd bynnag, ymddengys bod gwasanaeth llyfrgell Sir
Ddinbych yn ddrutach o gymharu ag awdurdodau lleol eraill ac mae gwaith
dadansoddi pellach yn cael ei wneud i weld pam ac i nodi arbedion
effeithlonrwydd posibl.
·
Amlygodd y Cyng. Bobby Feeley
werth cymdeithasol y gwasanaeth a chyfeiriodd at yr ystod o wasanaethau i
ymgysylltu â chymunedau a phobl fwy diamddiffyn, ond roedd hi hefyd yn deall yr
angen am wneud llyfrgelloedd yn fwy masnachol a chost effeithlon gan chwilio am
gyfleoedd i wneud hynny.
Mewn
ymateb i gwestiynau pellach gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet,
manylodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau ar y gwasanaethau amrywiol a geir, gan
gynnwys y gwasanaeth ar gyfer y rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Eglurwyd nad yw’r £2.94 fesul ymweliad â’r
llyfrgell yn cynnwys y gwasanaeth i’r rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Holodd y Cyng. Meirick Davies am effaith peidio â
darparu copïau papur o geisiadau cynllunio mewn llyfrgelloedd. Cytunodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ôl
wrtho y tu allan i’r cyfarfod. Manteisiodd
y Cyng. Peter Scott ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Cyngor am fuddsoddi yn
Llyfrgell Llanelwy ac adroddodd ar lwyddiant y llyfrgell fel canolfan gymunedol
a gobeithiodd y bydd lyfrgelloedd eraill yn gwneud yr un peth ac yn cynnwys ac
yn ymgysylltu â llyfrgelloedd mewn gweithgareddau cymunedol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) Cefnogi Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22;
(b) Cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Dogfennau ategol: