Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd gorwariant o £5.492 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ pellach neu geisiadau)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

               

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor.  Hefyd amlygodd y peryglon mewn perthynas ag Incwm o Dreth y Cyngor a’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (CTRS).  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi elfen o gyllid ychwanegol ar draws Cymru ar gyfer y CTRS.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y rhagwelir lleihad o 1.5% yn Incwm o Dreth y Cyngor ac roedd LlC wedi cytuno i edrych i mewn i’r posibilrwydd o gyllido darpariaeth o ran hynny.  Hefyd amlygwyd bod risgiau o amgylch cyllidebau gofal cymdeithasol, cludiant ysgol a gwasanaethau gwastraff.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·        Roedd y Cynghorydd Brian yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o waith y Cyngor i wneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu er mwyn lleihau'r gorwariant a ragwelwyd a lliniaru effaith Covid-10 ar gyllid yr awdurdod. 

Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cyllid bod cyllid LlC a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn wedi cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer colled incwm ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.  Roedd mwyafrif o gais Chwarter 1 wedi cael ei fodloni ac roedd cais Chwarter 2 yn cael ei werthuso ar hyn o bryd.  Byddai ceisiadau hefyd yn cael eu gwneud ar gyfer Chwarter 3 a 4 ar yr amser priodol a byddai’r awdurdod yn parhau i wneud cais am unrhyw ffynonellau o gyllid ar gael iddynt er mwyn gwneud y mwyaf o incwm.

·        Roedd y Cynghorydd Mark Young yn cydymdeimlo â’r rhai oedd yn wynebu anawsterau ariannol a chwestiynodd y dull o adennill Treth y Cyngor.  

Rhoddwyd sicrwydd bod gan y Cyngor safbwynt cytbwys gyda dull sensitif a hyblyg gan ystyried amgylchiadau unigol.  Er mai ychydig iawn o gamau adennill a gymerwyd yn ystod y chwe mis cyntaf, roedd y Cyngor bellach yn ymgysylltu â thrigolion ac yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i dargedu cymorth lle bo angen ac er mwyn sicrhau ei fod yn adennill ôl-ddyledion lle bo’n briodol.  Roedd disgwyliad gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith adennill.

·        mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhawyd bod safleoedd yr hen ysgol yng Nghlocaenog a Chyffylliog yn eiddo i'r Cyngor ac roedd defnydd y safleoedd yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, yn unol â pholisi gwaredu'r Cyngor. 

O ran Ysgol Llanbedr, roedd egwyddor sylfaenol cyfnewid tir wedi cael ei gytunol fel rhan o’r cynnig gwreiddiol, er mwyn darparu’r ysgol newydd a rhoddwyd diweddariad ar drafodaethau ar gyfer defnydd safle'r hen ysgol yn y dyfodol, eto yn unol â pholisi gwaredu'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: