Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2018/0750 – TIR I'R GOGLEDD, GORLLEWIN A'R DWYRAIN O MINDALE FARM, FFORDD HENDRE, GALLT MELYD
Ailystyried cais (a ystyriwyd gan y
Pwyllgor Cynllunio ar 4 Medi 2019) i
ddymchwel annedd bresennol a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau, adeiladu
ffyrdd mewnol y stâd, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau
agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol, mewn
perthynas â chais 43/2018/0751 ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd
Talargoch (A547) ar dir i ogledd, gorllewin a’r dwyrain i Mindale Farm, Ffordd
Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol
a’r tai allanol, adeiladu 133 o anheddau, adeiladu ffyrdd mewnol y stad,
carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau agored, gwaith
tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol gyda chais 43/2018/0751 ar
gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch (A547)
ar dir i ogledd, dwyrain a gorllewin i Mindale Farm,
Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn i’w ailystyried. [Roedd cais 43/2018/0751
wedi'i gyflwyno i'w ailystyried fel eitem ar wahân ar yr agenda.]
Gwrthodwyd y ddau gais gan y Pwyllgor Cynllunio ar
4 Medi 2019, yn groes i argymhelliad y swyddog.
Yn dilyn trafodaethau gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn
ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, yn unol â’r Cynllun Dirprwyo presennol, ystyriwyd bod y seiliau
dros wrthod a gyflwynwyd ar y ddau gais yn arwain at risg sylweddol o ddyfarnu
costau. yn erbyn y Cyngor mewn unrhyw apêl neu her gyfreithiol ddilynol. O ganlyniad, roedd y ddau gais wedi'u
hail-gyflwyno i'w hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio ar 9 Hydref pan
benderfynwyd gohirio'r ddwy eitem hyd nes y derbynnir gwybodaeth bellach. Roedd yr adroddiadau atodol yn rhoi'r
wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani i aelodau ac eglurhad o'r rhesymau dros
ofyn am ailystyried y ceisiadau ynghyd â'r holl
wybodaeth gefndir berthnasol sy'n ymwneud â'r achos.
Siaradwr
Cyhoeddus –
Cyfeiriodd B. Paterson (yn Erbyn) - at benderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio i wrthod y cais ym mis Medi heb unrhyw newidiadau cynllunio ers
hynny; cymharodd risgiau ariannol i'r Cyngor a'r gostyngiad yng ngwerth eiddo a
chost i ddeiliaid tai lleol eiddo a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig;
dadleuodd na ddylid defnyddio tir llain las y tu allan i ffin datblygu i
hwyluso'r datblygiad.
Cynghorodd M. Gilbert (o Blaid) - bod y safle wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl
yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a dylid cydsynio
ceisiadau yn unol â'r CDLl
oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall; amlygodd y diffyg
cyflenwad tir sydd ar gael ar gyfer tai
a'r math o dai sydd eu hangen y byddai'r cais yn helpu i fynd i'r afael â hwy;
cyfeiriodd at dystiolaeth a chyngor clir y gallai pryderon a godwyd gael eu
lliniaru'n briodol gan amodau heb unrhyw resymau y gellir
eu cyfiawnhau dros wrthod.
Trafodaeth
Gyffredinol - Rhoddodd y Swyddog Monitro rywfaint o gyd-destun
cyffredinol i wneud penderfyniadau yn y Pwyllgor Cynllunio ynghyd â'r rhesymeg dros ailgyflwyno'r ceisiadau yn yr achos
hwn. Roedd swyddogion o'r farn bod gan y penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod mis Medi
a'r rhesymau a roddwyd drosto risg uchel o ddyfarnu costau sylweddol yn erbyn y
Cyngor ar apêl. Darparwyd manylion y
broses ar gyfer costau a ddyfarnwyd yn seiliedig ar resymoldeb penderfyniadau a
rhediad y mater ac roeddent wedi'u nodi yn yr adroddiad. Roedd amcangyfrif cost wedi'i ddarparu gan
gynrychiolydd cyfreithiol yr ymgeisydd a byddai angen craffu'n llym ar unrhyw
ddyfarniad cost dilynol ond roedd yn anghywir awgrymu bod cais costau yn
annhebygol o lwyddo yn yr achos hwn, a chyfeiriwyd at achos blaenorol a gyfeiriwyd
yn ôl i'r pwyllgor a arweiniodd at orchymyn i'r Cyngor dalu costau sylweddol ar
apêl. Roedd y penderfyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ei gymryd a dylid ei gyrraedd yn wrthrychol gan ystyried cyngor
swyddogion a’i farnu ar yr ystyriaethau perthnasol a
gyflwynwyd; lle gwnaed penderfyniadau yn groes i gyngor swyddogion dylid rhoi
rhesymau clir dros wneud hynny. Roedd y
cyngor yn yr adroddiad yn glir ac roedd gan swyddogion rwymedigaeth
broffesiynol i'w ddarparu. Wrth wneud eu
penderfyniad gofynnwyd i'r aelodau ystyried y risgiau a nodwyd ac ystyried
cyngor swyddogion cynllunio yn ofalus.
Yn ystod y drafodaeth mynegodd y Cynghorydd Bob
Murray ei farn bod y Pwyllgor Cynllunio wedi
pleidleisio’n ddemocrataidd yn erbyn caniatáu’r cais ym mis Medi ac roedd yn
cefnogi’r penderfyniad hwnnw a’r rhesymau a roddwyd dros wrthod yn seiliedig ar
faterion priffyrdd/ seilwaith a draenio / llifogydd. Cynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Melvyn
Mile, y dylid gwrthod y cais ar y sail honno.
Dywedodd y Cynghorydd Murray fod Prestatyn yn dioddef llifogydd ac
ymhelaethodd ar ei bryderon penodol yn hynny o beth, gan dynnu sylw at
broblemau a ddioddefwyd eisoes yn yr ardal, a chododd bryderon hefyd yn ymwneud
â phriffyrdd a'r seilwaith lleol.
Cytunodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill â barn ei gyd-Aelodau o Brestatyn ac nid oedd yn cefnogi caniatáu’r cais - fodd
bynnag, awgrymodd y dylid canolbwyntio’r rhesymau dros wrthod ar lai o seiliau cryfach yn hytrach na nifer fwy a allai
fod yn anoddach eu hamddiffyn. Ailadroddodd y Cynghorydd Peter Evans (Aelod
Lleol) ei wrthwynebiadau i'r datblygiad a gofynnodd am i'r penderfyniad
democrataidd a phendant a gymerwyd gan y pwyllgor ym mis Medi i wrthod caniatâd
gael ei gadarnhau. Roedd o'r farn bod y rhesymau dros wrthod fel y'u drafftiwyd ac a
nodwyd yn yr adroddiad yn dilyn cyfarfod mis Medi yn sail briodol i amddiffyn
apêl, gydag unrhyw newidiadau i eiriad terfynol y rhesymau i'w cytuno ag ef fel
Aelod Lleol y tu allan i'r cyfarfod yn unol ag arfer arferol. Er ei fod yn gwerthfawrogi barn leol ar y
datblygiad arfaethedig, amlygodd y Cynghorydd Tony Thomas yr angen am resymau
cynllunio cadarn er mwyn amddiffyn unrhyw apêl y credai nad oeddent wedi eu
darparu, yn enwedig o gofio bod yr ymatebion
technegol a'r dystiolaeth a ddarparwyd yn awgrymu y gellid lliniaru unrhyw
bryderon drwy amodau, a bod argymhellion yr Arolygydd Cynllunio yn dilyn yr
apêl ddiwethaf wedi cael sylw ers hynny.
Tynnodd sylw hefyd at yr angen am dai yn Sir Ddinbych,
ac o fath penodol, a byddai'r datblygiad arfaethedig yn darparu 13 o unedau tai
fforddiadwy a 44 o unedau tai dwy ystafell wely.
Cadarnhaodd Swyddogion nifer o faterion ac
ymatebwyd i gwestiynau fel a ganlyn -
·
dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar
ystyriaethau cynllunio a dim ond pen a bai rhesymau cynllunio digonol dros y
penderfyniad y dylai’r mater o gostau godi
·
byddai'n rhaid i'r Cyngor dalu unrhyw ddyfarniad
costau
·
roedd safle'r cais wedi'i ddyrannu fel tir ar
gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfredol
ac roedd yr ail gais a gyflwynwyd mewn perthynas â'r
ffordd gyswllt i wasanaethu'r datblygiad ar dir y tu allan i ffin y CDLl.
·
eglurwyd y ddau reswm dros wrthod a ddrafftiwyd
gan swyddogion ar seiliau priffyrdd / seilwaith a draenio / llifogydd yn
seiliedig ar benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ym mis Medi - roedd y risgiau
sy'n gysylltiedig â'r ddau reswm hynny wedi'u nodi'n
glir yn yr adroddiad a'u cyfleu i'r aelodau
·
pe bai aelodau'n bwriadu gwrthod caniatâd dylent
ddarparu geiriad manwl o'r rhesymau dros wrthod.
Ailadroddodd y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol)
ei farn y dylid gwrthod y cais ar y seiliau cynllunio
a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Medi ac fel y nodir yn yr
adroddiad.
Cynnig -
Cynigiodd y Cynghorydd Bob Murray, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Melvyn Mile, y
dylid gwrthod caniatâd ar sail y rhesymau cynllunio a gyflwynwyd gan y Pwyllgor
Cynllunio ym mis Medi yn ymwneud â phriffyrdd / seilwaith a draenio / llifogydd
ac fel y nodir yn yr adroddiad, yn amodol ar gytuno ar y geiriad olaf gyda'r
Aelod Lleol.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 3
GWRTHOD – 9
YMATAL – 1
PENDERFYNWYD y
dylid GWRTHOD caniatâd, yn groes i
argymhelliad y swyddog, ar seiliau'n ymwneud â phriffyrdd / seilwaith a draenio
/ llifogydd fel y'u cyflwynwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Medi ac fel y'i
drafftiwyd yn yr adroddiad, ar yr amod bod y geiriad terfynol yn cael ei gytuno
gyda'r Aelod Lleol.
Dogfennau ategol:
- ITEM 9 - LAND AT MINDALE FARM, MELIDEN, Eitem 9. PDF 168 KB
- ITEM 9 - LAND AT MINDALE FARM, MELIDEN - APPENDIX, Eitem 9. PDF 178 KB
- ITEM 9 - LAND AT MINDALE FARM, MELIDEN - APPENDIX 1, Eitem 9. PDF 2 MB