Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADBORTH COMISIYNYDD CYMRAEG

Derbyn diweddariad ar wiriadau cydymffurfio a wneir gan Gomisiynydd Cymraeg.

Cofnodion:

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd y byddant yn creu adroddiad blynyddol a oedd yn adolygu negeseuon e-bost, cwynion, galwadau ffôn, gwefan ayyb. Roedd y canlyniadau diweddaraf yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd bod problemau bychain ynghylch negeseuon e-bost, lle’r roedd nifer o e-byst Cymraeg wedi cael eu hanfon i’r sir ac atebwyd un e-bost yn unig yn y Gymraeg.

 

Roedd dogfennau, llyfrau, polisïau ayyb i gyd yn ddwyieithog, er roedd arnynt angen sicrhau bod gwasanaethau yn ystyried y lefel o’r Gymraeg i bob swydd.

 

Cytunodd yr Aelodau y gallai fod yn fuddiol i Gomisiynydd y Gymraeg fynychu cyfarfod briffio’r cyngor, neu’r cyngor llawn.

 

Diolchodd Comisiynydd y Gymraeg i bawb am y gwahoddiad yn y cyfarfod. Hefyd diolchodd i'r Cynghorydd Graham Timms am ei gyflwyno yn y Gymraeg. Roedd y Comisiynydd eisiau diweddaru'r aelodau o'r sefyllfa gyfredol, cyflwynodd Dylan Jones o’r tîm Comisiynydd Y Gymraeg. Hefyd roedd y Comisiynydd eisiau hysbysu’r aelodau y bydd newidiadau yn cael eu gwneud.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod adroddiad yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn sy’n adolygu safonau o fewn yr Awdurdod Lleol, cwynion a sut yr ymdriniwyd â hwy. O ran newid, roeddynt wedi gweld gwahaniaeth mawr. Ers penodi Swyddog Iaith Gymraeg, mae gwahaniaeth mawr wedi bod yn fewnol.

 

Amlygwyd mai’r newid sylweddol yn fewnol i Sir Ddinbych oedd symud y Gwasanaeth Hamdden. Byddai angen ei fonitro i sicrhau bod yr un lefel o safonau yn cael ei ddefnyddio.

 

Dywedodd y Comisiynydd eu bod wedi adolygu recriwtio rhwng mis Mehefin a Rhagfyr 2018. Roedd 85 o swyddi yn cael eu hysbysebu ar y pryd, roedd 75 yn Gymraeg yn ddelfrydol a 10 yn Gymraeg yn hanfodol. Dywedodd y Comisiynydd y dylai bod categorïau eraill ar y swydd o ran y Gymraeg, roedd angen adolygu'r broses gyfredol.

 

Eglurodd y Comisiynydd bod ychydig o newid yr oedd wedi rhoi ar waith ers dechrau ei swydd.

Dywedodd ei fod angen sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni ymchwiliadau ac ymchwil manwl a chywir.

Y rheswm dros hyn yw y gallai’r Comisiynydd gynnal ymchwiliad heb gael unrhyw wybodaeth gan yr Awdurdod Lleol. Ar ôl dechrau’r ymchwiliad yna byddai'n rhaid ei gwblhau'n llawn.

Byddai’r comisiynydd yn cyflawni’r ymchwiliad, cyflwyno adroddiad i’r Awdurdod Lleol, yna byddai’r Awdurdod Lleol yn derbyn y broblem ac yn adolygu sut y byddent yn stopio’r un broblem rhag digwydd yn y dyfodol.

 

Amlygodd y Comisiynydd a’r aelodau'r rhwystrau y mae Iwerddon yn ei gael gyda'r iaith Gaeleg, a'r pryder bod ieithoedd swyddogol yn marw.

Nid oedd eisiau'r un problemau godi yng Nghymru, mae tua 9% o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r dydd, bob dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod eisiau’r ffigur hwn fod yn 20% erbyn 2050. 

 

Dywedodd y Comisiynydd ei fod eisiau cwblhau gwaith ynghylch lefel Sgil Iaith Gymraeg. Eglurodd yn ystod ymweliad diweddar i ysgol, ei fod yn amlwg bod myfyrwyr chweched dosbarth yn deall Cymraeg ond yn cael trafferthion i ymateb yn y Gymraeg. Teimlodd bod angen rhywbeth mewn lle i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i siarad Cymraeg ar ôl y byd addysg.

Mae myfyrwyr yn gadael addysg heb wybod bod yr iaith Gymraeg yn sgil. Dyma’r rheswm fod y Comisiynydd eisiau canolbwyntio ar bolisïau recriwtio, teimlodd petai 75 o swyddi wedi’u rhestru fel Cymraeg yn ddymunol, yna nid oes digon o feddwl wedi cael ei roi wrth asesu’r rôl hon.

 

Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod safonau yn bwysig, ond mai dim ond megis dechrau yw hyn. Teimlodd bod agwedd yn flaenoriaeth, fodd bynnag roedd gwaith gwych wedi cael ei wneud eisoes yn yr Awdurdod Lleol.

Yn y sir, rydym wedi gweld buddsoddiadau sylweddol mewn ysgolion, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol y Llys ayyb. Er hynny mae niferoedd Addysg Gymraeg wedi cynyddu gyda’r gobaith y bydd y ffigurau hyn yn parhau i gynyddu. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y byddai’n croesawu'r Comisiynydd i gefnogi’r Ganolfan Iaith yn Ysgol Glan Clwyd. Roedd y ganolfan yn bwysig gan y gallent wthio'r iaith Gymraeg o bobl ifanc i oedolion.

Yn ôl yr aelodau, unwaith y mae disgyblion yn cyrraedd 16 oed ac yn penderfynu ar eu pynciau Lefel A, maent yn tueddu symud i addysg cyfrwng Saesneg gan ei fod yn cynnig mwy o opsiynau. Roedd angen gwneud rhywbeth i gadw myfyrwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Dywedodd y Comisiynodd mai’r Awdurdod Lleol sydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ganrannau. Er enghraifft gallai rhai adrannau asesu’r swydd a dod i’r casgliad nad oedd y Gymraeg yn hanfodol ac felly bod digon o siaradwyr Cymraeg eisoes yn yr adran.

Aeth ymlaen i egluro nad diffyg siaradwyr Cymraeg ydi’r broblem, ond hyder y rhai sydd yn gallu siarad Cymraeg.

 

Mae Coleg Cambria bellach yn cynnig rhywfaint o arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhai o’r tiwtoriaid personol yn siarad Cymraeg hefyd. Er bod hynny’n wych, dywedodd y Comisiynydd y gellir gwneud llawer mwy i gefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg.

 

Roedd y Comisiynydd yn teimlo ei bod yn bwysig dilyn y broses gwynion gywir. Unwaith mae’r Comisiynydd yn derbyn cwyn, mae’r mater yn cael ei ddyrannu i swyddog ymchwiliadau ac mae’r swyddog hwnnw yn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad llawn i’r mater. Mae swyddogion ymchwiliadau yn ystyried unrhyw gwynion blaenorol, mesurau sydd ar waith i atal cwynion yn y dyfodol, yn ogystal â gwneud argymhellion ynghylch a ddylid cynnal ymchwiliad llawn.

Dywedodd y byddai’n fodlon rhyddhau adnoddau mewnol pan fydd polisïau’n cael eu llunio, yn hytrach na dod o hyd i broblemau yn nes ymlaen.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau ei fod o wedi dysgu Cymraeg ac roedd yn betrusgar wrth siarad, a dywedodd ei fod yn enghraifft berffaith o’r math o berson y mae angen canolbwyntio arnynt. Dywedodd ei fod yn teimlo y byddai’n cael ei feirniadu am siarad yn anghywir petai’n siarad Cymraeg, er ei fod yn gwybod mai nid dyna’r achos. Gofynnodd a oedd unrhyw beth yn cael ei ddatblygu i sicrhau nad yw rhwystrau fel y rhai uchod yn dod yn broblem.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod gwisgo cortynnau gwddf a bathodynnau Cymraeg yn ffordd dda o annog pobl i siarad Cymraeg gyda’i gilydd. Ond mae’n rhywbeth i’w adolygu os bydd y rhwystrau’n parhau. Dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi cytuno i fynychu pob un o gyfarfodydd Rhanbarth Llais Cymru.

 

Aeth ymlaen i egluro eu bod yn gweithio’n agos gyda banciau a siopau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, roedd Menter Iaith yn gyfrifol am fusnesau llai.

 

I gloi, diolchodd y Comisiynydd i’r aelodau am y cyfle gael mynychu’r cyfarfod, a dywedodd y byddai’n fodlon mynychu unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: derbyn y diweddariad a bod y pwyllgor yn ei nodi.

 

Dogfennau ategol: