Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2019/0579/PF – Y MAES GLANIO, PARC LLEWENI, DINBYCH

Ystyried cais i newid defnydd tir i leoli uned swyddfa / lletygarwch, adeiladu ardal barcio gysylltiedig, defnyddio’r traciau presennol fel maes glanio ac at ddefnydd yr ysgol yrru; defnyddio’r traciau presennol i gynnal hyfforddiant 4x4 a lleoli caban ar gyfer cyflwyniadau / hyfforddiant a chreu wyneb caled yn gysylltiedig â thiwtora ar geir yn sglefrio yn y Maes Glanio, Parc Lleweni, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am newid defnydd tir ar gyfer gosod uned lletygarwch/ swyddfa, adeiladu lle parcio cysylltiedig a defnydd deuol o’r traciau presennol fel maes glanio a defnydd gan ysgol yrru; defnyddio’r trac presennol ar gyfer hyfforddiant 4x4 a gosod caban ar gyfer cyflwyno/hyfforddiant ac wyneb caled cysylltiedig ar gyfer tiwtora sgidio ceir yn y Maes Glanio, Parc Lleweni, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Amlygodd Ms. M. Green (yn Erbyn) – y gwrthwynebiad lleol i’r cynnig a’r pryderon y byddai’r llygredd sŵn cyfredol a ddioddefir oherwydd gweithgareddau ar y safle yn cynyddu pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu.  Cyfeiriwyd hefyd at bryderon ynghylch llygredd dŵr a golau a’r effaith niweidiol ar gyflawni Statws Awyr Dywyll.

 

Darparodd Mr. T. Witham (o Blaid) - rhoddodd rywfaint o gefndir i weithrediad y busnes a chynlluniau ar gyfer y dyfodol ac amlygodd yr effaith gadarnhaol ar yr economi leol a phobl ifanc trwy ddarparu hyfforddiant o safon.  Roedd y busnes wedi bod yn gweithredu o fewn terfynau datblygu a ganiateir, ni dderbyniwyd unrhyw gwynion sŵn ac ni fyddai dŵr yn cael ei ddefnyddio i efelychu amodau.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi'i chynnwys yn y papurau atodol hwyr (dalennau glas) o ran sylwadau a dderbyniwyd ynghyd â mân ail-eirio amod 4 ynghylch defnydd cymeradwy ac amod newydd a awgrymir i reoli'r defnydd o ddŵr wyneb.  Dywedodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) fod llawer o'r pryderon a godwyd i ddechrau wedi cael sylw gyda'r ymgeisydd ond gofynnodd am sicrwydd pellach ynghylch symud yr adeiladau pe bai'r busnes yn dod i ben ynghyd â phryderon priffyrdd a sŵn.  Gofynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Lleol) am eglurhad ynghylch yr oriau gweithredu.

 

Ymatebodd swyddogion i'r materion a godwyd gan aelodau gan gynghori -

 

·         roedd amod 5 yn ymwneud â symud yr adeilad a chyfleusterau cysylltiedig pe bai'r busnesau'n rhoi'r gorau i weithredu o'r safle yn orfodadwy yn gyfreithiol

·         pe bai unrhyw gwynion ynghylch sŵn, byddai swyddogion yn ymchwilio ac yn cymryd unrhyw gamau a ystyrir yn briodol

·         roedd symudiadau traffig yn debygol o fod yn isel ac wedi’u rhannu trwy gydol y dydd ac o ystyried lleoliad yr adeilad swyddfa roedd digon o dramwyfa i osgoi tagfeydd o amgylch y fynedfa; yn unol â hynny, nid oedd unrhyw bryderon ynghylch priffyrdd

·         cadarnhawyd bod yr oriau gweithredu fel y gwnaed cais amdanynt ac angen penderfyniad arnynt rhwng 08.30 a 19.00.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Christine Marston at gŵyn ynghylch rasio ar y safle a dywedodd swyddogion nad oedd y cais yn cynnwys cyfeiriad at weithgareddau neu ddigwyddiadau rasio ac roedd amod 4 yn atal y traciau rhag cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw weithgaredd rasio ceir.  Gellid ymchwilio i unrhyw adroddiadau ar sail tystiolaeth o weithgareddau anawdurdodedig fel mater ar wahân y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cynnig - Roedd y Cynghorydd Mark Young yn fodlon bod yr holl bryderon a godwyd wedi cael sylw priodol ac felly cynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans, y dylid caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

                

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 12

GWRTHOD – 1

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: