Eitem ar yr agenda
UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI (SARTH)
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol, a’r Prif Weithredwr,
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn (copi ynghlwm) ar effeithiolrwydd y bartneriaeth
newydd o ran helpu pobl i gael llety o fewn amser resymol.
11.45 a.m. – 12.30 p.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau yr adroddiad Un Llwybr Mynediad at Dai
(SARTH) (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i fanylu ar weithrediad SARTH sy’n delio
â sut caiff ceisiadau am dai cymdeithasol eu rheoli.
SARTH yw “Un
Llwybr Mynediad at Dai”, sef yr enw a roddir ar y polisi Dyrannu Tai Cyffredin
rhwng cynghorau Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Chonwy, ynghyd â’r Cymdeithasau
Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) sydd yn gweithredu yn y siroedd
hyn.
Roedd y polisi yn
sicrhau bod dyraniadau tai cymdeithasol yn cael eu darparu yn unol â’r
ddeddfwriaeth tai (Deddf Tai 1996, Tai (Cymru) 2014) a Chod Canllawiau ar gyfer
Dyrannu Llety. Roedd hyn yn angenrheidiol
i liniaru’r risg o her gyfreithiol ond hefyd i sicrhau y dyrannwyd tai i’r rhai
sydd â'r angen fwyaf.
Cafodd
gweithrediad cyffredinol y polisi ei fonitro gan Grŵp Llywio Rhanbarthol a
oedd yn cynnwys Cyngor Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig.
Tra roedd y
polisi yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y 3 sir, roedd darparu’r gofrestr tai
cyffredin yn gyfrifoldeb unigol i bob sir.
Yn Sir Ddinbych, roedd un cofrestr ar gyfer yr holl dai cymdeithasol
sy’n cael eu gosod gan y cyngor, a’r 6 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd
yn gweithredu o fewn Sir Ddinbych.
O ran darpariaeth
weithredol cofrestr gyffredin Sir Ddinbych, gwnaed penderfyniad ym mis Medi
2016 i fynd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, gan eu bod eisoes yn
darparu’r gwasanaeth ac wedi bod drwy’r broses o newid sylweddol i sicrhau
gweithrediad didrafferth o’r gwasanaeth.
Roedd y
gwasanaeth yn cynnwys ymdrin â dros 300 o alwadau yr wythnos. Cafodd achosion eu cyfeirio’n aml at
wasanaethau eraill megis Atal Digartrefedd, Gorfodi Tai, Tai Teg a gwasanaethau
cynnal hefyd. Roedd ymdrin â galwadau a
gohebiaeth ysgrifenedig yn cynnwys brand Sir Ddinbych a nid oedd cwsmeriaid yn
ymwybodol o leoliad y staff.
Roedd cost
cyflwyno'r bartneriaeth yn llai na'r gost i ddarparu'r gwasanaeth yn unig. Y gost flynyddol gyfredol i Sir Ddinbych oedd
£52k.
Cafodd
perfformiad a'r weithred o gytundeb partneriaeth gyda Sir y Fflint ei fonitro i
sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu darparu a’u cynnal gan gynnwys
perfformiad ateb galwadau.
Cadarnhaodd Prif
Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Clare Budden fod llety yn brin a bod
diffyg llety yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sengl. Roedd Clwyd Alyn wedi derbyn cyllid adfywio
gan Lywodraeth Cymru ac roeddent yn y broses o wagio cartrefi yn Stryd Edward
Henry, Y Rhyl, yn barod ar gyfer dymchwel ac adeiladu eiddo newydd.
Rhoddwyd crynodeb
byr o'r prosiectau yr oedd Clwyd Alyn wedi'u cynnal mewn gwahanol feysydd yn
ddiweddar.
Cadarnhawyd bod y
cais am dai yn wasanaeth ffôn a oedd yn broses haws i ymgeiswyr. Atebwyd y rhif ffôn ar gyfer SARTH gan bobl a
oedd yn arbenigwyr technegol ac, felly, hwn oedd y rhif gorau i bobl ei ffonio
i siarad ynghylch opsiynau ar gyfer tai.
Os oedd gan
unrhyw un ddiddordeb mewn cydberchnogaeth, Tai Teg oedd y sefydliad i gysylltu
ag o. Byddai llinell ffôn SARTH yn gofyn
yr holl gwestiynau perthnasol i ddarganfod p’un a oedd gan yr ymgeisydd
ddiddordeb mewn rhentu eiddo neu gyd-berchnogaeth ac yna byddent yn cael eu
cyfeirio at y person/sefydliad gorau i'w cynorthwyo.
Diolchodd y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau i'r swyddogion ac yn enwedig Prif Weithredwr
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn am fynychu'r cyfarfod a darparu cymaint o wybodaeth
werth chweil.
PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol:
- SARTH Report 7 November 2019, Eitem 7. PDF 212 KB
- SARTH Report 071119 - Appendix 1 SARTH Policy Cymraeg, Eitem 7. PDF 1 MB
- SARTH Report 071119 - Appendix 2, Eitem 7. PDF 284 KB
- SARTH Report 071119 - Appendix 3, Eitem 7. PDF 269 KB
- SARTH Report 071119 - Appendix 4 Waiting Times data, Eitem 7. PDF 346 KB
- SARTH Report 071119 - Appendix 5, Eitem 7. PDF 337 KB