Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FLAENORIAETHAU’R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

 

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) (copi ynghlwm)

 

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm)

2.15 p.m.– 3.00 P.M.

 

 

Cofnodion:

(a)  Lles Meddyliol

 

Cyflwynodd Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru) y wybodaeth ddiweddaraf ar flaenoriaeth Lles Meddyliol.  Cadarnhaodd bod gwaith yn dechrau datblygu ar y flaenoriaeth hon, gyda chyfarfodydd wedi’u cynnal gyda BIPBC a Thîm Gweithredu Lleol (LIT) ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych.  

 

Yn edrych ar ganolbwynt gwledig ynghyd ag effaith Brexit.   Roedd gwaith llyfrgelloedd yn parhau gan gysylltu gyda LIT (Tîm Gweithredu Lleol) ac ICAN.   Roeddent yn sefydlu hyfforddiant iechyd meddwl a hunanladdiad ac yn gobeithio mynd â hynny ymhellach.   Byddai papur yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu i holl aelodau’r PSB.

 

Roedd adroddiad yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, gyda mesuriadau data ar gael mewn oddeutu wythnos.  Bydd hyn yn darparu’r sefyllfa ddiweddaraf ar y flaenoriaeth ac yn cynnwys dewisiadau ar gyfer symud elfen o’r gwaith ymlaen.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod y papur yn cael ei ddosbarthu i’r Bwrdd ddechrau mis Ionawr, i’w ystyried gan yr Aelodau.

 

Cytunwyd y byddai nodyn briffio cyn y cyfarfod yn cael ei gyflwyno gyda phecyn y rhaglen yn y dyfodol. 

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

 

Hysbysodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, y Bwrdd bod gwaith partneriaeth yn gweithio'n dda gyda chyfleoedd ar gyfer cydweithio'n cael eu harchwilio.   Bydd yr is-grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2020 i symud ymlaen â’r gwaith hwn. 

 

O ran rhaglen Ymwybyddiaeth o Ddementia dan arweiniad y Gymuned, nodwyd bod cryn dipyn o waith dan arweiniad y gymuned wedi'i weithredu.   Ym mis Ionawr 2020 bydd gwaith cynllunio ar gyfer wythnos Cyfeillgar i Ddementia yn dechrau yn barod ar gyfer Mai 2020.   Awgrymwyd bod y PSB yn cymryd dull cydweithredol i gefnogi gweithgareddau yn ystod Wythnos Dementia.

 

Hysbysodd HW yr aelodau bod DVSC wedi bod yn dderbynnydd llwyddiannus Cronfa Her yr Economi Sylfaenol i gefnogi ail-agor Neuadd y Farchnad Rhuthun gyda Chyngor Sir Ddinbych.   Bydd Neuadd y Farchnad yn cael ei rhedeg fel Menter Gymdeithasol i gefnogi twf economaidd cynhwysol yn yr ardal.  Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Rhuthun a phapurau’n cael eu rhannu gan Lywodraeth Cymru.  

 

Nid oedd gwaith ar ddigartrefedd wedi’i ddarparu oherwydd materion capasiti.    Cadarnhawyd cyn y gellir darparu diweddariad, roedd angen blaenoriaethu materion a chynnal gwaith pellach.   Roedd y Loteri Genedlaethol wedi darparu cyllid blaenoriaeth ar gyfer cynlluniau digartrefedd.

 

(c)  Gwydnwch amgylcheddol

 

Darparodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) y wybodaeth ddiweddaraf ar Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Yn dilyn cymeradwyaeth yr Addewidion Cymunedol ym mis Gorffennaf 2019 gan y Bwrdd, mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda thîm marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi ymgysylltiad y cynllun.   Mae cyfarfod wedi’i drefnu gyda Swyddogion Cyfathrebu o sefydliadau partner PSB i rannu a cheisio safbwyntiau ar y gwaith hwn a thrafod sut y gall partneriaid gynorthwyo i hyrwyddo ac annog cyfranogiad yn y cynllun.

 

Bydd yr Addewidion Cymunedol yn cael eu lansio’n ffurfiol yn y Flwyddyn Newydd.   Yn y cyfamser mae swyddogion yn defnyddio gweithgareddau ymgysylltu partneriaid fel lansiad ysgafn o’r cynllun i hysbysu grwpiau o ran sut y gallant gael cyfranogiad.

 

Roedd Datganiad y Sefyllfa Amgylcheddol wedi’i ddiwygio i ganolbwyntio ar 2 faes ymrwymiad, Carbon ac Ynni ac Addasu Newid Hinsawdd.

 

Hysbysodd FL yr aelodau bod mesurau drafft wedi’u nodi, ond roedd rhai camau gweithredu lle na nodwyd mesurau ar gyfer rhai camau gweithredu gan fod angen gwaith pellach i nodi’r cyfeiriad.   Bydd is-grŵp yr amgylchedd yn ailymgynnull yn y Flwyddyn Newydd i symud ymlaen â’r gwaith ac i gadarnhau’r mesuryddion perfformiad.  

 

Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer Bwrdd Rhaglen Amgylchedd Rhanbarthol gan y Cadeirydd.  

 

Yn dilyn digwyddiad amgylcheddol rhanbarthol a gynhaliwyd ym mis Medi 2019, roedd cynigion i sefydlu dull rhanbarthol tuag at waith amgylcheddol y PSBau.   Cyflwynwyd hyn i Fwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ac roedd yn cynnwys:

·         Sefydlu Bwrdd Rhaglen Amgylchedd Rhanbarthol Gogledd Cymru.

·         Sefydlu is-grwpiau ar gyfer pob un o’r themâu a nodwyd yn y digwyddiad (fflyd, asedau, caffael a rheoli tir).

·         Defnyddio grant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gogledd Cymru i gomisiynu ymgynghorydd i gwmpasu a darparu argymhellion i symud y Bwrdd yn ei flaen.

 

Roedd Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cefnogi’r cynigion ac wedi gofyn am ragor o wybodaeth am y strwythur a'r aelodaeth arfaethedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu manylion tendr i gomisiynu ymgynghorydd i gwmpasu a nodi bylchau.   Rhagwelir y byddai’r broses o dendro yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Hysbysodd Iwan Davies yr aelodau bod Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi nodi newid hinsawdd fel blaenoriaeth.   Disgwylir i’r Bwrdd gynnal gweithdy ym mis Ionawr 2020 i sefydlu cyfeiriad.  

 

Hysbysodd Bethan Jones yr aelodau bod BIPBC yn mynd i gynnal gweithdy gydag arbenigwr amgylcheddol yn y Flwyddyn Newydd.

 

PENDERFYNWYD

  1. bod y Bwrdd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau’r PSB.
  2. bod yr adroddiad dewisiadau lles meddyliol yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau pan fydd ar gael yn y Flwyddyn Newydd.
  3. Bod y mesuryddion perfformiad ar gyfer datganiad sefyllfa’r amgylchedd yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth 2020.

 

 

Dogfennau ategol: